Pa gyfleoedd datblygu sydd ar gael i ymchwilwyr?
Mae ein rhaglen datblygu ymchwilwyr ôl-raddedig yn cynnig amrywiaeth eang o weithdai, adnoddau a digwyddiadau sydd â'r nod o'ch cefnogi i gwblhau eich ymchwil yn ogystal â chefnogi eich datblygiad personol a phroffesiynol. Cynhelir ein rhaglen o weithdai rhwng mis Hydref a mis Mai bob blwyddyn fel arfer, a bydd adnoddau ar-lein ar gael pryd bynnag y bydd eu hangen arnoch chi. I'ch helpu i ddeall ein rhaglen a blaenoriaethu ar sail eich anghenion unigol, mae ein darpariaeth wedi'i strwythuro yn unol â Fframwaith Datblygu Ymchwilwyr Vitae. Am ragor o wybodaeth, ewch i'r dudalen hon.
Sut gallaf weld gweithdai a chadw lle arnynt?
Ewch i'n tudalen cadw lle a dewis y tab perthnasol. Dilynwch y ddolen ar gyfer pob gweithdy i gadw'ch lle.
 phwy galla i gysylltu os oes gennyf gwestiwn?
Beth os nad yw dyddiad gweithdy'n gyfleus i mi?
Mae llawer o'n gweithdai'n cael eu cynnal sawl gwaith drwy gydol y flwyddyn, felly gwiriwch i weld a oes dyddiad arall wedi'i restru. Gallwch hefyd e-bostio pgrtraining@abertawe.ac.uk i ofyn a oes rhagor o weithdai yn yr arfaeth.
Dylech chi hefyd fynd i'n tudalen adnoddau ar Canvas am adnoddau a dolenni sy'n gysylltiedig â gwahanol agweddau ar y fframwaith datblygu ymchwilwyr.
Pa hyfforddiant sy'n orfodol?
Rhaid i bob myfyriwr ymchwil ôl-raddedig gwblhau rhywfaint o hyfforddiant ar-lein erbyn y cam Cadarnhau Ymgeisyddiaeth (tri mis ar ôl dechrau eich astudiaethau). Mae'r cyrsiau hyn ar gael ar gwrs Canvas o'r enw 'Hyfforddiant Gorfodol ar gyfer Cadarnhau Ymgeisyddiaeth Ymchwil Ôl-raddedig' y dylech chi allu ei weld ar eich dangosfwrdd Canvas. Y cyrsiau yw:
- GDPR (diogelu data)
- Uniondeb Ymchwil
- Amrywiaeth yn y Gweithle
- Ymwybyddiaeth o Ddiogelu a Prevent
Os oes gennych anawsterau gyda'r cyrsiau neu wrth gael mynediad at Canvas, e-bostiwch pgrtraining@abertawe.ac.uk
Allaf wirio fy mod i wedi cwblhau'r holl hyfforddiant gorfodol?
Does dim angen i chi ddarparu prawf eich bod wedi cwblhau'r holl hyfforddiant gorfodol gan fod Canvas yn cofnodi hyn ond, os ydych chi am wirio neu os oes gennych gwestiynau, e-bostiwch pgrtraining@abertawe.ac.uk.
Pa adnoddau ar-lein sydd ar gael?
Mae gennym ddau gwrs Canvas sy'n cynnig amrywiaeth o adnoddau pryd bynnag bydd eu hangen arnoch chi.
Mae'r cwrs Canvas o'r enw Adnoddau i Ymchwilwyr Ôl-raddedig yn gronfa adnoddau sy'n cynnwys amrywiaeth eang o ddogfennau, cyrsiau ar-lein a dolenni wedi'u trefnu i gyd-fynd â Fframwaith Datblygu Ymchwilwyr Vitae. Mae'n syniad da rhoi nod tudalen ar y cwrs ac archwilio'r adnoddau sydd ar gael wrth feddwl am eich anghenion datblygu. Rydym yn diweddaru'r cwrs hwn yn rheolaidd, felly os ydych yn dod ar draws adnoddau defnyddiol ac yn meddwl y dylent gael eu hychwanegu, neu os nad yw rhywbeth yn gweithio, rhowch wybod i ni.
Mae'r cwrs Canvas o'r enw Hyfforddiant Gorfodol ar gyfer Cadarnhau Ymgeisyddiaeth Ymchwil Ôl-raddedig yn rhoi mynediad at y cyrsiau hyfforddiant ar-lein y mae'n rhaid i bob ymchwilydd ôl-raddedig eu cwblhau ar ddechrau ei gyfnod astudio.
Mae'r holl ymchwilwyr ôl-raddedig yn cael eu cofrestru'n awtomatig ar gyrsiau Canvas ond, os oes gennych anawsterau gyda mynediad neu os oes cwestiynau gennych, e-bostiwch pgrtraining@abertawe.ac.uk.
Ydy gweithdai'n cael eu recordio?
