Gallwch archebu lle er mwyn cael apwyntiad unigol unwaith yr wythnos i gael cyngor wedi ei deilwra ar elfennau penodol o’ch gwaith academaidd. Gallwch wneud y mwyaf o’ch apwyntiad os ydych yn paratoi ymlaen llaw gan feddwl am y pethau penodol yr hoffech chi gael adborth arnynt. I drefnu'r apwyntiadau hyn bydd gofyn i chi fewngofnodi gan ddefnyddio'ch e-bost a'ch cyfrinair Prifysgol.

Sylwer: Gall tîm pwnc y Llyfrgell eich helpu i ddod o hyd i wybodaeth a chyfeirnodi ar gyfer eich aseiniad. 

Trefnwch apwyntiad i helpu gyda:

Ysgrifennu
Myfyriwr mewn apwyntiad ysgrifennu

Mae'r apwyntiadau hyn fel rheol yn mynd i'r afael ag ymholiadau ynghylch strwythur aseiniad, gramadeg, ansawdd ysgrifennu ac arddangos sgiliau allweddol yn eich gwaith.Nid yw'r apwyntiadau hyn yn wasanaeth prawfddarllen ac nid ydynt yn ymdrin ag ymholiadau fformatio.

Archebwch apwyntiad:

Sgiliau Microsoft Cyflwyno cyflwyniad Paratoi Arholiadau Mathemateg Ystadegau Cyfrwng Cymraeg

Mynychwch un o'n sesiynau galw heibio wythnosol:

Sesiynau galw heibio

Rydym yn cynnig cymorth cyfeillgar un i un trwy sesiynau galw heibio wythnosol i gefnogi ysgrifennu, cyflwyno cyflwyniadau a pharatoi ar gyfer arholiadau. Does dim angen gwneud apwyntiad, dim ond galw draw i gael sgwrs gydag un o'n cynghorwyr.

  Hwb, Technoleg Ddigidol, Campws Singleton
  Pob bore dydd Mawrth a dydd Mercher
 10:00 - 11:30

Dewch draw i'r sesiwn galw heibio
Sesiynau galw heibio

Sesh sgwrs wythnosol

Sesiwn anffurfiol i ymarfer a datblygu eich sgiliau Cymraeg ar lafar. Dewch â gwaith, neu goffi – mae croeso mawr i bawb, beth bynnag eich lefel iaith!

  Technoleg Ddigidol 110b, Campws Singleton
  Bob dydd Mercher amser cinio
 12:00 - 13:00

Dewch draw i'r sesiwn galw heibio
myfyrwyr yn sgwrsio yn Gymraeg

Galw heibio Mathemateg

Rydym yn cynnig cefnogaeth gyfeillgar un i un drwy sesiynau galw heibio wythnosol ar gyfer cymorth gyda mathemateg ac ystadegau. Nid oes angen gwneud apwyntiad. Galwch draw i gael sgwrs gydag un o'n cynghorwyr.

  Ystafell CAS 36, Bloc Stablau, Campws Singleton
  Pob prynhawn Dydd Mercher
 15:00 - 17:00 GMT

Dewch draw i'r sesiwn galw heibio
Ystadegau ar gyfrifiadur