Datganiad Canlyniadau Graddau
1. Proffil Dosbarthiadau Graddau Sefydliadol
Dangosir proffil dosbarthiadau graddau Prifysgol Abertawe ar gyfer blynyddoedd academaidd 2018/19 i 2024-25 yn y tabl isod:
| Dosbarthiad | 2018-19 | 2019-20 | 2020-21 | 2020-22 | 2022-23 | 2023-24 | 2024-25* |
|---|---|---|---|---|---|---|---|
| 1st | 28.7% | 33.6% | 36.3% | 33.2% | 33.9% | 28.8% | 30.7% |
| 2:1 | 47.3% | 45.3% | 44.1% | 46.3% | 43.6% | 45.4% | 45.9% |
| 2:2 | 18.8% | 17.4% | 15.3% | 15.9% | 18.2% | 20.7% | 18.2% |
| 3rd | 2.3% | 1.5% | 1.7% | 1.4% | 1.4% | 2.2% | 1.9% |
| **Annosbarthedig | 3.0% | 2.2% | 2.5% | 3.3% | 3.0% | 2.8% | 3.3% |
*Daw'r ffigurau yn 2024/25 o ddadansoddiad mewnol. Mae data o'r blynyddoedd blaenorol yn seiliedig ar ddata HESA a all gynnwys amrywiadau mewn diffiniadau i gyrraedd y boblogaeth o fyfyrwyr.
Canlyniadau Gradd
Mae'r data'n dangos bod proffil y Brifysgol o Anrhydedd Dosbarth Cyntaf ac Anrhydedd Ail Ddosbarth Uwch wedi cynyddu 1.9% a 0.5% yn y drefn honno.
**Mae ffigurau heb eu dosbarthu yn cael eu cyfrifo ar wahân ac felly nid ydynt yn cyfrannu at gyfanswm y canlyniadau a ddarperir uchod.
Mae'r Brifysgol wedi parhau i gynnal safonau a gwella ansawdd rhaglenni'r Brifysgol, er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn cael y cyfle gorau i raddio â graddau dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch ac i'w galluogi i sicrhau cyflogaeth i raddedigion.
Mae twf ym mhroffil y canlyniadau gradd, yn enwedig canlyniadau Dosbarth Cyntaf ac Ail Ddosbarth Uwch, i'w briodoli i ystod o ffactorau sy'n canolbwyntio ar wella ansawdd, safonau a phrofiad y myfyriwr:
- Gwelliannau parhaus mewn dysgu ac addysgu, asesu, profiad myfyrwyr a chymorth i fyfyrwyr, gan gynnwys Tiwtora Personol, sydd wedi effeithio'n gadarnhaol ar berfformiad a chanlyniadau myfyrwyr.
- Canolbwyntio ar feysydd pwnc gwannach, a gwelliannau yn y meysydd hynny, sy'n rhoi mwy o gysondeb ar draws y portffolio. Mae'r Brifysgol yn adolygu'n gyson ar draws ystod o fetrigau perfformiad modiwlau a rhaglenni, ac mae hyn yn cynnwys ehangder canlyniadau graddau, ar draws yr ystod a ddyfarnwyd. Bydd hyn yn parhau wrth weithredu Monitro Gwella Parhaus ac, yn ôl yr angen, ymyriadau wedi'u targedu.
Graddau Da
Mae Graddau Da yn fesur a ddefnyddir mewn tablau cynghrair sy'n cyfrifo canran y canlyniadau gradd ar ddosbarthiad 1af neu 2:1.
