Ar Y Campws

Hydref/Gaeaf 25/26

Mae'r Gwasanaethau Lles ac Anabledd yn cynnig cyrsiau am ddim yn y tymor cyntaf sy'n addas i'r holl fyfyrwyr sy'n profi nodweddion niwroamrywiaeth, effaith poen corfforol yn ogystal â phryderon iechyd meddwl.

Enw’r Cwrs: Introduction to ADHD - Impact and Support

Nod y sesiynau hyn yw rhoi dealltwriaeth well i fyfyrwyr sydd â diagnosis o ADHD a/neu'n profi nodweddion ADHD am sut gall symptomau effeithio ar astudiaethau a bywyd myfyriwr.

  • Lleoliad: Ar-lein
  • Hyd: 5 awr (sesiynau untro)
  • Dyddiadau: 15 Hydref (yna bob yn ail wythnos tan ddiwedd y tymor)
  • Gwybodaeth: Yn addas i fyfyrwyr sydd â diagnosis neu'n disgwyl diagnosis ADHD

Bydd y cwrs hwn yn helpu myfyrwyr i ddeall y rhesymau pam maen nhw'n wynebu heriau penodol ac yn darparu cyngor ac arweiniad ar oresgyn y rhwystrau hyn wrth adeiladu gwydnwch drwy strategaethau llwyddiannus hysbys a phrofiadau a rennir.

Enw’r Cwrs: Dial Down Your Pain

Nod y cwrs hwn yw helpu myfyrwyr i ennill dealltwriaeth well o boen, i weithio i ailwefru ymateb eu system nerfol, a meithrin ffydd yn eu cyrff i helpu i ryddhau tensiwn.

  • Lleoliad: Wyneb yn wyneb ar Gampws Singleton
  • Hyd: 6 sesiwn (disgwylir i fyfyrwyr fynychu pob un o’r 6 sesiwn)
  • Dyddiadau: Dydd Iau 23 Hydref 2025 tan ddydd Iau 27 Tachwedd 2025
  • Gwybodaeth: Ar gyfer myfyrwyr sydd ag unrhyw fath o boen tymor hir (6 mis neu fwy).

Bydd amser i rannu eich profiadau eich hun a dysgu strategaethau effeithiol i reoli poen tymor hir a thechnegau eraill i leihau lefelau gorbryder am y poen rydych chi'n ei ddioddef.

Enw’r Cwrs: Sensory Strategies for student wellbeing & stress management

Mae'r cwrs cynhwysfawr hwn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr archwilio eu patrymau prosesu synhwyraidd eu hunain yn fanwl, a sut mae'r rhain yn effeithio ar berfformiad academaidd, lles a gweithrediad dyddiol. Bydd myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth ddyfnach o'u hanghenion synhwyraidd unigryw wrth feithrin strategaethau hunanreoli effeithiol a chysylltu â chymheiriaid sy'n wynebu heriau tebyg.

  • Lleoliad: Wyneb yn wyneb ar Gampws Singleton
  • Hyd: 6 sesiwn (disgwylir i fyfyrwyr fynychu pob un o’r 6 sesiwn)
  • Dyddiadau: Dydd Mawrth 21 Hydref 2025 tan ddydd Mawrth 25 Tachwedd 2025
  • Gwybodaeth: Ar gyfer myfyrwyr sydd â diagnosis o gyflyrau niwroamrywiol a/neu lesiant neu sy’n profi nodweddion y cyflyrau hyn
  • Lleoliad: Wyneb yn wyneb ar Gampws Singleton
  • Hyd: Sesiwn untro
  • Dyddiad: 2 Rhagfyr 2025
  • Gwybodaeth: Darperir dyddlyfr personol i fyfyrwyr

Yn seiliedig ar egwyddorion therapi integreiddio synhwyraidd, bydd y cwrs hwn yn cefnogi'r rhai hynny sy'n cael trafferth gyda gwahaniaethau synhwyraidd, pryderon iechyd meddwl a theimlo bod popeth yn ormod, drwy helpu i dawelu a rheoleiddio'r system nerfol gan ddefnyddio strategaethau synhwyraidd gwahanol. 

Enw’r Cwrs: Journaling for wellbeing and mental health workshop

Mae'r gweithdy rhyngweithiol hwn yn cyflwyno myfyrwyr i'r ymarfer ar sail tystiolaeth o gadw dyddlyfr fel ffordd bwerus o wella iechyd meddwl a lles personol.

Drwy ymarferion dan arweiniad a myfyrio strwythuredig, bydd myfyrwyr yn darganfod sut gall cadw dyddlyfr meithrin ymwybyddiaeth ofalgar, dyfnhau hunanymwybyddiaeth a gwella boddhad cyffredinol gyda bywyd.

Sut i gofrestru

Os hoffech fynegi eich diddordeb yn unrhyw un neu bob un o'r cyrsiau uchod, cwblhewch y ffurflen mynegiant o ddiddordeb ganlynol a byddwn yn cysylltu â chi i drafod eich cymhwysedd am y cwrs a’r broses cadarnhau cofrestriad: Cofrestru Mynegiant o Ddiddordeb

Os nad ydych wedi cofrestru gyda'r Gwasanaethau Lles ac Anabledd ond hoffech gael cyngor ac arweiniad ar y cymorth sydd ar gael a sut i gael mynediad ato, cwblhewch y ffurflen cymorth myfyrwyr ganlynol a bydd aelod priodol o'r tîm yn cysylltu â chi i drafod ymhellach: Ffurflen cymorth i fyfyrwyr

Oddi Ar Y Campws

Yn ogystal, cynhelir nifer o gyrsiau defnyddiol yn Abertawe ac o'i chwmpas;