Rydym yn gobeithio na fyddwch chi'n wynebu unrhyw anawsterau a fydd yn effeithio ar eich arholiadau yng nghyfnod arholiadau mis Ionawr 2026 (5 - 23 Ionawr 2026) ond os felly, mae opsiynau cymorth ar gael i chi.
Os oes gennyt amgylchiadau cymwys, mae modd i ti gyflwyno cais i ohirio unrhyw arholiad(au) nad oes modd i ti ei sefyll/eu sefyll i gyfnod asesu yn y dyfodol.
Efallai y byddi di hefyd yn gallu cyflwyno cais am Ddarpariaethau Dros Dro os wyt ti'n dioddef o gyflwr tymor byr sydyn sy'n effeithio arnat yn ystod cyfnod yr arholiadau.
Darllena'r wybodaeth am yr opsiynau hyn yn ofalus a chysyllta Hwb gydag unrhyw gwestiynau. Efallai y bydd Polisi Amgylchiadau Esgusodol y Brifysgol hefyd yn ddefnyddiol.