Mynd i Ddigwyddiadau'r Wythnos Groeso
Cynhelir yr Wythnos Groeso rhwng 19 - 23 Ionawr, a bydd amrywiaeth o ddigwyddiadau bob dydd. Dylet ti wneud ymdrech i fynd i'r holl ddigwyddiadau a restrir yn yr amserlen isod.
Mae digwyddiadau yn gyfle i gael cipolwg ar dy raglen radd ddewisol, gofyn cwestiynau a dod i adnabod staff a myfyrwyr yn dy adran. Edrychwn ymlaen at gwrdd â thi!
Rheoli, MSc
Mae'r amserlen hon yn berthnasol i'r rhai sy'n cychwyn cwrs MSc Rheoli
Dydd Iau 22 Ionawr
Cyflwyniad i Raglen MSc Rheoli - 10.00 - 11.00am, y Neuadd Fawr 037
Dyma drosolwg o'r rhaglen gyfan, gan gynnwys dulliau cymorth allweddol sydd ar gael yn y Brifysgol y dylech chi wybod amdanynt er mwyn eich cynorthwyo yn ystod eich astudiaethau.
Dealltwriaeth Academaidd ac Ymgysylltiad MSc Rheoli - 1.00 - 3.00pm, y Neuadd Fawr 037
Mae'r sesiwn hon yn cwmpasu'r prif bwyntiau academaidd y mae angen i chi fod yn ymwybodol ohonynt cyn i chi ddechrau. Felly, bydd hyn yn cynnwys ymddygiad myfyrwyr, uniondeb academaidd a defnydd o ddeallusrwydd artiffisial; sut i ddod o hyd i'ch ffordd o amgylch Canvas cyn archwilio eich ofnau a'ch disgwyliadau i sicrhau ein bod ni'n cynnig y cymorth gorau posibl i chi.
Dydd Gwener 23 Ionawr
Sesiwn Gyflogadwyedd ac Ymwybyddiaeth Ddiwylliannol - 11.00am - 2.00pm, y Neuadd Fawr 037
Bydd panel cyflogadwyedd yn rhan o'r sesiwn hon, a bydd y panel yn trafod sgiliau allweddol y mae angen i bob myfyriwr graddedig fod yn ymwybodol ohonynt wrth chwilio am swydd ar ôl graddio. Mae cyfle i ddeall mwy am amrywiaeth diwylliannol a sut y mae hyn yn effeithio ar ein hamgylchedd gwaith a'n hamgylchedd astudio. Yn olaf, rydym yn edrych ar sut y gallwn ddatblygu cymuned a bydd gweithgareddau llawn hwyl er mwyn chwalu'r rhwystrau sy'n bodoli rhwng pobl pan fyddant yn cyfarfod am y tro cyntaf.
Mae croeso i'r holl raglenni - 2.00pm, B001 Adeilad Canolog Peirianneg
Beth am gwrdd â'ch carfan o fyfyrwyr a rhaglenni eraill sy'n dechrau ym mis Ionawr er mwyn dysgu mwy am sut i wneud y gorau o'ch amser yn Abertawe. Bydd siaradwyr gwadd yn cynnwys Discovery, Undeb y Myfyrwyr a Bod yn Actif.
Digwyddiad Croeso Cymdeithasol Ôl-raddedig (dyddiad i'w gadarnhau) - Wythnos 3
Ymunwch â ni i adeiladu cymuned, cwrdd â'ch cyd-fyfyrwyr ac academyddion. Cyfle i gwrdd â'ch cyd-fyfyrwyr a'ch darlithwyr mewn amgylchedd mwy anffurfiol.