Canllaw i Arholi Myfyrwyr Ymchwil
1. Aelodaeth y Bwrdd Arholi
1.1 Bydd pob Bwrdd Arholi ymgeiswyr yn cynnwys yr unigolion canlynol:
Cadeirydd profiadol ac annibynnol, sef y Deon Gweithredol neu aelod o staff sydd â phrofiad priodol ac sydd wedi'i enwebu gan y Deon Gweithredol. Mae’n ofynnol i Gadeirydd y Bwrdd Arholi gadeirio’r arholiad llafar ac unrhyw gyfarfod o’r arholwyr:
- Arholwr Allanol;
- Arholwr Mewnol neu, mewn achosion penodol, ail arholwr allanol (gweler yr adran 'Gwrthdaro Buddiannau' isod).
Dylai fod gan yr arholwr mewnol a'r arholwr allanol brofiad o oruchwylio ac arholi ar lefel y traethawd ymchwil i'w arholi ar lefel gradd ymchwil ôl-raddedig.
Os yw unrhyw rai o aelodau arfaethedig o'r Bwrdd yn gymharol ddibrofiad, dylai fod gan yr aelodau eraill brofiad digonol i wneud iawn am hyn. Yn benodol, os yw'r Arholwr Mewnol neu Allanol yn ddibrofiad, dylai fod gan y Cadeirydd brofiad sylweddol o arholi a chadeirio.
Dylai pob Cadeirydd neu Arholwr Mewnol newydd gysgodi o leiaf un arholiad llafar ar y lefel briodol ac ar gyfer y dyfarniad priodol cyn arholi myfyrwyr a dylent fod wedi cwblhau unrhyw hyfforddiant perthnasol.
1.2 Cadeirydd y Bwrdd Arholi
Bydd Cadeirydd y Bwrdd yn annibynnol ar y broses arholi a bydd yn atebol i'r Bwrdd Rheoliadau, Ansawdd a Safonau a/neu'r Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau am y ffordd y cynhelir yr arholiad. Mae'n ofynnol i Gadeirydd y Bwrdd Arholi gadeirio'r arholiad ac unrhyw gyfarfod o’r arholwyr, gan gynnwys lle mae angen i fyfyriwr sefyll ail arholiad llafar.
1.2.1 Fel arfer, bydd y Cadeirydd:
- Yn aelod o staff Prifysgol Abertawe, sydd â statws digon uchel a digon o brofiad i allu arfer awdurdod;
- Yn meddu ar ddyfarniad academaidd ar lefel y traethawd ymchwil i'w arholi neu’n uwch na hynny neu brofiad proffesiynol cyfatebol;
- Wedi gweithredu fel Arholwr Mewnol a/neu Allanol ar lefel y traethawd ymchwil i'w arholi neu'n uwch na hynny, er mwyn bod â digon o brofiad i ddeall y broses yn drwyadl;
- Yn meddu ar ddealltwriaeth glir o reoliadau a gweithdrefnau’r Brifysgol ar gyfer y dyfarniad(au) perthnasol;
- Wedi ymgymryd â hyfforddiant perthnasol ynghylch y rôl a pholisïau perthnasol y sefydliad a'i weithdrefnau goruchwylio.
Ni chaiff unrhyw aelod o staff a fu’n ymwneud ag unrhyw agwedd ar oruchwylio’r ymgeisydd fod yn Gadeirydd y Bwrdd Arholi.
1.3 Arholwr Allanol
Enwebir Arholwyr Allanol gan y Deon Gweithredol neu ei enwebai, gan ymgynghori â thîm goruchwylio'r myfyriwr. Dylai Cyfadrannau/Ysgolion gymryd gofal priodol yn ystod y broses enwebu er mwyn osgoi creu trefniadau dwyochrog a allai arwain at y posibilrwydd o ddiffyg gwrthrychedd.
1.3.1 Hawl i Weithio
Yn sgîl cyflwyniad rheolaethau a rheoliadau newydd Fisâu a Mewnfudo'r DU, rhaid i'r Brifysgol allu dangos bod gan yr holl Arholwyr Allanol yn y DU hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig. Ar yr adeg enwebu, dylai Cyfadrannau/Ysgolion nodi ar ba sail y barnwyd bod gan yr Arholwr Allanol arfaethedig hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig – e.e. mae’r arholwr allanol arfaethedig yn ddinesydd Prydeinig neu’n cael ei gyflogi gan sefydliad arall yn y DU (gallai hyn eithrio'r rhai sydd wedi cael fisa i weithio mewn un sefydliad yn unig). Nid yw'r broses hon yn berthnasol i Arholwyr Allanol sy’n gweithredu o bell dramor, ar yr amod nad ydynt yn teithio i'r DU.