|
Graddau Da |
2018-19 | 2019-20 | 2020-21 | 2020-22 | 2022-23 | 2023-24 | 2024-25 |
|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
Meincnod Sector (Cyfartaledd Grŵp Russell) 1af neu 2:1 |
85.9% | 89.8% | 91.0% | 87.7% | 85.3% | 84.7% | Ar gael Ionawr 26 |
| Meincnod Sector (Cyfartaledd) 1af neu 2:1 | 77.2% | 82.4% | 83.5% | 79.2% | 77.4% | 77.0% | Ar gael Ionawr 26 |
| Abertawe 1af neu 2:1 | 79.0% | 81.5% | 82.7% | 82.4% | 79.6% | 76.7% | 79.3% |
*Daw'r ffigurau yn 2024/25 o ddadansoddiad mewnol. Mae data o'r blynyddoedd blaenorol yn seiliedig ar ddata HESA a all gynnwys amrywiadau mewn diffiniadau i gyrraedd y boblogaeth o fyfyrwyr.
Mae'r data'n dangos bod proffil y Brifysgol o raddau Anrhydedd Dosbarth Cyntaf ac Anrhydedd Ail Ddosbarth Uwch ar y cyd wedi cynyddu 2.6% o’i gymharu â 2023/24. Roedd rhywfaint o amrywiad ym mherfformiad y Brifysgol o'i gymharu â'r sector yn 2023/24, fodd bynnag, bydd y data cymharol ar gael ym mis Ionawr 2026 i nodi'r perfformiad presennol.
2. Arferion Asesu a Marcio
Ar gyfer pob rhaglen, mae deilliannau dysgu ac asesu yn cael eu mapio'n glir yn erbyn Côd Ansawdd yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (ASA), yn bodloni gofynion Cyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoliadol (PSRB), yn ystyried datganiadau meincnod pwnc ASA ac yn cyd-fynd â'r Fframwaith ar gyfer Cymwysterau Addysg Uwch a Fframwaith Credyd a Chymwysterau Cymru. Mae hyn yn rhoi sicrwydd bod safonau gradd yn cael eu cynnal a bod arbenigwyr allanol, (cynrychiolwyr PSRB, defnyddwyr gwasanaeth, myfyrwyr, cyflogwyr, rhanddeiliaid) yn hysbysu ac yn sicrhau ansawdd ein rhaglenni.
Mae Polisi Asesu, Marcio ac Adborth y Brifysgol (diweddarwyd yn 2025) yn darparu egwyddorion asesu a gofynion ac yn hyrwyddo gwelliant mewn arferion asesu. Mae'r Polisi yn cynnwys gofynion ar gyfer marcio a dylunio asesiadau, a dolenni i reoliadau'r Brifysgol ar gyfer Asesu a Dyfarnu. Mae dylunio asesiadau a marcio hefyd yn cael ei oruchwylio gan Arholwyr Allanol arbenigol, sy'n adolygu ac yn cymeradwyo dyluniad asesiadau i sicrhau cysondeb a dilysrwydd ac yn darparu adroddiad blynyddol ar brosesau asesu ac yn mynychu'r Byrddau Arholi perthnasol.
Mae newidiadau diweddar i'r polisi wedi mynd i'r afael â'r meysydd allweddol canlynol:
- Cymedroli maint sampl ac egluro'r gofynion sylfaenol
- Eglurhad ar farcio asesiadau a marciau modiwlau sy'n diweddu â 9
- Gwelliannau i hyrwyddo addasiadau rhesymol ac arferion asesu cynhwysol
- Gwelliannau i sicrhau safonau sy'n ystyried AI Cynhyrchiol
- Eglurhad / Gwelliant o ran gweithio gyda phartneriaid
Gwnaed diwygiadau ychwanegol hefyd i gefnogi Asesu yn Gymraeg/mewn Iaith Arall ac alinio â'r polisi Asesu, Marcio ac Adborth ehangach. Yn ogystal, cynhaliwyd adolygiad i lunio taflen flaen well i asesiadau er mwyn darparu datrysiad symlach ac awtomataidd mewn un lleoliad a sefydlu cysondeb ar draws y cyfadrannau.
