Rheoliadau Penodol ar gyfer:
BSc Nyrsio (Oedolyn)
BSc Nyrsio (Plentyn)
BSc Nyrsio (Iechyd Meddwl)
BSc Nyrsio rhan amser (Oedolyn)
BSc Nyrsio rhan amser (Iechyd Meddwl)
BMid Bydwreigiaeth
Diploma Gwyddor Barafeddygol
Bsc Gwyddor Barafeddygol
BSc Gwaith Cymdeithasol (llawn amser a rhan amser)
S1
Yn gyffredinol, caniateir hyd at ddau gais i ymgeiswyr wneud yn iawn am fethiannau mewn unrhyw gydran asesu modiwl cyhyd ag y gellir llwyddo i wneud hynny o fewn dwy sesiwn academaidd ac o fewn cyfyngiad amser y radd. Cynigir y cais cyntaf i wneud yn iawn am fethiant fel arfer mor agos â phosib i ddyddiad yr asesiad arferol (fel arfer o fewn 8 i 10 wythnos).
S2
Yn achos methiant mewn cyfansoddyn ymarfer ar y rhaglen BSc mewn Therapi Galwedigaethol, caniateir i ymgeiswyr gael un ymgais yn unig i wneud iawn am y methiant, fel rheol yn ystod yr un sesiwn academaidd. Bydd ymgeiswyr yn ymgymryd â’r lleoliad ymarfer llawn er mwyn cyflwyno’r asesiad(au) ymarfer.
S3
Bydd myfyrwyr sy’n astudio’r BSc mewn Therapi Galwedigaethol nad ydynt yn llwyddo mewn dau fodiwl ymarfer olynol ar yr ymgais cyntaf yn cael eu tynnu’n ôl o’r rhaglen.
S4
Gellir cynnig ail gais i wneud iawn am fethiant ar argymhelliad Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol.
Bydd myfyrwyr sy'n gwneud iawn am eu methiant ar yr ail gais yn cael eu hystyried yn "ymgeiswyr allanol" a chaiff eu dyfarniad bwrsariaeth ei atal.
Unwaith y penderfynwyd bod ymgeisydd wedi gwneud iawn am y methiant yn llwyddiannus ac wedi cwblhau'r lefel astudio, bydd yn cael caniatâd i ailddechrau ei astudiaethau ar adeg y bernir ei fod yn briodol gan y Gyfadran.
S5 Asesiad Ymarfer
S5.1 Therapi Galwedigaethol
Gall myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar raglenni therapi galwedigaethol fethu un lleoliad gwaith yn unig yn ystod cyfnod y rhaglen.
Os bydd ail leoliad gwaith yn cael ei fethu yna bydd angen iddynt dynnu'n ôl o'r rhaglen.
Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr ohirio eu hastudiaethau dros dro a chwblhau'r modiwl lleoliad gwaith yn y sesiwn academaidd nesaf os nad ydynt yn cwblhau'r modiwl lleoliad gwaith yn llwyddiannus.
Nid oes modd i fyfyrwyr therapi galwedigaethol gario lleoliad gwaith sydd heb ei gwblhau i'r lefel astudio nesaf.
S5.2
Bydd gan fyfyrwyr ar raglenni proffesiynol eraill un cyfle yn unig i ailgyflwyno eu dogfen asesu ymarfer neu bortffolio asesiad clinigol yn ystod pob lefel astudio.
Nid oes angen i fyfyrwyr sydd wedi pasio pob cydran academaidd, ond sydd â chynnig arall ar eu PAD, ohirio eu hastudiaethau dros dro.
Yn yr achosion hynny bydd myfyrwyr lefel 4 neu 5 yn derbyn penderfyniad CARIO gan y bwrdd dilyniant a bydd caniatâd iddynt symud ymlaen i'r lefel astudio nesaf.
