Polisi Monitro Cyfranogiad Myfyrwyr Ymchwil (sy'n cynnwys Gradd Meistr drwy Ymchwil, Rhan Dau rhaglen Meistr safonol/estynedig ac Ymchwilwyr Gwadd)
Polisi Monitro Cyfranogiad Myfyrwyr Ymchwil
Bydd y Brifysgol yn adolygu data cyfranogi drwy gydol y flwyddyn academaidd a gall newid y gweithdrefnau monitro cyfranogiad hyn er budd lles y myfyrwyr. Bydd y Brifysgol hefyd yn monitro'n agos yr arweiniad diweddaraf gan Fisâu a Mewnfudo'r DU ac efallai bydd angen addasu'r gweithdrefnau monitro cyfranogiad hyn yn ystod y flwyddyn academaidd os bydd y rheoliadau'n newid. Argymhellwn i chi wirio'r tudalennau hyn yn rheolaidd i ddilyn y diweddaraf. Byddwn hefyd yn rhoi’r diweddaraf am newidiadau i fyfyrwyr drwy eu cyfrifon e-bost prifysgol.
1. Cyflwyniad
Mae'r Brifysgol yn cydnabod bod sesiynau goruchwylio a chyfranogiad mewn gweithgareddau ymchwil yn elfennau allweddol o ran cadw myfyrwyr yn llwyddiannus, eu cynnydd, eu cyflawniadau a'u cyflogadwyedd. Mae'r ymagwedd hon yn adnabod myfyrwyr a allai fod yn profi anawsterau ac y gallai fod angen cymorth penodol arnynt. Mae gan y Brifysgol ddyletswydd gyfreithiol hefyd i fonitro cyfranogiad myfyrwyr ac i weithredu ar ddiffyg cyfranogiad er mwyn bodloni gofynion adrodd ar bresenoldeb i noddwyr allanol, yn ogystal â bodloni gofynion nawdd Fisâu a Mewnfudo'r Deyrnas Unedig (UKVI) o ran monitro myfyrwyr rhyngwladol sy'n astudio yn y DU ar Fisa Llwybr Myfyrwyr. Datblygwyd system electronig ganolog (RMS) i fonitro presenoldeb myfyrwyr at y dibenion hyn.
2. Polisi Monitro Cyfranogiad – Myfyrwyr Ymchwil
2.1
Bydd y Polisi Monitro Cyfranogiad hwn yn berthnasol i fyfyrwyr Ymchwil a gofrestrwyd ar raglen academaidd ym Mhrifysgol Abertawe (gan gynnwys graddau Meistr drwy Ymchwil, cam Dysgu Annibynnol dan Gyfarwyddyd rhaglen Meistr Safonol/Estynedig ac Ymchwilwyr Gwadd sydd wedi cofrestru ar gyfnod sy'n hwy na mis) p'un ai eu bod nhw yn Abertawe, yn rhywle arall yn y DU neu’n rhywle arall yn y byd.
2.2
Disgwylir i bob myfyriwr ymgysylltu â’i ymchwil ar sail wyneb yn wyneb. Er mai dim ond i ddeiliaid Fisa Llwybr Myfyrwyr y cynhelir gwiriadau lleoliad, fel y disgrifir yn adran 10 isod, anogir pob myfyriwr Ymchwil Ôl-raddedig i gyfranogi yn ei waith ymchwil yn Abertawe. Gall myfyrwyr nad ydynt yn destun gofynion fisa penodol ymgysylltu drwy ddulliau rhithwir (Zoom/Teams…) lle bo'n briodol. Gweler adran 4.6 isod am wybodaeth o ran ceisiadau astudio o bell ac adran 8 ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio mewn sefydliad partner.
2.3
Mae myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig yn destun monitro cyfranogiad nes y dyfernir eu cymhwyster iddynt.
2.4
Mae'r Brifysgol yn disgwyl i fyfyrwyr fynychu'r holl sesiynau wyneb yn wyneb a sesiynau dysgu rhithwir a drefnir, gan gynnwys cyfarfodydd goruchwylio, cyrsiau hyfforddiant, modiwlau a grwpiau astudio sy’n gysylltiedig â phob rhaglen ymchwil y maent wedi dewis ei dilyn, lle bo'n briodol. Mae'r Brifysgol hefyd yn cydnabod budd ymgysylltu â'r gymuned ymchwil ehangach a byddem yn annog myfyrwyr ymchwil i fynychu oriau swyddfa rheolaidd.
