myfyrwyr mewn gweithdy

Os ydych chi'n fyfyriwr ail iaith Saesneg ar gwrs gradd ym Mhrifysgol Abertawe, efallai mai un o'ch nodau wrth astudio yma fydd gwella'ch Saesneg. Mae ein cyrsiau'n cynnig cyfle i chi adeiladu eich sgiliau academaidd a Saesneg er mwyn gwneud y gorau o'ch amser yn Abertawe.


Dydd Llun

Ysgrifennu Academaidd Saesneg

Mae’r cwrs hwn yn addas i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf. Byddwch yn dysgu ac yn datblygu sgiliau ysgrifennu academaidd Saesneg. Mae'r cwrs yn trafod diben cyffredinol a strwythur ysgrifennu academaidd, ac elfennau gramadeg a geirfa academaidd i wella'ch ysgrifennu.

 Campws Singleton
  Dydd Llun (29ain Medi - 1af Rhagfyr 2025)
 12:00 - 13:00

  ysgrifennu, gramadeg

Cofrestrwch i'r cwrs 10 wythnos hwn
myfyriwr yn ysgrifennu

Dydd Mercher

Hanfodion gramadeg

Mae'r cwrs yn addas i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf. Bydd yn helpu i wella'ch gramadeg sylfaenol cyn i chi ysgrifennu'ch aseiniadau. Mae’n trafod meysydd allweddol gramadeg Saesneg fel y stad weithredol/oddefol a strwythurau brawddegau sylfaenol i wella cywirdeb ysgrifenedig.

Campws Singleton
  Dydd Mercher (1af Hydref - 3ydd Rhagfyr 2025)
 12:00 - 13:00

ysgrifennu, gramadeg

Cofrestrwch i'r cwrs 10 wythnos hwn
Llyfr gramadeg Saesneg

Ysgrifennu Academaidd Saesneg

Mae’r cwrs hwn yn addas i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf. Byddwch yn dysgu ac yn datblygu sgiliau ysgrifennu academaidd Saesneg. Mae'r cwrs yn trafod diben cyffredinol a strwythur ysgrifennu academaidd, ac elfennau gramadeg a geirfa academaidd i wella'ch ysgrifennu.

Ar-lein trwy Zoom
  Dydd Mercher (1af Hydref - 3ydd Rhagfyr 2025)
13:00 - 14:00

ysgrifennu, gramadeg

Cofrestrwch i'r cwrs 10 wythnos hwn
myfyriwr yn ysgrifennu

Dydd Iau

Ysgrifennu Academaidd Saesneg

Mae’r cwrs hwn yn addas i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf. Byddwch yn dysgu ac yn datblygu sgiliau ysgrifennu academaidd Saesneg. Mae'r cwrs yn trafod diben cyffredinol a strwythur ysgrifennu academaidd, ac elfennau gramadeg a geirfa academaidd i wella'ch ysgrifennu.

Campws Bae
  Dydd Iau (2il Hydref - 4ydd Rhagfyr 2025)
14:00 - 15:00

ysgrifennu, gramadeg

Cofrestrwch i'r cwrs 10 wythnos hwn
myfyriwr yn ysgrifennu

Dydd Gwener

Clwb siarad

Mae'r Clwb Siarad yn rhoi cyfle i fyfyrwyr rhyngwladol gwrdd a sgwrsio â chyd-fyfyrwyr mewn amgylchedd lled-strwythuredig a chefnogol. Dyma gyfle i wella'ch sgiliau cyfathrebu a magu hyder. Dewch i ymuno â ni!

 Campws Singleton
 Dydd Gwener (3ydd Hydref - 5ed Rhagfyr 2025)
 11:00 - 12:00

 cyfathrebu llafar, siarad yn hyderus

Cofrestrwch i'r cwrs 10 wythnos hwn
myfyrwyr yn sgwrsio