Datganiad Preifatrwydd Rhaglen Cymorth i Raddedigion

Prifysgol Abertawe fel Rheolydd Data
Prifysgol Abertawe yw'r Rheolydd Data ac mae'n ymrwymedig i ddiogelu hawliau unigolion yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU (UK GDPR). Mae'r Brifysgol wedi penodi Swyddog Diogelu Data a gellir ei e-bostio yn dataprotection@abertawe.ac.uk.

Diben Casglu Data
Rydym yn casglu ac yn defnyddio eich data personol i ddarparu cymorth gyrfaoedd a gwasanaethau cyflogadwyedd wedi’u teilwra. Mae hyn yn cynnwys:

  • Cynnig gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i helpu i wella eich cyflogadwyedd a’ch rhagolygon gyrfa.
  • Eich galluogi i gael mynediad at apwyntiadau, digwyddiadau, gweithdai ac adnoddau gyrfaoedd wedi’u cynllunio ar gyfer graddedigion.
  • Cyfathrebu â chi ynglŷn â chyfleoedd, digwyddiadau a gwasanaethau gyrfa perthnasol a allai fod o fudd i chi.
  • Monitro a gwerthuso effeithiolrwydd ein cymorth gyrfaoedd, gan gynnwys llunio adroddiadau ystadegol dienw i wella ein gwasanaethau.
  • Bodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoleiddiol, megis cymryd rhan yn yr arolwg Hynt Graddedigion ac adrodd i awdurdodau perthnasol.
  • Cael adborth i ddatblygu a gwella’r cymorth gyrfaoedd a gynigiwn.
  • Efallai y bydd angen i ni gasglu a phrosesu data am gategorïau arbennig (megis gwybodaeth am anabledd) i’n galluogi i deilwra’r cymorth perthnasol sydd ar gael. Dim ond gyda’ch caniatâd penodol y byddwn yn gwneud hyn, a byddwn yn gofyn am hynny pan fyddwch yn cofrestru ar y rhaglen. Mae'r hawl gennych i dynnu eich cydsyniad yn ôl ar unrhyw adeg drwy anfon e-bost i Careers@abertawe.ac.uk

 

Gellir casglu'r data canlynol:

  • Rhif Myfyriwr
  • Enw Llawn
  • Cyfeiriad (côd post yn unig)
  • Cyfeiriad e-bost personol/yn y brifysgol
  • Rhif Ffôn
  • Teitl y Cwrs
  • Blwyddyn Graddio
  • Statws Cyflogaeth
  • Gwybodaeth i gynorthwyo arweiniad gyrfaoedd, e.e. a ydych yn teimlo eich bod yn barod i gynllunio eich gyrfa
  • Sut clywsoch am y Rhaglen Cymorth i Raddedigion
  • Cyfadran/Adran
  • A oeddech chi'n fyfyriwr o'r DU neu'n fyfyrwyr rhyngwladol
  • A ydych chi'n siarad Cymraeg
  • A ydych chi'n ystyried bod gennych anabledd
  • Dewisiadau o ran maes sector
  • Diddordeb mewn gweithgareddau Cyflogadwyedd
  • Canlyniadau ar ôl gadael y Brifysgol e.e. dilyn astudiaethau pellach neu waith ar lefel graddedigion

 

Sut Rydym yn Defnyddio'r Wybodaeth a Gesglir
Defnyddir yr wybodaeth a gesglir at y dibenion canlynol:

  • Ymchwil a Dadansoddi: Cynnal astudiaethau ystadegol i lywio strategaethau.
  • Gwybodaeth Weithredol: Darparu diweddariadau mewn perthynas â mentrau cyflogadwyedd.
  • Gweithgareddau Hyrwyddo: Hyrwyddo gwasanaethau a rhaglenni cyflogadwyedd y Brifysgol.
  • Cynllunio Strategol: Llywio strategaethau cyflogadwyedd, monitro tueddiadau ymgysylltu a theilwra ymdrechion allgymorth.
  • Gwella Canlyniadau Graddedigion: Cydweithredu â chyflogwyr i greu cyfleoedd sy'n seiliedig ar waith a sicrhau bod sgiliau myfyrwyr yn cydweddu ag anghenion diwydiant.
  • Dibenion Gweinyddol: Cynnal cofnodion cywir ar gyfer effeithlonrwydd gweithredol ac archwiliadau cydymffurfio.

 

Sail Gyfreithiol y Prosesu
Mae'r Brifysgol yn dibynnu ar y canlynol:

  • Buddiannau Dilys: Cydlynu â chyn-fyfyrwyr i gynnig cymorth gyda chyflogadwyedd a datblygu gyrfaoedd.

Rhannu Data
Gellir rhannu gwybodaeth â thimau mewnol yn y Brifysgol y mae eu gwaith yn ymwneud â meithrin cyfleoedd gyrfa i raddedigion, er enghraifft trefnu digwyddiadau cyflogadwyedd neu reoli lleoliadau gwaith. Caiff ei rhannu â thimau mewnol eraill er mwyn gwella cydweithio. Cyfyngir mynediad i aelodau staff awdurdodedig a chaiff ei defnyddio dim ond at ddibenion sy'n gyson â chenhadaeth y Brifysgol.

Polisi Cadw Data
Bydd data personol yn cael ei gadw am hyd at 2 flynedd ar ôl cofrestru ar y Rhaglen Cymorth i Raddedigion, oni bai bod rhyngweithio parhaus â’r unigolyn. Ar yr adeg hon, bydd y data’n cael ei storio’n ddiogel a’i anonymeiddio.

Mesurau Diogelwch Data
Mae Prifysgol Abertawe'n defnyddio mesurau diogelwch cadarn i ddiogelu data personol:

  1. Rheoli Mynediad: Cyfyngu mynediad i staff awdurdodedig gan ddefnyddio dulliau dilysu cadarn.
  2. Storio Diogel: Storio diogel ar weinyddion diogel yn y brifysgol sydd wedi'u diogelu gan waliau tân a phrotocolau rheoli mynediad.
  3. Diogelwch oddi ar y Campws: Defnyddio Rhwydweithiau Preifat Rhithwir ar gyfer mynediad o bell a storio cyn lleied â phosib o ddata oddi ar y campws.
  4. Hyfforddiant Staff: Darparu hyfforddiant rheolaidd ar egwyddorion y GDPR ac arferion diogelwch gorau.
  5. Ymateb i Ddigwyddiadau: Rhoi gweithdrefnau ar waith ar gyfer rhoi gwybod yn brydlon am achosion o dorri diogelwch data, gan gynnwys hysbysu Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth o fewn 72 awr os oes angen.

Eich Hawliau
Mae'r cyfreithiau cymwys yn rhoi i chi hawl i gael mynediad at eich gwybodaeth bersonol, gwrthwynebu iddi gael ei phrosesu, ei chywiro, ei dileu, cyfyngu mynediad ati neu ei symud. I gael rhagor o fanylion am eich hawliau, ewch i dudalennau gwe Diogelu Data Prifysgol Abertawe.

Dylid anfon ceisiadau neu wrthwynebiadau'n ysgrifenedig at:

E-bost: dataprotection@abertawe.ac.uk

Diweddarwyd yr hysbysiad preifatrwydd hwn ddiwethaf ym mis Gorffennaf 2025.