Rydym yn edrych ymlaen at groesawu ein myfyrwyr newydd a’r rhai sy’n dychwelyd ym mis Medi 2025. Bydd eich amserlenni cynefino ar gael ar y dudalen hon yn nes at ddechrau blwyddyn academaidd 2025/26. Gallwch gael mynediad at ddyddiadau’r tymor ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd i ddod yma.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych angen cymorth ar unrhyw adeg, gallwch droi at Hwb. Hwb yw cartref gwybodaeth i fyfyrwyr.
Mae Hwb wedi’i gynllunio i wneud yn gyflym ac yn hawdd i chi gael mynediad at y cymorth, y gwasanaethau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch. Meddyliwch amdano fel un lle ar gyfer pob ateb.
Neges Groeso gan yr Athro Charlotte Rees, Dirprwy Is-Ganghellor a Gweithredol
Yn ein Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn ymrwymedig i weithio mewn partneriaeth â thi.
Rydym yn ymroddedig i degwch, amrywiaeth, cynhwysiant a pherthyn, ac yn gweithio'n galed i ddarparu amgylchedd dysgu urddasol, parchus ac sy'n meithrin ein holl fyfyrwyr. Dylet deimlo dy fod yn cael dy barchu, dy gefnogi, a’th fod yn gallu ffynnu i gyflawni dy botensial. Mae dy iechyd a’th les yn bwysig i ni, felly cysyllta â staff academaidd, technegol a gweinyddol pryd bynnag bydd angen cymorth arnat ti yn ystod dy astudiaethau. A gwna'r mwyaf o dy berthnasoedd cefnogol â chyd-fyfyrwyr.
Mae astudio yn y brifysgol yn brofiad trawsnewidiol i ddysgwyr, a gall dechrau gradd newydd beri gofid, ond ennyn cyffro ar yr un pryd. Felly, byddwn yn gwneud ein gorau i dy helpu i bontio i dy radd newydd.
Byddi di'n dysgu gyda ni, yn creu gyda ni, yn cydweithio â ni ac yn tyfu gyda ni, ac yn bwysicaf oll - mwynha!