Cymorth
Os wyt ti'n credu bod angen cymorth gan y Gwasanaeth Lles ac Anabledd arnat, dylet ti gwblhau Ffurflen Cymorth Myfyrwyr.
Ar ôl adolygu dy ffurflen, byddwn ni'n cysylltu â thi er mwyn rhoi cyngor i ti ar y camau nesaf.
Os wyt ti'n credu bod angen cymorth gan y Gwasanaeth Lles ac Anabledd arnat, dylet ti gwblhau Ffurflen Cymorth Myfyrwyr.
Ar ôl adolygu dy ffurflen, byddwn ni'n cysylltu â thi er mwyn rhoi cyngor i ti ar y camau nesaf.
Y ffordd orau o gysylltu â'r Gwasanaeth Lles ac Anabledd yw drwy e-bost gan fod hyn yn ein galluogi i gyfeirio ymholiadau i'r tîm cywir yn rhwydd: llesanabledd@abertawe.ac.uk
Fel arfer byddwn yn ymateb i e-byst o fewn 3 diwrnod gwaith ond efallai y bydd hyn yn hirach yn ystod cyfnodau prysur.
Gellir cysylltu â Switsfwrdd y Brifysgol ar 01792 205678. Os cewch eich trosglwyddo, mae ein tîm cymorth ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am hyd 1pm a 2pm hyd 4pm. Ni allwn drosglwyddo galwadau i ymarferwyr neu gwnselwyr unigol oni bai bod trefniant ymlaen llaw wedi'i wneud gan y gallai hyn amharu ar apwyntiadau. Os oes angen i chi gysylltu ag aelod penodol o staff, anfonwch e-bost atom a byddwn yn sicrhau bod eich ymholiad yn cael ei drosglwyddo.
Sylwer nad ydym ar agor ar wyliau banc.
Peidiwch â chyrraedd mwy na 5 munud cyn amser eich apwyntiad.
Os yw eich apwyntiad yn y Gwasanaeth Lles ac Anabledd ar Gampws Singleton, mae ein Derbynfa yn Ystafell 941 Adeilad Talbot.
Y ffordd fwyaf hygyrch i’n cyrraedd yw drwy fynedfa Adeilad Faraday oddi ar y Rhodfa ac ewch ar hyd y corridor hir yn syth o’ch blaen. Trowch i’r dde drwy’r drysau dwbl brown ac mae ein Derbynfa 5 drws i lawr ar y chwith. Mae mapiau o’r campws ar gael.
Cofiwch mai gwasanaeth drwy apwyntiad yn unig yw hwn ac nid ydym yn cynnig apwyntiadau galw heibio. I drefnu apwyntiad, gweler yr adrannau Cymorth ac Ymholiadau uchod.