Mynd i Ddigwyddiadau'r Wythnos Groeso

Bydd Wythnos Croeso ar gyfer Medi 2026 yn digwydd o'r 21af tan y 25ain o Fedi 2026, gyda nifer o ddigwyddiadau'n digwydd bob dydd. Dylid gwneud ymdrech gennych i fynychu'r holl ddigwyddiadau sydd wedi'u rhestru yn y dyddiadur isod

Mae digwyddiadau yn gyfle i gael cipolwg ar dy raglen radd ddewisol, gofyn cwestiynau a dod i adnabod staff a myfyrwyr yn dy adran. Edrychwn ymlaen at gwrdd â thi!

Oes angen help arnat ti i ddod o hyd i leoedd ar y campws? Gweler y mapiau o Gampws Singleton a Champws y Bae i'th helpu i ddod o hyd i leoliadau pob sesiwn.

Amserlen Sefydlu

Dydd Llun 21ain Medi

Mae'r amserlen hon yn berthnasol i'r bobl sy'n dechrau ar Mathemateg Blwyddyn 0 (Sylfaen) & 1.  


11:30 - 12:30 - Sgwrs Groeso Adrannol, Blwyddyn 0, 1 ac MSc - 002, Y Ffowndri Gyfrifiadol  
Dylai pob myfyriwr sy'n dechrau Blwyddyn Sylfaen, Blwyddyn 1 neu MSc mewn rhaglen Mathemateg ymuno â'r Sgwrs Groeso Adrannol hon gyda Chyfarwyddwr eich Rhaglen. 

12:30 - 16:00 - Sesiwn Galw Heibio, Cynrychiolwyr a Chymdeithasau - 320 (Ystafell Ddarllen Mathemateg), Y Ffowndri Gyfrifiadol 
Galwch heibio i'r Ystafell Ddarllen Mathemateg - cyfle i ymgyfarwyddo â'r man astudio allweddol hwn, cwrdd â Chynrychiolydd eich Ysgol, a chael gwybod am y gymdeithas Fathemateg. 

Dydd Mawrth 22ain Medi Dydd Gwener 25ain Medi