Diwygiwyd y polisi Addasiadau Rhesymol hefyd yn 2024/25 i ymgorffori'r canllawiau a ddarparwyd gan ganllawiau'r Cyngor Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn dilyn dyfarniad yr uchel lys ar achos Natasha Abrahart. Mae hyn yn darparu cymorth ac arweiniad ychwanegol i staff a myfyrwyr ynghylch addasiadau rhesymol, yn enwedig wrth egluro terminoleg, gan ddarparu enghreifftiau ac amlinellu prosesau clir.
Ategir y gwaith o weithredu'r polisi gan Gôd Ymarfer helaeth ar gyfer Dysgu, Addysgu ac Asesu a chan HYPERLINK "https://www.swansea.ac.uk/salt/"Academi Dysgu ac Addysgu Abertawe a'r prosiect parhaus i Drawsnewid y Cwricwlwm.
Yn ogystal, mae'n ofynnol i'r holl staff academaidd sy'n newydd i fyd addysg uwch gwblhau'r Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg Uwch, lle cânt eu cyflwyno i Gôd Ansawdd yr ASA, pob agwedd ar ddylunio rhaglenni ac asesu a phrosesau sicrhau ansawdd. Mae Academi Dysgu ac Addysgu Abertawe yn darparu gweithdai pellach sy'n ymdrin â phob agwedd ar asesu a marcio.
Yn ogystal â hyn, mae'r holl asesiadau yn cael eu hadolygu fel rhan o'r prosiect Trawsnewid Cwricwlwm ehangach. Mae'r adolygiad hwn o asesiadau yn rhoi cyfle i sicrhau bod pob asesiad yn:
- Cyd-fynd â deilliannau dysgu ar lefel rhaglenni a modiwlau
- Asesiadau o ansawdd uchel sy'n optimeiddio amser marcio ac nid ydynt yn llethu myfyrwyr na staff
- Asesiadau o ansawdd uchel sy'n mesur cynnydd myfyrwyr ac yn meithrin dysgu a chyfranogiad
- Darparu adborth ystyrlon i gefnogi myfyrwyr yn eu haseiniadau yn y dyfodol
Uniondeb Academaidd
Parhau â'r gwaith a wnaed ar draws y sefydliad fel rhan o'r rhaglen o weithgareddau gwella 'Ymlaen'; gwnaed rhagor o ddiwygiadau i weithdrefnau Uniondeb Academaidd i sicrhau gwerthuso ac adolygu parhaus yn ogystal ag ymateb i'r dirwedd sy'n newid.
Mae'r gwelliannau allweddol wedi cynnwys:
- Eglurder ynglŷn â'r broses arholiadau
- Eglurder ynghylch prosesau cyfathrebu â myfyrwyr
- Eglurder ynglŷn â chanllawiau ar arholiadau llafar
- Canllawiau ychwanegol ar y dystiolaeth y mae ei hangen
- Symleiddio prosesau a systemau
Oherwydd y defnydd eang o Ddeallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol, mae newidiadau ac ystyriaethau ychwanegol i bolisi ac ymarfer yn ofynnol. Darparwyd rhagor o eglurhad ac arweiniad ym mhob polisi perthnasol i sicrhau bod staff a myfyrwyr yn gyfarwydd â'r sefyllfa sefydliadol ar GenAI mewn perthynas ag asesu ac uniondeb academaidd.
3. Llywodraethu Academaidd
Mae llywodraethu academaidd yn hanfodol er mwyn diogelu gwerth cymwysterau a ddyfernir gan y Brifysgol. Mae Pwyllgor Addysg y Brifysgol yn gyfrifol am oruchwylio Ansawdd a Safonau ac mae'n darparu adroddiad blynyddol i Gyngor y Brifysgol (Llywodraethwyr), sy'n rhoi sicrwydd iddynt fod ansawdd a safonau'n cael eu cynnal. Cynhaliwyd Adolygiad Gwella Ansawdd yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA) ym mis Tachwedd 2020, yn unol â gofynion Fframwaith Asesu Ansawdd Cymru, a bydd y pwynt adolygu nesaf ym mis Mai 2026.