2.5
Bydd cyfranogiad myfyrwyr ymchwil yn cael ei fonitro ar lefel Cyfadran/Ysgol neu bartneriaeth a chan y Tîm Cydymffurfiaeth Fisâu ar gyfer myfyrwyr Llwybr Myfyrwyr).
2.6
Rhaid anfon pob hysbysiad sy'n ofynnol gan y rheoliadau hyn yn y lle cyntaf i gyfeiriad e-bost swyddogol y myfyriwr yn y Brifysgol.
2.7
Bydd Cyfadran/Ysgol gartref y myfyriwr yn monitro cyfranogiad myfyrwyr, gan ddechrau o wythnos ymchwil gyntaf unrhyw garfan. Caiff cyfranogiad ei fonitro drwy gyfarfodydd rheolaidd â thîm goruchwylio'r myfyriwr.
2.8
Caiff myfyrwyr eu monitro bob pedair wythnos ar adeg a bennir gan y Gyfadran/Ysgol. Caiff myfyrwyr sy'n astudio’n rhan-amser eu monitro bob pedair wythnos hefyd, gan ystyried llwythau gwaith gwahanol.
2.9
Os bydd myfyriwr yn absennol o'i gyfarfod monitro cyfranogiad misol gyda'i oruchwyliwr, bydd proses uwchgyfeirio'r myfyriwr hwnnw'n cychwyn.
2.10
Rhaid i fyfyrwyr yn Abertawe sy'n ymgymryd ag ymchwil oddi ar Gampws Prifysgol Abertawe gael cymeradwyaeth i astudio o bell gan eu Cyfadran/Hysgol cyn gadael Abertawe a bydd yn ofynnol iddynt gydymffurfio â'r Polisi Monitro Cyfranogiad. Bydd angen caniatâd ar fyfyrwyr Llwybr Myfyrwyr hefyd i astudio o bell gan y Tîm Cydymffurfiaeth Fisâu. Bydd gofyn i fyfyrwyr hefyd lynu wrth unrhyw bolisïau a gweithdrefnau monitro cyfranogiad a bennir gan y sefydliad lle maent yn cynnal eu hymchwil.
2.11
Mae hawl gan fyfyrwyr ymchwil amser llawn i gael hyd at 31 niwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn, ynghyd â gwyliau statudol gyda chymeradwyaeth y Gyfadran/Ysgol. Ar gyfer myfyrwyr rhan-amser, bydd hyn ar sail pro rata. Dylid cofnodi unrhyw wyliau a gymerir ar y system RMS. Yn ogystal, gall myfyrwyr wneud cais am absenoldeb byr dros dro am resymau cymhellol a thosturiol, fel y'i nodir ym mhwynt 3 isod.
2.12
Bydd adroddiadau cyfranogi yn cael eu monitro a'u hadolygu gan y Gyfadran/Ysgol a'r Tîm Presenoldeb Myfyrwyr o fewn Cydymffurfiaeth Fisâu yn achos deiliaid fisa Llwybr Myfyrwyr.
3. Ceisiadau am absenoldeb â chaniatâd
Rydym yn deall y gall fod gan fyfyrwyr reswm da dros golli cyfarfodydd goruchwylio neu ymrwymiadau ymchwil wedi'u hamserlennu o bryd i'w gilydd, ond os bydd hyn yn digwydd, bydd angen i fyfyrwyr wneud yn siŵr eu bod yn dal i wneud eu gwaith. Bydd absenoldebau o bum niwrnod gwaith neu fwy yn cael eu hystyried yn “gais dros dro am absenoldeb o raglen astudio”. Mae "cais am absenoldeb dros dro o raglen astudio" yn absenoldeb dros dro byr sydd wedi'i gymeradwyo gan y Brifysgol. Dyma restr nad yw'n gynhwysfawr o amgylchiadau y byddai'r Brifysgol, fel arfer, yn eu derbyn:
- Amgylchiadau eithriadol megis salwch neu anaf difrifol.
- Marwolaeth neu salwch difrifol perthynas neu ffrind agos.