Mae'n rhaid iddynt gyflwyno'r asesiad PAD disgwyliedig ar ddiwedd pedair wythnos gyntaf y cyfle dysgu lleoliad gwaith nesaf. Bydd angen iddynt gwblhau hwn ochr yn ochr â'r dysgu ar gyfer y lefel astudio nesaf.
Bydd gan y myfyrwyr hynny nad ydynt yn llwyddo yng nghynnig cyntaf gohiriedig yr asesiad PAD ar ôl pedair wythnos gyntaf y lleoliad gwaith, wythnos ychwanegol i gwblhau'r PAD.
Bydd y myfyrwyr hynny nad ydynt yn pasio'r asesiad PAD ar yr ail ymgais ar ôl pedair wythnos gyntaf y lleoliad gwaith yn cael eu tynnu'n ôl o'r rhaglen.
Bydd gan fyfyrwyr y flwyddyn olaf benderfyniad SUPP a byddent yn cael pedair wythnos ychwanegol o leoliad gwaith i gwblhau'r PAD.
Darperir wythnos ychwanegol os yw myfyrwyr yn methu cynnig cyntaf gohiriedig ar ôl y pedair wythnos hyn.
S6
Bydd yn rhaid i "Ymgeiswyr Allanol" gofrestru yn y Brifysgol a thalu ffïoedd ymgeiswyr allanol, fel y bo'n briodol. Ni chaniateir i ymgeiswyr o'r fath fynychu darlithoedd, derbyn gwersi neu gael mynediad at gyfleusterau Prifysgol. Disgwylir i ymgeiswyr allanol fynychu'r Brifysgol (neu leoliadau dynodedig eraill tebyg yn ôl y galw) er mwyn sefyll arholiadau neu gyflwyno asesiadau'n unig, yn ôl yr angen.
S7
Mewn amgylchia7dau eithriadol, y mae'n rhaid darparu tystiolaeth annibynnol ar eu cyfer, gellir caniatáu trydedd cais at wneud yn iawn am fethiant ar ddisgresiwn Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol. Caniateir hyn dim ond os gellir ei gyflawni o fewn dwy sesiwn academaidd ac o fewn y cyfyngiad amser ar gyfer y radd. Caiff myfyrwyr o'r fath eu cofnodi o hyd fel ymgeiswyr allanol a chaiff eu dyfarniad bwrsariaeth ei atal.
S8
Caiff penderfyniadau ar ddilyniant ymgeisydd o un lefel astudio i lefel arall eu cymryd gan Fwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol yn unol â'r canllawiau dilynol:
CYFLAWNWYD GAN YR YMGEISYDD | PENDERFYNIAD DILYNIANT |
Wedi llwyddo ym mhob cydran asesu sy'n cronni i wneud 120 credyd |
Wedi cwblhau Lefel Astudio |
Wedi pasio llai na 120 o gredydau wedi derbyn un cyfle gan y Gyfadran/Ysgol i wneud yn iawn am fethiant/methiannau academaidd neu gais wedi'i ohirio |
Allanol – gwneud iawn am fethiannau fel ymgeisydd allanol |
Wedi pasio llai na 120 o gredydau wedi derbyn dau gyfle gan y Gyfadran/Ysgol i wneud yn iawn am y methiant/methiannau academaidd |
Gorfodi'r myfyriwr i dynnu'n ôl |
Llwyddo ymhob cydran academaidd ond wedi methu'r asesiad ymarfer ddwywaith.Tynnu'n ôl o'r Brifysgol yn ofynnol. |
Gorfodi'r myfyriwr i dynnu'n ôl |
Llwyddo ymhob cydran academaidd ond wedi cael estyniad ar gyfer o leiaf un o'r ddau gyfle cyflwyno |
Cario'r methiant ac mae'n ofynnol cyflwyno o fewn pedair wythnos gyntaf y cyfle lleoliad gwaith cyntaf yn y lefel astudio nesaf. |