Rhaglen fywiog ac amrywiol o weithdai cyfrwng Cymraeg. Mae'r rhain ar gael i fyfyrwyr sy'n astudio rhai neu'r cyfan o'u cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg, a'r rhai sydd â diddordeb mewn datblygu eu sgiliau Cymraeg.
Sesh sgwrs wythnosol
Sesiwn anffurfiol i ymarfer a datblygu eich sgiliau Cymraeg ar lafar. Dewch â gwaith, neu goffi – mae croeso mawr i bawb, beth bynnag eich lefel iaith!
Technoleg Ddigidol 110b, Campws Singleton
Dydd Mercher 15fed Hydref 2025
12:00 - 13:00
Dydd Mercher 26ain Tachwedd 2025
Arholiadau ar-lafar
Archebwch eich lle yn y gweithdy anffurfiol hwn i ymarfer ar gyfer eich arholiad ar lafar. Dewch a’ch nodiadau ac unrhyw ddeunyddiau cyflwyno, a manteisiwch ar y cyfle i ymarfer a derbyn adborth, neu holi unrhyw gwestiynau sydd gennych am y broses.
Campws Singleton
Dydd Mercher 26ain Tachwedd 2025
10:00 - 11:00
Adolygu effeithiol
Meistrolwch eich cynllun adolygu, a pharatowch am lwyddiant, yn y gweithdy hwn sy’n llawn cyngor ymarferol ar sut i baratoi tuag at eich arholiadau.
Campws Singleton
Dydd Mercher 26ain Tachwedd 2025
11:00 - 12:00
Sesh sgwrs wythnosol
Sesiwn anffurfiol i ymarfer a datblygu eich sgiliau Cymraeg ar lafar. Dewch â gwaith, neu goffi – mae croeso mawr i bawb, beth bynnag eich lefel iaith!
Technoleg Ddigidol 110b, Campws Singleton
Dydd Mercher 26ain Tachwedd 2025
12:00 - 13:00
Dydd Gwener 28ain Tachwedd 2025
Ysgrifennu traethodau arholiad
Mae'r gweithdy hwn yn cyflwyno cyngor a strategaethau i’ch helpu chi i berfformio'n well mewn arholiadau, gan ganolbwyntio ar sut i gyfansoddi ac ysgrifennu traethodau dan amodau arholiad. Byddwn yn edrych ar ddehongli gofynion cwestiynau traethawd, a sut i fynd ati i baratoi strwythur cychwynnol, ac yn edrych ar enghreifftiau o atebion arholiad er mwyn dadansoddi eu cryfderau neu wendidau.
Ar-lein trwy Zoom
Dydd Gwener 28ain Tachwedd 2025
10:00 - 11:00
Dydd Mercher 3ydd Rhagfyr 2025