- Amgylchiadau personol neu deuluol anffafriol - megis ysgariad, byrgleriaeth, tân, achos llys sylweddol, anawsterau ariannol y tu hwnt i reolaeth y myfyriwr - sy'n gofyn bod y myfyriwr yn gadael y Brifysgol ar fyr rybudd.
- Gwasanaethu ar reithgor.
- Ymrwymiadau chwaraeon a/neu gelfyddydol, fel arfer pan fydd y myfyriwr yn cymryd rhan.
Dylid cyflwyno ceisiadau i'r Gyfadran/Ysgol i ddechrau a rhaid darparu tystiolaeth ategol fel arfer. Os yw myfyriwr yn profi anawsterau personol, teuluol, ariannol neu feddygol sy'n effeithio ar ei allu i ymrwymo i'w astudiaethau, y disgwyliad arferol yw y cynghorir y myfyriwr i ohirio ei astudiaethau.
Oherwydd y risg i lwyddiant academaidd, a gofynion presenoldeb wyneb yn wyneb ar gyfer deiliaid fisa Llwybr Myfyrwyr, bydd ceisiadau am absenoldeb fel arfer yn cael eu hystyried am gyfnod o hyd at bythefnos yn unig ac ni ddylai'r cyfnod o absenoldeb olygu bod myfyriwr eisiau mwy o amser i gwblhau ei raglen. Os bydd angen cyfnod hwy o absenoldeb ar fyfyrwyr, efallai bydd angen iddynt ohirio eu hastudiaethau. Dylai myfyrwyr y mae angen iddynt ohirio eu hastudiaethau a/neu ymestyn eu hymgeisyddiaeth ymgynghori â'r Canllawiau ar gyfer Gohiriadau ac Estyniadau i Fyfyrwyr Ymchwil. Caiff ceisiadau o’r fath eu hystyried fesul achos. Ni ddisgwylir i fwy nag un cyfnod o absenoldeb o'r fath gael ei ganiatáu fesul rhaglen astudio. Caiff ceisiadau mynych am gyfnodau estynedig o absenoldeb eu hystyried fesul achos ac efallai y bydd angen i fyfyrwyr ystyried gohirio eu hastudiaethau, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau.
4. Ceisiadau Astudio o Bell (Tymor Byr)
Gall myfyrwyr ofyn am gynnal ymchwil i ffwrdd o unrhyw Gampws Prifysgol Abertawe. Rhaid i fyfyrwyr gael caniatâd i astudio o bell gan y Gyfadran/Ysgol cyn gadael Abertawe a bydd gofyn iddynt gydymffurfio â'r polisi monitro cyfranogiad yn ystod y cyfnod hwn. Bydd angen caniatâd ar fyfyrwyr Llwybr Myfyrwyr hefyd i astudio o bell gan y Tîm Cydymffurfiaeth Fisâu. Os bydd cais /Llwybr Myfyriwr i astudio o bell yn hwy nag un mis, caiff hyn ei adrodd wrth yr UKVI fel "Newid Lleoliad Astudio". Uchafswm hyd y cyfnod y gall myfyriwr astudio o bell yw chwe mis. Rhaid i fyfyrwyr barhau i fod yn gofrestredig ac ni ddylai'r cais effeithio mewn ffordd andwyol ar eu hastudiaethau neu'r dyddiad cyflwyno. Dylid gwneud trefniadau gyda thimau goruchwylio a Gweinyddu'r Gyfadran/Ysgol cyn gadael Abertawe a bodloni gofynion y Polisi Monitro Cyfranogiad. Dyma restr nad yw'n gynhwysfawr o amgylchiadau y byddai'r Brifysgol, fel arfer, yn eu derbyn:
- Gwaith Maes
- Casglu data
- Ymweliad astudio i lyfrgell, archif neu leoliad diwydiannol
- Presenoldeb mewn neu gyflwyno darlithoedd, sgyrsiau neu gynadleddau mewn sefydliad arall
Cynghorir myfyrwyr i aros nes y caiff eu cais i astudio o bell ei gymeradwyo cyn terfynu trefniadau teithio a llety. Yn ogystal, rhaid i fyfyrwyr gyfeirio at Bolisi Teithio Rhyngwladol y Brifysgol cyn gadael.
Yn ogystal, bydd angen i fyfyrwyr gydymffurfio ag unrhyw bolisïau a gweithdrefnau cyfranogiad a bennwyd gan y sefydliad lle maent yn cynnal eu gwaith ymchwil.
