Os oes gennych ymholiadau ynghylch eich penderfyniad/canlyniadau academaidd, dylech gysylltu â'ch Cyfadran yn y lle cyntaf. Mae'r cysylltau Hwb.
Apeliadau ac Uniondeb Academaidd
Apeliadau Academaidd
Os byddwch yn methu symud ymlaen i gam nesaf eich rhaglen gradd ac ni chaniateir cyfle i chi sefyll arholiadau atodol, neu os hoffech apelio'r penderfyniad ar eich dyfarniad terfynol, byddwch yn cael cyfle i apelio'r penderfyniad. Mae manylion am sut i apelio ar gael yn y Gweithdrefnau Apeliadau Academaidd.
Uniondeb Academaidd
Mae uniondeb academaidd yn adlewyrchu cyfres gyffredin o egwyddorion sy'n cynnwys gonestrwydd, ymddiriedaeth, diwydrwydd, tegwch a pharch, ac mae'n ymwneud â diogelu uniondeb gwaith a dyfarniad myfyriwr. Mae uniondeb academaidd yn seiliedig ar yr ethos bod y modd rydych chi'n dysgu'r un mor bwysig â'r hyn a ddysgir.
Mae uniondeb academaidd yn seiliedig ar nifer o egwyddorion craidd. I fyfyrwyr, mae hyn yn golygu:
- Derbyn cyfrifoldeb am eu gwaith a'u hastudiaethau eu hunain;
- Parchu barn pobl eraill, hyd yn oed wrth anghytuno â nhw;
- Parchu hawliau pobl eraill i weithio ac astudio o fewn y 'gymuned ddysgu';
- Cydnabod gwaith pobl eraill, lle mae wedi cyfrannu at eu hastudiaethau, eu hymchwil, neu eu cyhoeddiadau eu hunain;
- Sicrhau bod cyfraniad yr unigolyn at waith grŵp yn cael ei gynrychioli mewn modd gonest;
- Cefnogi eraill i ymddwyn ag uniondeb academaidd;
- Glynu wrth y gofynion moesegol a, lle bo'n briodol, y safonau proffesiynol, sy'n berthnasol i'r ddisgyblaeth;
- Osgoi gweithredu mewn modd a fyddai'n ennill mantais annheg dros eraill;
- Sicrhau bod canlyniadau ymchwil neu ddata arbrofol yn cael eu cynrychioli mewn modd gonest;
- Cydymffurfio â'r gofynion asesu.
Uniondeb academaidd yw'r egwyddor arweiniol ar gyfer pob asesiad myfyrwyr, gan gynnwys arholiadau, cyflwyniadau llafar, aseiniadau ysgrifenedig, traethodau estynedig, a thraethodau ymchwil.
Camymddygiad Academaidd
Camymddwyn academaidd yw peidio â glynu wrth egwyddorion a gwerthoedd uniondeb academaidd, ac yn aml bydd yn cynnwys ymgais gan fyfyriwr i gael mantais annheg mewn asesiad. Mae camymddygiad academaidd yn cynnwys: llên-ladrad; cydgynllwynio; torri rheoliadau arholi; ffugio data; personadu rhywun arall neu gomisiynu gwaith i'w asesu. Mae'r Brifysgol yn rhoi ystyriaeth ddifrifol iawn i bob honiad o gamymddygiad academaidd.
Swyddogion Uniondeb Academaidd y Gyfadranau
Bydd gan bob Cyfadran ei Swyddogion Uniondeb Academaidd ei hun a fydd yn gyfrifol am ymdrin ag achosion ar lefel y Cyfadran (tramgwydd cyntaf).
Diffinnir camymddwyn academaidd fel unrhyw weithred lle mae unigolyn yn ceisio mantais annheg nas caniateir, naill ai iddo ei hun neu i rywun arall. Bydd hyn yn berthnasol p'un a yw ymgeisydd yn gweithredu ar ei ben ei hun neu ar y cyd ag un neu fwy o unigolion eraill. Tybir bod gweithred neu weithredoedd yn cydweddu â’r diffiniad hwn p’un a ydynt yn digwydd yn ystod, neu mewn perthynas ag, arholiad ffurfiol, gwaith cwrs neu unrhyw fath arall o asesiad mae ymgeisydd yn ymgymryd ag ef i ennill cymhwyster academaidd neu broffesiynol ym Mhrifysgol Abertawe.
Camymddygiad academaidd yw:
- Mynd ag unrhyw ddeunydd nas awdurdodwyd i'r ystafell arholi, megis llyfr, llawysgrif, data neu bapurau rhydd, gwybodaeth a geir trwy ddyfais electronig, neu unrhyw ffynhonnell arall o wybodaeth waharddedig;
- Cyflwyno papur arholiad gan honni mai eich gwaith chi ydyw pan fydd y sgript yn cynnwys deunydd a gynhyrchwyd trwy ddulliau gwaharddedig.
