.Sgrin yn arddangos arlunydd yn dal brwsh paent a phaled paent

Gweithdai Sgiliau Digidol

Mae cyflogwyr yn chwilio am raddedigion sy’n gallu gweithio’n effeithiol ac yn arloesol gyda thechnoleg i wella effeithlonrwydd. Angen help i ddatblygu eich sgiliau Microsoft, neu mewn penbleth dros Python? Mae’r gweithdai gennym i helpu chi feistroli meddalwedd academaidd.

Meddalwedd ar gyfer Myfyrwyr Prifysgol Abertawe 

Fel myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe, bydd gennych fynediad at amrywiaeth eang o feddalwedd y gallwch ei defnyddio i greu gwaith yn ddigidol.  Bydd yn fanteisiol i chi ymgyfarwyddo â’r feddalwedd hon oherwydd y byddwch yn dod ar ei thraws ac yn ei defnyddio yn y gweithle ar ôl y brifysgol. Am restr lawn o’r feddalwedd sydd ar gael, ewch i dudalen meddalwedd y gwasanaethau TG. 

logo canvas

Pecyn Cymorth: Cwblhau Asesiadau Fideo

Er mwyn cwblhau asesiad fideo yn llwyddiannus, mae angen i chi wybod sut i greu fideo, ei storio yn Canvas, ac yna ei gyflwyno i Aseiniad neu Drafodaeth Canvas.

Mae Pecyn Cymorth "Cwblhau Asesiadau Fideo" yn darparu fideos a chanllawiau ysgrifenedig i'ch helpu i ddefnyddio Canvas Studio i gwblhau asesiadau o'r fath.