5. Ceisiadau i gwblhau rhaglen ymchwil o bell
Disgwylir i fyfyrwyr sy'n astudio ar raglenni ymchwil ôl-raddedig hefyd aros yn Abertawe i gyfranogi yn eu gwaith ymchwil a mynd i gyfarfodydd goruchwylio wyneb yn wyneb nes iddynt gyflwyno eu hymgais gyntaf. Gall myfyrwyr a hoffai ddychwelyd adref i'w gwledydd wedi'r adeg hon wneud hynny drwy gyflwyno "Cais i Gwblhau Astudiaethau o Bell".
Bydd ceisiadau'n cael eu hasesu fesul achos gan y Gyfadran/yr Ysgol a'r Tîm Cydymffurfiaeth Fisâu yn achos deiliaid Fisa Llwybr Myfyrwyr. Sylwer na fydd cyflwyno cais yn gwarantu y caiff y cais ei gymeradwyo. Gwneir penderfyniadau'n seiliedig ar ofynion academaidd y rhaglen astudio, a phan fo’n berthnasol, ofynion monitro cyfranogiad y corff cyllido ac arweiniad Fisâu a Mewnfudo'r DU. Mae Prifysgol Abertawe’n cadw'r hawl i wrthod cymeradwyo cais os bernir y gallai cymeradwyaeth o'r fath beri risg i ddyletswyddau a chyfrifoldebau cydymffurfiaeth Prifysgol Abertawe fel Noddwr Trwyddedig. Rhoddir gwybod yn ysgrifenedig i fyfyrwyr os na fu eu cais yn llwyddiannus.
Dylai myfyrwyr Llwybr Myfyrwyr fod yn ymwybodol os caiff eu cais ei gymeradwyo, gallai'r Brifysgol dynnu ei nawdd ar gyfer eu fisa myfyriwr yn ôl. O ganlyniad, byddai fisa'r myfyriwr yn cael ei chwtogi gan na fyddai'n ofynnol mwyach i'r myfyriwr hwnnw deithio/dychwelyd i'r DU i ymgymryd â’r arholiad llafar a chwblhau'r cwrs.
Pan gaiff fisa myfyriwr ei chwtogi, ni fydd y myfyriwr hwnnw'n gymwys ar gyfer fisa gwaith ôl-astudio'r Llwybr i Raddedigion.
Bydd angen prawf ar y Tîm Cydymffurfiaeth Fisâu fod y myfyriwr wedi gadael ar adeg dychwelyd adref, er mwyn cwblhau'r cadarnhad o’r cais a rhoi gwybod i'r Swyddfa Gartref am dynnu'r nawdd. Ar ôl derbyn y prawf ymadael, bydd y Tîm Cydymffurfiaeth Fisâu yn rhoi cadarnhad terfynol bod cofnod y myfyriwr wedi cael ei ddiweddaru ac nad yw'r myfyriwr yn ddarostyngedig mwyach i broses monitro cyfranogiad wyneb yn wyneb y Brifysgol ar gyfer myfyrwyr a noddir.
6. Myfyrwyr ar Raglen Meistr Ymchwil (MRes)
6.1
Bydd myfyrwyr ar raglen MRes sy'n cyflawni elfen a addysgir o’r rhaglen yn destun gofynion y Polisi Monitro Cyfranogiad i Fyfyrwyr a Addysgir, ac eithrio y bydd monitro yn cael ei gynnal bob pythefnos a bydd Cydlynydd y Rhaglen yn cymryd cyfrifoldebau'r Goruchwyliwr y broses uwchgyfeirio
6.2
Pan fydd myfyrwyr MRes yn symud i elfen ymchwil y rhaglen, byddant yn destun gofynion monitro'r Polisi Monitro Cyfranogiad Myfyrwyr Ymchwil yn gyfan gwbl, a chânt eu monitro bob pedair wythnos. Bydd y goruchwyliwr yn cymryd cyfrifoldeb am gofnodi cyfranogiad myfyrwyr ac am y broses uwchgyfeirio.
7. Myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar Raglen Meistr Safonol/Estynedig
7.1
Bydd myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar y cam a addysgir o raglen Meistr Safonol/Estynedig yn ddarostyngedig i ofynion y Polisi Monitro Cyfranogiad Myfyrwyr a Addysgir. Bydd myfyrwyr sy'n symud ymlaen i gam y prosiect/traethawd hir ar raglen Meistr Safonol/Estynedig yn destun gofynion y Polisi Monitro Cyfranogiad Myfyrwyr Ymchwil a chânt eu monitro ar sail pedair wythnos nes yr adeg gyflwyno. Bydd y goruchwyliwr yn cymryd cyfrifoldeb am gofnodi cyfranogiad myfyrwyr ac am y broses uwchgyfeirio.
7.2
Disgwylir i fyfyrwyr ôl-raddedig amser llawn a addysgir astudio'n barhaus dros yr haf yn ystod cyfnod y traethawd hir/prosiect a disgwylir iddynt ymgysylltu â'u goruchwyliwr unwaith y mis wyneb yn wyneb ar y campws. Ystyrir bod myfyrwyr o'r fath yn rhan o’r tymor yn ystod cyfnod y traethawd hir/prosiect dros yr haf.
7.3
Bydd myfyrwyr sy'n cael estyniad i gyfnod prosiect/traethawd hir eu hastudiaethau yn parhau i fod yn ddarostyngedig i ofynion y Polisi Monitro Cyfranogiad Myfyrwyr Ymchwil a byddant yn cael eu monitro bob pedair wythnos hyd at y pwynt cyflwyno.
7.4
Os na dderbynnir gwaith gan yr arholwyr yn ystod cyfnod prosiect/traethawd hir y rhaglen a chaiff y myfyriwr ganiatâd i ailgyflwyno, bydd yn parhau i fod yn ddarostyngedig i ofynion y Polisi Monitro Cyfranogiad Myfyrwyr Ymchwil hyd at y pwynt ailgyflwyno o fewn y terfyn amser a bennir gan Reoliadau Academaidd ar gyfer myfyrwyr amser llawn a rhan-amser.
7.5
Bydd disgwyl i fyfyrwyr sy'n ailgyflwyno eu gwaith ymwneud yn llawn â'u hastudiaethau yn ystod y cyfnod ailgyflwyno a byddant yn cael eu monitro bob pedair wythnos (un sesiwn adborth ffurfiol ac yna archwiliadau lles, nid oes gan fyfyrwyr hawl i gael goruchwyliaeth ychwanegol) hyd at y pwynt ailgyflwyno. Bydd y Gyfadran/Ysgol neu'r Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr yn cymryd cyfrifoldeb am gofnodi cyfranogiad myfyrwyr yn ystod y cyfnod ailgyflwyno.
7.6
Gall y myfyrwyr hynny sydd wedi symud ymlaen yn swyddogol i Ran Dau neu gam y prosiect/traethawd hir ar Raglen Gradd Meistr Ôl-raddedig a Addysgir sy’n dechrau ym mis Medi ac a hoffai adael Abertawe am resymau personol, ddewis cyflwyno “Cais i Gwblhau Astudiaethau o Bell" fel y disgrifir yn adran 5.
8. Myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar Raglen Ymchwil Ôl-raddedig a gyflwynir drwy bartneriaeth gydweithredol
8.1
Bydd myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar Raglen Ymchwil Ôl-raddedig a gyflwynir drwy bartneriaeth gydweithredol ac mae Prifysgol Abertawe yn un o'r cyrff dyfarnu yn destun gofynion y Polisi Monitro Cyfranogiad Myfyrwyr Ymchwil a chânt eu monitro bob 4 wythnos hyd at adeg cyflwyno.
8.1.1
Bydd Goruchwyliwr Prifysgol Abertawe yn gyfrifol am gofnodi cyfranogiad myfyrwyr yn y system RMS a bydd yn ymgysylltu â Goruchwylydd y Sefydliad Partner i fonitro cynnydd y myfyriwr ni waeth beth fo lleoliad astudio'r myfyriwr.
8.1.2
Yn ogystal, disgwylir i fyfyrwyr gydymffurfio ag unrhyw bolisïau a gweithdrefnau cyfranogiad a bennir gan y Sefydliad Partner.
8.1.3
Bydd myfyrwyr sy'n gwneud elfen a addysgir ym Mhrifysgol Abertawe hefyd yn destun gofynion y Polisi Monitro Cyfranogiad Myfyrwyr a Addysgir hyd nes yr adeg pan fyddant yn symud ymlaen i elfen ymchwil eu rhaglen.
