Os oes arnoch angen cyflwyno cais am amgylchiadau esgusodol ar gyfer asesiad parhaus (megis prawf dosbarth, aseiniadau gwaith cwrs neu weithgareddau addysgu gorfodol), darllenwch yr wybodaeth isod yn ofalus.
Os yw eich amgylchiadau'n effeithio ar eich gallu i gwblhau neu gyflwyno aseiniad, bydd angen i chi gyflwyno cais am Amgylchiadau Esgusodol.
Os caiff eich cais ei dderbyn, mae’n bosib y byddwch yn cael dyddiad cau estynedig neu eithriad, fel y bo’n briodol. Cynhelir y broses gyfan ar-lein a byddwch yn cael gwybod am y canlyniad drwy e-bost.
Cewch arweiniad ynghylch sut i gyrchu'r system newydd a sut i gyflwyno cais amgylchiadau esgusodol yma. Gellir hefyd cael mynediad at E:Vision drwy'r ap FyAbertawe.
Dyddiadau Cau Allweddol
- Rhaid cyflwyno ceisiadau am amgylchiadau esgusodol o fewn y 10 niwrnod gwaith cyn dyddiad cau'r aseiniad yr effeithir arno, neu yn y 5 niwrnod gwaith ar ôl yr asesiad os oes rheswm dilys dros yr oedi. Cyflwynwch geisiadau cyn gynted â phosibl.
- Dylid lanlwytho tystiolaeth ategol ar adeg y cais os yw'n bosib. Ond gallwch gyflwyno eich ffurflen ac yna atodi unrhyw ddogfennau/dystiolaeth ategol o fewn 10 niwrnod gwaith i'r dyddiad pan cau'r aseiniad yr effeithir arno. Os ydych yn poeni na fyddwch yn gallu darparu dogfennau/tystiolaeth i ategu eich cais o fewn y terfyn amser, cysylltwch Hwb am arweiniad.
Cysylltwch Hwb
Unrhyw gwestiynau? Hwb yw cartref gwybodaeth i fyfyrwyr - cysylltwch â nhw nawr!
Am fanylion pellach, darllenwch ganllawiau'r Brifysgol ar Polisi ar Amgylchiadau Esgusodolhefyd.