Gweler isod wybodaeth bwysig am barcio ar y campws yn ystod y cyfnod cyrraedd / casglu allweddi ac yn ystod Wythnos y Glas.
Yr Wythnos Gyrraedd - dydd Mercher 17 Medi tan ddydd Sadwrn 20 Medi
- O nos Fawrth 16 Medi, ni fydd modd parcio ym meysydd parcio gogleddol y campws (ardaloedd A a B ar y cynllun isod), a fydd wedi eu neilltuo ar gyfer gollwng myfyrwyr yn unig.
- Gall deiliaid bathodyn/trwydded anabl barhau i barcio yn y meysydd hyn.
- Bydd ein tîm Diogelwch ac Ymateb Campws ar y safle i reoli mynediad a sicrhau bod y traffig yn parhau i symud.
- Bydd meysydd parcio eraill ar y campws ar agor.
- Bydd trefniadau parcio ar Gampws y Bae yn ôl yr arfer, sef parcio ym maes parcio Stiwdios y Bae.
Wythnos y Glas - dydd Sadwrn 20 Medi tan ddydd Gwener 26 Medi
O ganlyniad i waith ailwampio hanfodol ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe, cynhelir digwyddiadau Wythnos y Glas eleni ar Gampws Singleton:
- O 5pm ddydd Gwener 12 Medi tan ddydd Llun 29 Medi: bydd y maes parcio y tu ôl i adeilad Taliesin ar gau (ardal C ar y cynllun isod).
- Dydd Mercher 24 Medi tan ddydd Iau 25 Medi: bydd y maes parcio y tu ôl i'r Techniwm Digidol ar gau.
- Dydd Llun 15 Medi a dydd Llun 29 Medi: caniateir mynediad i gontractwyr a danfoniadau yn unig y tu ôl i Dŷ'r Undeb er mwyn iddynt osod digwyddiadau a'u tynnu i lawr.
Trefniadau Teithio Amgen
Sylwer bod parcio ychwanegol ar gael yn y Rec. Pan fo'n bosibl, anogir aelodau staff i gerdded, beicio, defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu rannu ceir.
Diolch am eich amynedd a'ch cydweithrediad wrth i ni gefnogi'r digwyddiadau pwysig hyn ar gyfer myfyrwyr.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am deithio a thrafnidiaeth ar ein tudalennau gwe teithio.
Ystadau a Gwasanaethau Campws
Cau Meysydd Parcio yn ystod yr Wythnos Gyrraedd / Wythnos y Glas
