Mae'r Gwasanaeth Labordy o Bell i Fyfyrwyr yn galluogi myfyrwyr i gael mynediad diogel o bell at gyfrifiaduron personol rhithwir y Brifysgol. Mae'n cynnig ffordd hyblyg a dibynadwy o gysylltu â bwrdd gwaith rhithwir dros dro yn y Brifysgol o'ch cyfrifiadur neu'ch dyfais eich hun, gan roi mynediad i chi at feddalwedd arbenigol sydd ar gael ar y campws yn unig fel arfer. 

Gall myfyrwyr ddefnyddio'r gwasanaeth i: 

  • gael mynediad at feddalwedd arbenigol; 
  • defnyddio cymwysiadau neu bŵer cyfrifiadura efallai nad ydynt ar gael ar ddyfeisiau personol. 

Drwy ehangu'r mynediad y tu hwnt i labordai cyfrifiaduron ar y campws, mae'r gwasanaeth yn helpu i greu profiad dysgu mwy hyblyg, cynhwysol a theg i'r holl fyfyrwyr. 

Rhaid i fyfyrwyr rhyngwladol sy'n cael mynediad at y gwasanaeth o'r tu allan i'r DU gydymffurfio â gofynion UKVI. Am ragor o wybodaeth, gweler y Polisi Monitro Cyfranogiad. 

Sut rydw i'n cael mynediad o bell at gyfrifiadur personol?

Gallwch ddod o hyd i gyfarwyddiadau llawn yn ein herthygl wybodaeth "Sut i gael mynediad i'r gwasanaeth Labordy Myfyrwyr o Bell". 

Allaf gadw lle astudio neu gyfrifiadur personol ar y campws?

Mae amrywiaeth o leoedd astudio ar gael ar draws llyfrgelloedd y Brifysgol, gan gynnwys lleoedd mewn ardaloedd distaw, tawel a chydweithredol.  Mae’r rhan fwyaf o leoedd yn rhai Mynediad Agored a gallwch eu defnyddio heb gadw lle. 

Gallwch weld lleoedd astudio y gallwch eu neilltuo yn llyfrgelloedd y Bae a Singleton, gan gynnwys lleoedd astudio i fyfyrwyr ôl-raddedig yn unig, ar y dudalen hon. 

Mae gwybodaeth am leoliadau ac oriau agor y llyfrgelloedd hefyd ar gael, ynghyd â gwybodaeth am leoedd astudio amgen, gan gynnwys lleoedd tawel, labordai cyfrifiaduron personol ac oriau agor y tu allan i oriau.