Law yn llaw â'r adolygiad hwn, gofynnir i'r Llywodraethwyr gadarnhau nifer o ddatganiadau yn flynyddol fel rhan o Fframwaith Asesu Ansawdd Cymru, gan gynnwys, ar gyfer darparwyr sydd â phwerau dyfarnu graddau, bod safonau'r dyfarniadau maen nhw'n gyfrifol amdanynt wedi'u gosod a'u cynnal yn briodol.
Er mwyn cynorthwyo'r Llywodraethwyr i sicrhau'r sicrwydd hwnnw, mae dull adrodd sy'n bwydo drwy'r sefydliad drwy Bwyllgorau a Byrddau Sicrhau Ansawdd ar lefel Cyfadran/Ysgol a Sefydliad i Bwyllgor Addysg y Brifysgol. Mae Bwrdd Partneriaeth Cydweithredol hefyd, sy'n goruchwylio'r holl drefniadau Partneriaeth. Gyda'i gilydd, mae'r strwythur llywodraethu hwn yn sicrhau bod grym yn nwylo'r cyrff lleol, ond mae gan y Brifysgol oruchwyliaeth glir o ansawdd a safonau.
Drwy gydol 2023/24, adolygwyd y fframweithiau llywodraethu addysg a'r prosesau sicrhau ansawdd i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn addas at y diben, yn effeithlon ac yn effeithiol. Arweiniodd hyn at fframwaith llywodraethu addysg wedi'i ailddiffinio a'i symleiddio, a gweithredwyd dulliau sicrhau a gwella ansawdd newydd yn 2024/25 i gefnogi dull 'gwella parhaus' sy'n ymateb i brofiad y myfyrwyr.
Gyda ffocws clir ar wella parhaus, diwygiwyd prosesau adolygu ansawdd mewnol hefyd i ddarparu myfyrio parhaus, dadansoddi data, cynllunio gweithredu a gwerthuso. Mae'r dull Monitro Gwella Parhaus wedi dileu'r angen am Adolygu Rhaglenni Blynyddol ac Adolygu Ansawdd, gan ffafrio pwyntiau myfyrio parhaus a lleihau'r baich gweinyddol. Mae'r dull newydd hefyd yn cefnogi gweithgareddau cynllunio gweithredu a gwella mwy ymatebol sy'n amserol ac yn effeithiol.
Mae'r Arholwyr Allanol a'r Arbenigwyr Pwnc Allanol yn hanfodol yn y gwaith o ddylunio, cymeradwyo ac adolygu rhaglenni yn barhaus, ac maen nhw'n cymryd rhan ym mhob dyluniad neu adolygiad o raglenni. Ar lefel sefydliad, mae'r Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau yn derbyn adroddiad Arholwr Allanol ar lefel Cyfadran/Ysgol ac yn darparu adroddiad sefydliadol i Bwyllgor Addysg y Brifysgol. Mae'n ofynnol i gyfadrannau/ysgolion ddarparu ymateb ar lefel leol, ac mae'r Brifysgol yn goruchwylio ac yn ymateb i unrhyw gamau sy'n cael eu cymryd mewn ymateb i Adroddiadau Arholwr Allanol ar lefel sefydliad.
Fel rhan o'r dull Monitro Gwella Parhaus, roedd y sefydliad yn awyddus i gynnal arbenigedd allanol cryf. Adolygwyd prosesau Arholwyr Allanol a gweithredwyd y datblygiadau allweddol canlynol yn 2024/25:
- Timau Rhaglenni i ddefnyddio arbenigedd ac argaeledd Arholwyr Allanol presennol cyn enwebu Arholwyr Allanol i amnewid, neu Arholwyr Allanol ar gyfer rhaglenni newydd.