8.2
Bydd myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar Raglen Ymchwil Ôl-raddedig a gyflwynir drwy bartneriaeth gydweithredol a’r Sefydliad Partner yw'r corff dyfarnu dim ond yn destun gofynion y Polisi Monitro Cyfranogiad Myfyrwyr Ymchwil ar gyfer y cyfnod pan fydd eu lleoliad astudio ym Mhrifysgol Abertawe a chaiff hynny ei fonitro ar sail 4 wythnos.
8.2.1
Goruchwyliwr Prifysgol Abertawe fydd yn cymryd cyfrifoldeb am gofnodi cyfranogiad myfyrwyr yn y system RMS ar gyfer y cyfnod hwn yn unig.
8.2.2
Bydd myfyrwyr sy'n gwneud elfen a addysgir ym Mhrifysgol Abertawe hefyd yn destun gofynion y Polisi Monitro Cyfranogiad Myfyrwyr a Addysgir hyd nes yr adeg pan fyddant yn symud ymlaen i elfen ymchwil eu rhaglen.
9. Ymchwilwyr Gwadd
9.1
Bydd Ymchwilwyr Gwadd sy'n gofrestredig yn y Brifysgol am gyfnod sy'n hwy nag un mis yn destun gofynion y Polisi Monitro Cyfranogiad Myfyrwyr Ymchwil. Bydd y Goruchwyliwr yn gyfrifol am gofnodi cyfranogiad.
9.2
Bydd Ymchwilwyr Gwadd yn destun y broses uwchgyfeirio am resymau diffyg cyfranogiad.
10. Gweithdrefnau Pwynt Gwirio Llwybr Myfyrwyr
10.1
Er mwyn cynorthwyo'r Brifysgol i gydymffurfio â'i rhwymedigaethau fel noddwr Llwybr Myfyrwyr, bydd y Tîm Cydymffurfiaeth Fisâu yn cynnal gwiriadau misol o'r system RMS i sicrhau bod myfyrwyr Llwybr Myfyrwyr yn cyfarfod â'u Goruchwyliwr bob mis yn bersonol ar y campws. Cysylltir â myfyrwyr y canfyddir eu bod wedi cael sesiynau Goruchwylio drwy ddulliau eraill i sefydlu'r rhesymau a sicrhau cydymffurfiaeth barhaus â'r Polisi Monitro Cyfranogiad.
10.2
Pan fydd myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig yn cyfranogi drwy ddysgu o bell (h.y. lle mae cais am absenoldeb dros dro neu gais i astudio o bell wedi'i gymeradwyo), disgwylir i'r cyfranogiad mewn cyfarfodydd goruchwylio misol gael ei gynnal drwy Zoom/Skype yn hytrach na dros e-bost. Cysylltir â myfyrwyr y canfyddir eu bod wedi cael sesiynau Goruchwylio drwy e-bost i sefydlu'r rhemau syac i annog cydymffurfiaeth â'r Polisi Monitro Cyfranogiad, yn dibynnu ar hyd y cyfnod absenoldeb a roddir.