- Copïo gwaith neu gyfathrebu â rhywun arall yn yr ystafell, ac eithrio pan awdurdodir hynny gan oruchwyliwr;
- Cyfathrebu'n electronig â rhywun arall yn ystod arholiad;
- Bod â dyfais electronig yn eich meddiant, sy'n gallu cyfathrebu â dyfeisiadau eraill neu â phobl eraill yn ystod arholiad;
- Personadu ymgeisydd mewn arholiad, neu ganiatáu i rywun arall eich personadu;
- Cyflwyno tystiolaeth am amgylchiadau arbennig i fwrdd arholi lle mae'r dystiolaeth yn anghywir neu wedi'i ffugio neu'n camarwain, neu'n gallu camarwain, y bwrdd arholi.
Enghreifftiau o gamymddwyn academaidd heblaw am mewn arholiadau, er enghraifft gwaith cwrs, aseiniad, traethawd hir ac yn y blaen:
Llên-ladrad: A ddiffinnir fel defnyddio gwaith rhywun arall heb ei gydnabod, gan ei gyflwyno i’w asesu a honni mai eich gwaith chi ydyw; er enghraifft, copïo neu aralleirio heb gydnabod y ffynhonnell. Llên-ladrad yw hwn boed yn fwriadol neu’n anfwriadol. Bydd pob Cyfadran yn eich cynghori ar beryglon llên-ladrad a sut i'w osgoi. Yn y bôn, rhaid i chi gyfeirnodi unrhyw ddeunydd, gan gydnabod y ffynhonnell.
Cydgynllwynio: Pan fydd dau neu fwy o fyfyrwyr yn cydweithio heb ganiatâd ymlaen llaw er mwyn cael mantais annheg a chynhyrchu'r un gwaith, neu waith tebyg, ac yna'n ceisio cyflwyno'r gwaith hwn fel eu gwaith eu hunain.
Comisiynu gwaith, sef talu am waith, neu drefnu i rywun arall gynhyrchu darn o waith a gyflwynir wedyn i'w asesu fel gwaith y myfyriwr ei hun.
Ffugio canlyniadau gwaith labordy, gwaith maes, neu waith arall sy'n casglu ac yn dadansoddi data.
Mae twyllo'n peri risg enfawr i chi, gan y gall y cosbau y byddwch yn eu derbyn os cewch eich dal fod yn ddigon i ddinistrio'ch gyrfa. Er enghraifft, os ydych chi'n astudio'r gyfraith, efallai na chewch eich derbyn yn aelod o Gymdeithas y Gyfraith os cadarnheir honiad o gamymddwyn academaidd yn eich erbyn. Yn yr un modd, os ydych chi'n dyheu am ddod yn athro, yn feddyg, neu'n nyrs, gall eich llwybr gyrfa gael ei gau cyn i chi ddechrau os cewch eich dal yn twyllo.
Mae'r cosbau a ddyfernir i fyfyrwyr yn amrywio o rybuddion i ddileu marciau ar gyfer y modiwl i ofyn i'r myfyriwr adael y Brifysgol.
Trawsgrifiadau a HEAR (Atodiad Diploma)
Trawsgrifiadau
Mae trawsgrifiad yn gofnod o'r modiwlau rydych wedi'u hastudio a'r marciau a enillwyd am y rhaglen astudio gyfan.
Gall myfyrwyr cofrestredig argraffu neu e-bostio eu trawsgrifiad swyddogol yn rhad ac am ddim drwy eu cyfrif ar y fewnrwyd. Ar ôl mewngofnodi i'w cyfrif ar y fewnrwyd, bydd rhaid i fyfyrwyr glicio ar fanylion y cwrs. Rhaid sgrolio ar draws y sgrin nes iddynt weld botwm trawsgrifiad yn y gornel dde uchaf.
Mae trawsgrifiad wedi'i gynnwys hefyd yn yr Atodiad Diploma, yr Adroddiad Cyrhaeddiad Addysg Uwch (HEAR), sydd ar gael yn electronig drwy www.gradintel.com. Yn ogystal â'r trawsgrifiad, mae'r HEAR (Atodiad Diploma) yn darparu disgrifiad o natur, lefel cyd-destun, cynnwys a statws y rhaglen astudio, ac mae ar gael i chi ei ddefnyddio o ddechrau'ch gyrfa yn y Brifysgol. Gellir ei ddefnyddio hefyd fel dogfen ymadael ffurfiol i helpu i wella'ch cyflogadwyedd, drwy ddarparu tystiolaeth wedi'i dilysu o'ch cyflawniadau ehangach, ar ben eich marciau mewn asesiadau. Dilynwch y ddolen i gael rhagor o wybodaeth am HEAR (Atodiad Diploma).