- Ymestyn contractau Arholwr Allanol yn awtomatig pan nad oes unrhyw faterion sy'n peri pryder (5 mlynedd yw'r uchafswm deiliadaeth).
- Gweithredu ffi unffurf, a chaiff taliad 'codiad' ychwanegol ar gyfer pob rhaglen ychwanegol ei ychwanegu at bortffolio Arholwr Allanol. (Gyda diweddariad pellach ar gyfer 2025/26 ar gyfer taliadau ychwanegol)
- Ffïoedd Arholwr Allanol newydd i'w rhoi ar waith o fis Medi 2024.
- Arholwyr Allanol i ymweld â Phrifysgol Abertawe unwaith yn ystod y ddaliadaeth.
4. Algorithmau Dosbarthiad
Mae rheoliadau dosbarthiad Prifysgol Abertawe yn cael eu cyhoeddi yn y Rheoliadau Academaidd. Mae'r rheoliadau hyn yn cael eu hadolygu'n barhaus.
Fel arfer, bydd dosbarth gradd yr ymgeisydd yn cael ei bennu gan y marc cyfartalog wedi'i bwysoli ar gyfer pob modiwl, gan gynnwys marciau'r methiannau a oddefir, gan gyfrannu at yr asesiad anrhydedd gan ddefnyddio'r ffiniau dosbarthiad canlynol:
Band 3: Y marciau gorau a enillwyd mewn 80 credyd a ddilynwyd ar Lefel 6, â phwysiad o 3
Band 2: Y marciau Lefel 6 o’r 40 credyd a ddilynwyd sy’n weddill a’r marciau gorau a enillwyd mewn 40 credyd a ddilynwyd ar Lefel 5, â phwysiad o 2
Band 1: Y marciau a enillwyd yn y credydau Lefel 5 a ddilynwyd sy’n weddill, â phwysiad o 1
Yna defnyddir fformiwla i gyfrifo'r cyfartaledd dosbarthiad gradd.
| Cyfartaledd Dosbarth Gradd wedi'i Bwysoli | |
|---|---|
| Anrhydedd Dosbarth Cyntaf | 70%+ |
| Anrhydedd Ail Ddosbarth, Adran I | 60-69.99% |
| Anrhydedd Ail Ddosbarth, Adran II | 50-59.99% |
| Anrhydedd Trydydd Dosbarth | 40-49.99% |
| Gradd Basio | 35-39.99% |
Cyfle: Gellir ystyried myfyrwyr sydd o fewn 2% o'r ffin ddosbarthu i'w dyrchafu i'r dosbarthiad nesaf os ydyn nhw'n bodloni'r meini prawf canlynol.
Yr Egwyddor Mwyafrif: Er mwyn dyfarnu’r dosbarthiad uwch, mae’n rhaid bod myfyriwr wedi ennill marciau ym mand y dosbarthiad uwch mewn modiwlau â phwysiad credydau gwerth o leiaf hanner y rheiny sy’n cyfrannu at ddosbarthiad y radd.
Yr Egwyddor Cyflymder Gadael: Bydd Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol yn ystyried cyfartaledd y flwyddyn astudio olaf heb bwysiad. Pan fydd cyfartaledd blwyddyn olaf myfyriwr ym mand y dosbarthiad uwch, bydd Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol yn dyfarnu gradd yn y dosbarth uwch fel arfer.
5. Gwella Parhaus
Trawsnewid y Cwricwlwm
Mae'r sefydliad wedi cychwyn prosiect sylweddol i Drawsnewid y Cwricwlwm. Prif nodau'r prosiect Trawsnewid y Cwricwlwm yw creu profiad addysgol mwy cadarnhaol a chyfoethog i fyfyrwyr a staff; Cwricwlwm mwy hyblyg ac addasadwy sy'n gweddu i anghenion myfyrwyr amrywiol; cynnig gwell i ddatblygu sgiliau myfyrwyr a chyfleoedd sydd ar gael iddynt; mwy o ystwythder a chystadleuaeth mewn marchnadoedd lleol a byd-eang; rhaglenni sy'n llai cymhleth ac sy'n fwy effeithiol a gwydn, ac sy'n cael eu rheoli'n hawdd.