11. Y Broses Uwchgyfeirio Monitro Cyfranogiad Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig
Bydd myfyriwr sy'n absennol o gyfarfod goruchwylio neu gyfarfod cyfranogi ag ymchwil yn destun proses uwchgyfeirio. Fe'i dyluniwyd i ail-gyfranogi â myfyrwyr y maent wedi bod yn absennol o'u hastudiaethau i ddarganfod y rhesymau am yr absenoldeb ac i gynorthwyo myfyrwyr a allai fod yn profi anawsterau neu y gallai fod angen cymorth penodol arnynt. Caiff y broses uwchgyfeirio ei dangos a'i hesbonio isod:
Deiliaid Fisa nad ydynt yn Fyfyrwyr | Deiliaid Fisa Myfyrwyr | |
---|---|---|
1 Cyfarfod Goruchwylio wedi'i golli | Byddwn yn cysylltu â'r myfyriwr, gan rybuddio am ganlyniadau diffyg cyfranogiad a gofyn iddo ailgysylltu â'i oruchwyliwr a/neu fynd i gyfarfod â thîm Profiad Myfyrwyr y Gyfadran/Ysgol i drafod cymorth a chefnogaeth ychwanegol. Bydd yn cael rhybudd y bydd methu ail-gyfranogi yn ei astudiaethau’n cael ei ystyried wrth benderfynu ar ei ddyfodol os na fydd cyfranogiad yn gwella. |
Bydd gofyn i fyfyrwyr Llwybr Myfyrwyr sydd ar raglen ymchwil ôl-raddedig neu yng nghyfnod dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd rhaglen ôl-raddedig sy'n colli un cyfarfod Goruchwylio / cyfranogiad ymchwil (pwynt cyswllt) a drefnwyd naill ai trwy gael eu marcio fel 'heb gyfranogi' gan eu Goruchwyliwr neu lle nad yw'r cyfarfod wedi'i gwblhau ar ôl i'r cyfnod ddod i ben fynd i gyfarfod wyneb yn wyneb â'r Tîm Cydymffurfiaeth Fisâu. Os na fydd y myfyriwr yn mynd i'r cyfarfod, bydd y Tîm Cydymffurfiaeth Fisâu yn ystyried tynnu'r myfyriwr yn ôl o'r Brifysgol a thynnu ei fisa Llwybr Myfyrwyr yn ôl. Os bydd y myfyriwr yn mynd i'r cyfarfod, ond yna'n methu ail-gysylltu â'i Oruchwyliwr yn y mis canlynol, bydd y Tîm Cydymffurfiaeth Fisâu yn ystyried tynnu'r myfyriwr yn ôl o'r Brifysgol a thynnu ei fisa Llwybr Myfyrwyr yn ôl. |
Colli 2 Gyfarfod Goruchwylio |
Bydd yn ofynnol i'r myfyriwr gwrdd â Deon Cysylltiol (Ymchwil) ei Gyfadran/Ysgol, neu ei enwebai. Os nad yw'r myfyriwr yn mynd i'r cyfarfod hwnnw, gofynnir iddo adael y Brifysgol fel arfer. Os yw'r myfyriwr yn mynd i'r cyfarfod, gellir caniatáu iddo barhau fel myfyriwr, yn ôl disgresiwn y Cyfarwyddwr Ymchwil, y Cyfarwyddwr Ymchwil Ôl-raddedig neu eu henwebai, a chan ddibynnu ar ei esboniad ac ar dystiolaeth ategol a ddarperir. Os nad yw'r myfyriwr yn mynychu sesiynau dysgu wedi hynny, bydd rhaid iddo adael y Brifysgol heblaw am mewn amgylchiadau eithriadol. |
Amherthnasol |
Pan fydd cyfranogiad myfyriwr yn gwella, ni chysylltir ag ef oni bai ei fod yn gwaethygu unwaith eto.
12. Proses Apêl Monitro Cyfranogiad
Yn unol â Pholisi Monitro Cyfranogiad y Brifysgol, gall myfyrwyr sy'n derbyn hysbysiad o dynnu'n ôl neu waharddiad dros dro gan y Brifysgol gyflwyno cais am adolygiad terfynol o'r penderfyniad hwn. Gall myfyrwyr apelio yn erbyn y penderfyniad drwy gyflwyno Ffurflen Apêl Monitro Cyfranogiad i Dîm Presenoldeb Myfyrwyr yn yr adran Cydymffurfiaeth Fisâu. Rhaid cyflwyno hwn o fewn 5 niwrnod gwaith i ddyddiad y llythyr/e-bost at y myfyriwr yn cadarnhau'r penderfyniad i ddiddyfnu neu i'w wahardd. Bydd y ffurflen yn cael ei hadolygu gan y Gyfadran/Ysgol, ac yn achos Llwybr myfyrwyr, y Tîm Cydymffurfiaeth Fisâu. Gellir cyfeirio rhai achosion at Bennaeth Gwasanaeth (neu ei enwebai) cyn cymryd camau diddyfnu neu wahardd dros dro terfynol. Bydd angen i fyfyrwyr sy'n cael caniatâd i barhau yn dilyn canlyniad yr apêl fodloni'r amodau a nodir yn y llythyr cwblhau gweithdrefnau cyfatebol. Gall methu gwneud hynny arwain at gadarnhau'r penderfyniad blaenorol i ddiddyfnu neu i wahardd dros dro. Bydd yr apêl yn golygu cwblhau mecanweithiau apelio mewnol y Brifysgol ar gyfer y Broses Monitro Cyfranogiad.