Darperir trawsgrifiadau gan y Gwasanaethau Addysg. Codir ffi ar gyn-fyfyrwyr nad ydynt yn gallu cyrchu eu cyfrifon ar y fewnrwyd bellach ac ar fyfyrwyr sy'n gofyn i'r Brifysgol anfon copi o'u trawsgrifiad yn uniongyrchol at drydydd parti. Codir y taliadau canlynol:
Trawsgrifiadau a Gynhyrchir o'r System Cofnodion Cyfrifiadurol
Fel canllaw, ni fydd trawsgrifiadau cyfrifiadurol ar gael i fyfyrwyr a ddechreuodd eu rhaglenni astudio cyn 1997. Os gwnaethoch gwblhau'n gynharach na hyn, fel arfer bydd angen trawsgrifiad a gynhyrchir â llaw arnoch. Y taliadau am drawsgrifiad cyfrifiadurol yw £10 am y copi cyntaf a £5 am bob copi ychwanegol sy'n cael ei archebu ar yr un pryd a'i anfon i'r un cyfeiriad. Bydd cais pellach yn cyfrif fel archeb newydd a chodir ffi o £10 am y trawsgrifiad cyntaf.
Trawsgrifiadau a Gynhyrchir â Llaw
Fel arfer bydd yn cymryd o leiaf bythefnos i gynhyrchu trawsgrifiad ac nid yw bob amser yn bosib bodloni cais. Codir £25 am y copi cyntaf a £5 am bob copi ychwanegol a archebir ar yr un pryd. Bydd cais pellach yn cyfrif fel archeb newydd a chodir ffi o £10 am y trawsgrifiad cyntaf gan fod y gwaith paratoi eisoes wedi'i wneud.
Mae'r holl daliadau a nodir uchod yn cynnwys pris pecynnu ac anfon i un cyfeiriad. Os oes cais i anfon dogfennau i fwy nag un cyfeiriad, codir tâl ychwanegol ar ben cost cynhyrchu'r dogfennau fel a ganlyn:
£3 am bob dogfen i bob cyfeiriad ychwanegol yn y DU neu'r UE.
£5 am bob dogfen i bob cyfeiriad ychwanegol y tu allan i'r DU neu'r UE.
Talu
Gellir talu â siec, arian parod, cerdyn credyd neu gerdyn debyd.
Nid oes modd dosbarthu trawsgrifiadau drwy e-bost oherwydd rhesymau diogelwch. Felly, dylech ganiatáu digon o amser i'r trawsgrifiad gyrraedd drwy'r post. Caiff trawsgrifiadau eu hanfon ar ffurf copi caled atoch chi'n uniongyrchol, neu i brifysgolion neu gyflogwyr eraill.
Am ragor o wybodaeth, neu i archebu copïau ychwanegol/ymlaen llaw, e-bostiwch myunihub neu ffoniwch +44 (0)1792 606000
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg neu Saesneg.
Cywirdeb y Marciau a Gyhoeddwyd
Os credwch, ar ddiwedd sesiwn, fod canlyniad wedi cael ei gofnodi'n anghywir, gallwch ofyn i'ch Cyfadran wirio cywirdeb y marciau drwy'r Weithdrefn Cywirdeb Marciau a Gyhoeddwyd. Cysylltwch â'ch Cyfadran am ragor o wybodaeth.
Cyhoeddi Canlyniadau Ar-lein
Caiff canlyniadau dilyniant a dyfarniad yr holl fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig a addysgir eu cyhoeddi ar-lein yng nghyfrif y myfyriwr ar y fewnrwyd.
Sylwer, nid yw'r Brifysgol bellach yn dosbarthu copïau papur o lythyron canlyniadau.
Sylwer, bydd dyddiadau rhai rhaglenni'n wahanol i'r dyddiadau uchod. Er enghraifft, rhai rhaglenni israddedig yn y Gwyddorau Iechyd a'r MBBCH. Gofynnir i fyfyrwyr sy'n dilyn y rhaglenni hyn gysylltu â'u Cyfadran i gael gwybodaeth bellach am ddyddiadau cyhoeddi canlyniadau.
Gallwch hefyd ffonio Switsfwrdd Cyffredinol y Brifysgol ar 01792 205678.
Croesawn alwadau yn Gymraeg neu Saesneg.