1.3.2 Dylai Arholwr Allanol:
- Fod yn weithredol mewn ymchwil fel arfer a meddu ar brofiad digonol i arfer awdurdod;
- Bod yn ymwybodol o natur a diben y radd y mae’r ymgeisydd yn cael ei arholi amdani;
- Bod â gwybodaeth arbenigol ac arbenigedd yn y pwnc ymchwil;
- Fel arfer, fod wedi arholi gradd uwch ar o leiaf un achlysur blaenorol yn ei sefydliad fel arholwr mewnol ar yr un lefel (gweler y troednodyn ar gyfer Enwebu Bwrdd Arholi isod);
- Fel arfer, fod wedi goruchwylio myfyrwyr ôl-raddedig hyd lefel y traethawd ymchwil neu’r tu hwnt i hynny;
- Fel arfer, feddu ar y radd y mae’n ei harholi neu gymhwyster cyfwerth. Os nad oes gradd ymchwil gan yr arholwr, yna rhaid i'r bwrdd gael tystiolaeth ategol ddigonol o addasrwydd yr unigolyn am y rôl.
- Ni ddylai gael ei benodi yn yr amgylchiadau canlynol, oni bai bod modd dangos tystiolaeth o amgylchiadau eithriadol:
- Mae wedi goruchwylio neu fentora'r ymgeisydd o'r blaen
- Mae'n gyn aelod o staff y Brifysgol, sydd wedi gadael y Brifysgol yn ystod cyfnod yr ymgeisyddiaeth;
- Mae'n noddwr, yn berthynas neu'n ffrind i’r ymgeisydd;
- Mae'n bartner y goruchwyliwr neu’n perthyn iddo;
- Mae wedi cyfrannu'n sylweddol at waith yr ymgeisydd fel cyd-awdur neu gydweithredwr neu ei waith ei hun yw ffocws y prosiect ymchwil;
- Mae’n aelod staff o adran neu sefydliad ymchwil lle mae’n ymwneud â Phrifysgol Abertawe mewn trefniant darpariaeth ddoethurol cydweithredol ac mae’r ymgeisydd dan sylw yn astudio o dan y trefniant hwnnw;
- Mae wedi cydweithredu'n uniongyrchol ac yn sylweddol â goruchwylwyr yr ymgeisydd (h.y. y tîm goruchwylio), yn ystod cyfnod yr ymgeisyddiaeth (e.e. cyd-awdur mwy na thri phapur y mae'r goruchwylwyr a'r arholwr wedi cyfrannu'n sylweddol atynt.
1.3.3
Gall arholwr o'r tu allan i system y Brifysgol fod yn briodol pan fo angen arbenigedd proffesiynol, ar yr amod bod gan y sawl a benodir statws addas a phrofiad digonol, ynghyd â phrofiad o arholi graddau ymchwil.
Gellir recriwtio arholwyr o'r fath o sefydliadau sy'n ymgymryd ag ymchwil, gan gynnwys y canlynol, er enghraifft: byrddau iechyd lleol, amgueddfeydd ac orielau cenedlaethol, llysoedd barnwrol a sefydliadau busnes rhyngwladol.
1.3.4
Os cynigir penodi Arholwr Allanol o brifysgol y tu allan i'r DU ac os nad yw'n gallu dangos ei fod yn gyfarwydd â system graddau ymchwil y DU, yna dylai'r Cadeirydd fod yn brofiadol a gallu briffio'r Arholwr Allanol am ddisgwyliadau cyflwyno am radd ymchwil.
Fel arfer, ni ddylai Arholwr Allanol:
- Fod wedi cael ei gyflogi gan Brifysgol Abertawe yn ystod y pum mlynedd diwethaf a rhaid iddo allu dangos nad oes unrhyw achosion eraill o Wrthdaro Buddiannau.
- Bod yn gyn-fyfyriwr o Brifysgol Abertawe yn yr un ddisgyblaeth â'r ymgeisydd.