Hyd yma mae'r prosiect wedi cymeradwyo 45 rhaglen, 22 rhaglen wedi'u hailgynllunio a'u cymeradwyo ar gyfer dechrau Medi 2026 yn ychwanegol at y 23 rhaglen a gymeradwywyd ar gyfer dechrau 2025. Mae 14 rhaglen arall yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd a bydd gweddill y rhaglenni yn cael eu cwblhau a'u cymeradwyo erbyn mis Rhagfyr 2025.
Ochr yn ochr â monitro rheolaidd, mae'r Brifysgol wedi bod yn canolbwyntio ar wella profiad myfyrwyr yn barhaus, gan ymdrechu'n benodol i wella yn y meysydd allweddol sy'n effeithio'n uniongyrchol ar berfformiad myfyrwyr.
Gwelliannau wedi'u targedu:
Yn 2023/24 cyflwynodd y brifysgol 'Ymyriadau wedi'u Targedu' yn y meysydd pwnc yr oedd arnynt angen cymorth sylweddol i wella eu canlyniadau yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr. Gwerthuswyd y dull yn dilyn canlyniadau 2024 yr Arolwg hwnnw a gwnaed gwelliannau ar gyfer 2024/25.
Dangosodd canlyniadau'r Gwelliannau wedi'u Targedu yn 2023/24 a 2024/25 welliannau ym mhob pwnc yn y mwyafrif o feysydd thematig yr Arolwg mewnol o Brofiad Myfyrwyr a'r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr, a bu gwelliant o 3.9% ar gyfartaledd ar lefel thematig. Ers hynny, mae'r broses wedi'i hymgorffori yn y system Monitro Gwella Parhaus a gyflwynwyd yn 2024/25 ac fe'i hail-lansiwyd tua dechrau 2025/26.
Dysgu, Addysgu ac Asesu
Mae'r Brifysgol yn parhau i ganolbwyntio ei hymdrechion ar wella meysydd allweddol o brofiad myfyrwyr, gwella darpariaeth ac ansawdd. Mae'r sefydliad wedi canolbwyntio ar ymyrraeth gynharach mewn dysgu, addysgu ac asesu gyda phwyslais ychwanegol ar adborth myfyrwyr y tu allan i'r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr. Mae arolygon mewnol o brofiad myfyrwyr ar gyfer israddedigion ac ôl-raddedigion wedi darparu pwyntiau ymyrraeth gynharach, rhagor o eglurder ar flaenoriaethau a golwg hydredol ar brofiad y myfyriwr. Mae'r arolygon hyn, ynghyd â ffynonellau eraill o adborth myfyrwyr drwy Unitu ac adborth modiwlau, yn allweddol i weithgareddau gwella ac ymyrraeth gynharach ar lefel y rhaglen, yr ysgol, y gyfadran a'r sefydliad ac maent wedi bod yn elfen allweddol o'r Gwelliannau wedi'u Targedu a grybwyllir uchod.
Cafwyd gwelliannau yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr o ran y sgoriau a'n safle yn y sector, gan atgyfnerthu'r gweithgarwch gwella parhaus a chymesuredd â'r sector. Fodd bynnag, mae'r Brifysgol yn parhau i fod yn ymrwymedig i wella profiad y myfyrwyr drwy roi ffocws allweddol ar addysgu gafaelgar, adborth amserol ac adborth adeiladol i ategu aseiniadau yn y dyfodol, a chau'r ddolen adborth. Mae dadansoddiad o ddata ansoddol yn cydberthyn â hyn ond yn darparu cyd-destun ychwanegol i alluogi gweithgareddau gwella wedi'u targedu i ategu profiad y myfyriwr.