Mae’r gronfa galedi bellach ar agor ar gyfer ceisiadau gan fyfyrwyr sydd wedi cofrestru. Peidiwch â chofrestru at ddiben cael mynediad at y cronfeydd, oherwydd efallai y byddwch yn atebol am ffioedd dysgu. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â hardshipfunds@swansea.ac.uk.

Gwybodaeth am wneud cais i’r gronfa:

Rhaid cyflwyno cais o leiaf 5 wythnos cyn dyddiad gorffen eich cwrs. Caiff pob cais ei asesu yng nghyd-destun y ffaith bod yr ymgeisydd yn nesáu at ddyddiad gorffen ei gwrs. Os ydy'ch dyddiad gorffen wedi ei estyn, rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o hyn cyn i ni allu parhau i asesu eich cais.

Sylwch NAD yw dyfarniadau o'r gronfa wedi'u gwarantu. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â hardshipfunds@swansea.ac.uk 

Ddim yn siŵr a allwch chi wneud cais? Gweler ein canllawiau cyflym isod:

I fod yn gymwys, rhaid eich bod:-

-Wedi cofrestru ar gwrs amser llawn neu ran-amser (ni all myfyrwyr allanol gyflwyno cais).

-Cael mynediad at yr holl gyllid y mae'r myfyriwr yn gymwys amdano

- Yn fyfyriwr cartref neu’n fyfyriwr o’r UE â statws ffioedd cartref

- Gall myfyrwyr cymwys o’r DU neu’r UE sydd wedi gohirio eu hastudiaethau wneud cais i’r gronfa galedi ar yr amod’ iddynt fod yn gofrestredig yn y flwyddyn academaidd bresennol cyn gohirio eu hastudiaethau

Os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol, ewch i’n tudalen we Cronfa Gymorth i Fyfyrwyr Rhyngwladol.

Beth yw ystyr bod mewn caledi ariannol?

Wrth asesu ceisiadau byddwn yn ystyried a ydy myfyriwr yn methu talu ei gostau presennol a hanfodol oherwydd amgylchiadau annisgwyl. Mae disgwyl i fyfyrwyr ddarparu tystiolaeth i gefnogi eu ceisiadau.

Dylid cyfyngu tystiolaeth o'ch amgylchiadau i ddogfennaeth swyddogol yn unig a'i lanlwytho i ffurflen gais.  PEIDIWCH ag anfon unrhyw dystiolaeth drwy e-bost oni bai y gofynnir i chi wneud hynny.  Bydd unrhyw dystiolaeth a anfonir drwy e-bost heb gais yn cael ei dileu yn unol â rheoliadau’r GDPR.

Enghreifftiau o bryd na ddylech chi wneud cais.
- Nid ydych chi wedi manteisio ar yr HOLL gyllid statudol y mae gennych hawl iddo
- Gallwch dalu eich costau uniongyrchol a hanfodol
- Mae arian ar gael i chi mewn cyfrifon cynilo megis ISAs neu Gymorth i Brynu
- Nid ydych chi wedi defnyddio gorddrafft a drefnwyd – dylai cais i’r gronfa fod yn opsiwn olaf
- Talu tuag at ffioedd dysgu – nid dyna ddiben y gronfa
- Ni wnaethoch chi gynllun ariannol rhesymol i dalu eich costau cyn dechrau eich cwrs
- Yn anffodus, ni allwn helpu tuag at gost therapi neu gwnsela preifat. Dylech gysylltu â'r Gwasanaeth Lles

Os oes gennych ymholiadau eraill ynghylch gwneud cais, e-bostiwch hardshipfunds@abertawe.ac.uk 
Rhaid i fyfyrwyr ddefnyddio eu cyfeiriad e-bost myfyriwr wrth gysylltu ag unrhyw gyfeiriad e-bost neu staff tîm Cyngor Ariannol

Y cymorth sydd ar gael

Bydd angen i fyfyrwyr gwblhau'r ffurflen gais ar gyfer y taliad cymorth sy'n berthnasol i'w amgylchiadau a'i anghenion.  Cwblha bob ffurflen gais sy'n berthnasol.  Rydym wedi darparu esboniadau ar y ceisiadau isod ynghyd â dolenni i'r ffurflen ei hun.  Bydd yr holl ddolenni yn dy arwain at yr un dudalen, mae'n rhaid i ti ddewis y ffurflen gais gywir o'r gwymplen 'Fund'.  Nodyn atgoffa bod yr holl geisiadau'n cael eu hasesu’n seiliedig ar galedi ac nid ydynt wedi'u gwarantu. 

Dolen i Wneud Cais

Cymorth gyda Phrawf Diagnostig 

Dyfarniad cyfyngedig yw hwn ar gyfer cost Asesu Diagnostig am Anghenion Dysgu Penodol mewn achosion o galedi ariannol yn unig. Argymhellir bod myfyrwyr yn cysylltu â hardshipfunds@abertawe.ac.uk cyn cyflwyno cais.

Dolen i Wneud Cais

Rhaid i fyfyrwyr ddefnyddio eu cyfeiriad e-bost myfyriwr wrth gysylltu ag unrhyw gyfeiriad e-bost neu staff tîm Cyngor Ariannol

*Bydd pob dolen yn mynd â chi i'r un dudalen. Rhaid i chi ddewis y broses ymgeisio gywir o gwymplen y 'Gronfa'.

Cefnogaeth Ychwanegol

Gweler isod am opsiynau cefnogaeth ychwanegol a allai fod yn berthnasol i chi

Telerau ac amodau ar gael ar gais