Mae ein gweithdai wedi'u cynllunio ar sail gweithgareddau rhyngweithiol byw, felly nid ydynt yn cael eu recordio fel arfer. Os na allwch fynd i weithdy, gallwch wirio i weld a oes dyddiad arall wedi'i restru. Gallwch hefyd e-bostio pgrtraining@abertawe.ac.uk i ofyn a oes gweithdai eraill yn yr arfaeth.
Dylech chi hefyd fynd i'n hyb adnoddau Canvas lle gallwch ddod o hyd i adnoddau a dolenni sy'n gysylltiedig ag agweddau gwahanol ar y fframwaith datblygu ymchwilwyr.
Pe bai recordio asesiadau o gymorth i chi o ran hygyrchedd neu addasiadau rhesymol, e-bostiwch pgrtraining@abertawe.ac.uk i drafod hyn.
Ble caiff y gweithdai eu cynnal?
Caiff ein gweithdai eu cynnal ar y ddau gampws ac ar-lein. Byddwch yn gweld lleoliad pob gweithdy wrth gadw lle, felly rhowch sylw i hyn a sicrhewch eich bod yn gallu bod yn bresennol yn y lleoliad penodol hwnnw neu drwy'r fformat penodol. Os caiff gweithdy ei gynnal ar y campws, ni fydd modd ymuno ar-lein. Serch hynny, rydym yn aml yn cynnal gweithdai poblogaidd sawl gwaith ac yn gwneud ymdrech i amrywio'r fformat neu'r lleoliad bob tro.
Cynhelir llawer o'n gweithgareddau ar y campws yn Hyb yr Ymchwilwyr Ôl-raddedig ar Gampws Singleton, lle gallwch chi neilltuo ystafelloedd cyfarfod neu fan astudio.
Myfyriwr rhan-amser ydw i felly does dim modd i mi gymryd rhan mewn hyfforddiant yn ystod y dydd. Pa opsiynau sydd ar gael?
Caiff llawer o'n gweithdai eu cynnal sawl tro drwy gydol y flwyddyn, felly gwiriwch i weld a oes dyddiad arall wedi'i restru. Gallwch hefyd e-bostio pgrtraining@abertawe.ac.uk i ofyn a oes rhagor o weithdai yn yr arfaeth neu ba gymorth arall gallem ei gynnig. Rydym yn cyhoeddi amserlen ein gweithdai fesul seminar, felly efallai bydd hyn yn rhoi amser i chi gynllunio ymlaen llaw i'ch galluogi i ymuno â gweithdai allweddol, gan ddibynnu ar eich amserlen.
Dylech hefyd fynd i'n hyb adnoddau ar Canvas lle ceir adnoddau a dolenni sy'n gysylltiedig ag agweddau gwahanol ar y fframwaith datblygu ymchwilwyr. Mae'r adnoddau hyn ar gael unrhyw bryd.
Sut gallaf wybod pa hyfforddiant dylwn i ei gwblhau?
Bydd cwblhau Dadansoddiad o Anghenion Datblygu, gan drafod hyn â'ch goruchwyliwr, yn eich helpu i fyfyrio ar eich sgiliau a'ch gwybodaeth presennol a blaenoriaethu eich anghenion datblygu drwy gydol eich astudiaethau ymchwil ôl-raddedig. Gallwch gael mynediad at dempled y Dadansoddiad o Anghenion Datblygu yma. [link]
Beth gallaf ei ddisgwyl wrth gymryd rhan mewn gweithdy neu ddigwyddiad?
Ewch i'r dudalen hon i ddysgu mwy am yr hyn i'w ddisgwyl gan ein gweithdai.
Allaf gael y sleidiau o weithdy cymerais i ran ynddo?
Os oes sleidiau ar gael, rydym fel arfer yn anfon y rhain at bawb sydd wedi cwblhau'r gofrestr ar gyfer gweithdy ond, os nad ydych chi wedi derbyn y rhain, e-bostiwch pgrtraining@abertawe.ac.uk.
Allaf gael copi o'm cofnod hyfforddiant?
Rydym yn cynnig trawsgrifiadau sy'n rhestru gweithdai a gwblhawyd ym mis Gorffennaf bob blwyddyn. Cadwch lygad am e-bost gan pgrtraining@abertawe.ac.uk a fydd yn rhoi manylion am hyn.
Mae angen cymorth arna i mewn maes nad yw wedi'i restru yn y rhaglen o weithdai neu nad yw ar gael yn yr adnoddau ar-lein. Beth dylwn i ei wneud?
Mae'n syniad da trafod hyn â'ch goruchwyliwr oherwydd mae'n bosib y bydd cyfleoedd sy'n gysylltiedig â'ch cyfadran, eich rhaglen ymchwil neu gymdeithasau academaidd neu rwydweithiau yn y maes. Gallwch hefyd edrych ar y cyfleoedd hyfforddi a ddarperir gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Dulliau Ymchwil. Mae rhai o'r rhain yn codi ffi y dylai eich grant cymorth hyfforddiant ymchwil ei thalu os oes un gennych. Gallwch hefyd gysylltu â ni yn pgrtraining@abertawe.ac.uk am gyngor.