Croeso I Ysgol Y Gyfraith Hillary Rodham Clinton
Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi yn yr Wythnos Groeso! Mae rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau drwy gydol yr wythnos, a gobeithiwn y bydd yn eich hysbysu a'ch ysgogi wrth i chi ddechrau eich astudiaethau gyda ni. Bydd gennych ddigon o gyfleoedd hefyd i gymdeithasu gyda'ch cyd-ddisgyblion a dysgu am yr holl gefnogaeth sydd ar gael i chi.
Mae eich amserlen Wythnos Groeso isod; gwnewch bob ymdrech i fynychu'r sesiynau sydd wedi'u marcio'n orfodol a chymryd rhan mewn cymaint o'r gweithgareddau eraill â phosib!
Sylwer hefyd ar sesiynau sydd ar gyfer grwpiau penodol o fyfyrwyr yn unig e.e., mae rhai i fyfyrwyr Y Gyfraith a Throseddeg yn unig ayyb.
Cymerwch sylw fod eich amserlen addysgu yn wahanol i'r amserlen Wythnos Groeso isod. Mae dysgu ac addysgu yn dechrau ddydd Llun 30ain Medi a byddwch yn darganfod sut i gael gafael ar eich amserlen addysgu yn ystod Yr Wythnos Groeso.