MAE EICH SIWRNAI YN DECHRAU YMA...

Genetics student in lab

Croeso i Brifysgol Abertawe!

 

Croeso i'r cwrs BSc Ffarmacoleg Feddygol yma yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe!

 

Ffarmacoleg Feddygol yw'r wyddoniaeth y tu ôl i gyffuriau a meddyginiaethau, eu heffeithiau ar systemau byw, a'u rôl wrth drin ag afiechyd. Mae ffarmacoleg wedi’i nodi fel gradd israddedig hollbwysig, sy’n ofynnol i lenwi’r bylchau yn y gweithlu a sgiliau presennol mewn meddygaeth a datblygiad fferyllol. Rydym yn eithriadol o falch o’n rhaglen sy’n cyfuno ffarmacoleg a thocsicoleg, gan ddangos y sbectrwm llawn o ymatebion y gall cyffuriau eu cyflawni. Mae ein rhaglenni wedi'u cynllunio i sicrhau eich bod chi'n mwynhau'r hyn rydych chi'n ei astudio, ond hefyd yn eich paratoi ar gyfer y camau nesaf eich gyrfa; boed hyn mewn diwydiant, ymchwil, meddygaeth neu rywbeth hollol wahanol!

 

Daw ein tîm addysgu o gefndiroedd amrywiol - o ymchwil i gyffuriau cam-drin i ymchwil canser. Daw ein tîm addysgu â'r wybodaeth helaeth hon i'ch modiwlau ac rydym wrth ein bodd eich bod yn ymuno â ni ar y cwrs hwn.

 

Dymuniadau gorau,

 

Aidan

Amserlen Sefydlu

22 Medi 2025- Year 1

Dydd Llun 22 Medi 2025

 

10:00 - 12:00 - Cyfarfod Croeso a Sefydlu – Grove Theatr Llyfrgell

 

13:00 - 14:30 - Cyfarfod Sefydlu (Llwyddiant Academaidd ac Ymddygiad yn y Labordy) - Grove Theatr Llyfrgell

 

15:00 - 16:00 - Cwrdd â Chyfarwyddwr y Rhaglen

 

  • BSc Gwyddorau Meddygol Cymhwysol - Dr Kate Chapman – Grove 248
  • BSc Geneteg a BSc Biocemeg (gan gynnwys meddygol a chydanrhydedd) - Dr Ed Dudley a Dr Wendy Francis – Glyndwr 126
  • BSc Ffarmacoleg Feddygol - Dr Aidan Seeley – Glyndwr 124
  • BSc Gwyddorau Meddygol a Iechyd Poblogaeth - Dr Louise Cleobury – Glyndwr A
  • BSc Microbioleg ac Imiwnoleg - Dr Aled Roberts – Glyndwr M

 

16:30 - 17:30 - Cwis Cymdeithasol – Margam 314

 

23 Medi 2025 Year 1 24 Medi 2025 - Year 1 22 Medi 2025 Myfyrwyr blwyddyn sylfaen 23 Medi 2025 - Myfyrwyr blwyddyn sylfaen 24 Medi 2025 - Myfyrwyr blwyddyn sylfaen

Cwrdd â'r staff addysgu

Cyflogadwyedd

Cymorth Academaidd

Sefydlu Labordy

Hwdis Cwrs