- Bod ag unrhyw berthnasoedd proffesiynol neu bersonol perthnasol ag unrhyw un sy'n rhan o'r broses arholi, o’r oruchwyliaeth neu'r ddisgyblaeth (Gweler 'Gwrthdaro Buddiannau')
- Bod o Brifysgol a allai olygu creu trefniadau dwyochrog.
Mae Trefniant Dwyochrog mewn arholi allanol yn gytundeb (ffurfiol neu anffurfiol) rhwng dau sefydliad, adran neu uned academaidd lle caiff staff o un sefydliad eu penodi'n arholwyr allanol i'r sefydliad arall ac i'r gwrthwyneb, a gall hyn greu rhagfarn bosib drwy berthnasoedd sefydledig, gan leihau annibyniaeth wrth asesu a gwneud penderfyniadau.
Os nad yw’r arholwr allanol arfaethedig wedi bod yn arholwr allanol o’r blaen mae’n rhaid cyflwyno tystiolaeth o’i brofiad o fod yn arholwr mewnol ar gyfer gradd uwch ac mae’n rhaid i’r arholwr mewnol arfaethedig fod â phrofiad o fod yn arholwr mewnol a hefyd yn arholwr allanol.
1.3.5
Nifer y traethodau ymchwil y caiff un arholwr allanol eu harholi:
Ni fydd nifer y traethodau ymchwil y gall un arholwr allanol penodol eu harholi mewn cyfnod o ddeuddeg mis fel arfer fod yn fwy na thri ar lefel doethur a deg ar lefel meistr ymchwil. Mewn amgylchiadau eithriadol, bydd angen cymeradwyaeth Cadeirydd Bwrdd Rheoliadau, Ansawdd a Safonau'r Brifysgol.
1.4 Arholwr Mewnol
1.4.1
Fel arfer, dylai Arholwr Mewnol:
- Fod yn aelod o staff a gyflogir gan Brifysgol Abertawe neu o bartner (academaidd neu ddiwydiannol) cymeradwy sydd â chontract perthnasol â Phrifysgol Abertawe;
- Meddu ar ddyfarniad academaidd ar yr un lefel â'r lefel mae'n ei harholi, neu lefel uwch na hynny, neu brofiad proffesiynol cyfatebol;
- Meddu ar wybodaeth ddigonol o bwnc yr ymchwil;
- Meddu ar brofiad perthnasol o arholi myfyrwyr ar y lefel a'r math o ddyfarniad, neu dylai fod wedi cysgodi arholiadau llafar priodol ar yr un lefel.
- Wedi cwblhau hyfforddiant perthnasol am y rôl, gan gynnwys polisïau a gweithdrefnau goruchwylio'r sefydliad dan sylw.
Ni chaiff unrhyw aelod o staff a fu’n ymwneud â goruchwylio’r ymgeisydd fod yn arholwr mewnol.
Os nad oes modd penodi Arholwr Mewnol priodol, gall y Deon Gweithredol (neu enwebai) gymeradwyo penodi ail Arholwr Allanol yn lle arholwr mewnol.
Ni chaiff ail Arholwr Allanol ei ystyried oni bai y cymerwyd pob cam priodol i benodi arholwr mewnol priodol.
Fel arfer, ni ddylai Arholwr Mewnol:
Fod yn ymgeisydd presennol am radd ymchwil naill ai ym Mhrifysgol Abertawe neu mewn unrhyw sefydliad arall;
- Wedi bod yn fyfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe ar yr un pryd â’r myfyriwr i gael ei arholi.
2. Gwrthdaro Buddiannau Wrth Enwebu i'r Bwrdd Arholi
2.1 Cydymffurfio â Rheoliadau
- Rhaid dethol arholwyr ar sail eu cymwysterau academaidd, eu harbenigedd ymchwil a'u profiad o arholi graddau ymchwil, gan sicrhau annibyniaeth, tegwch a didueddrwydd.
- Ni ddylai fod gan arholwyr unrhyw berthynas bersonol neu broffesiynol a allai effeithio ar eu gwrthrychedd neu y gellir ei hystyried yn sail rhagfarn.
- Ni ddylid enwebu arholwyr os gallant fod â gwrthdaro buddiannau.
2.2 Nodi Gwrthdaro Buddiannau Posib
Dylai'r holl Arholwyr ddatgan a ydynt wedi cael:
- Cydweithrediadau Ymchwil: Unrhyw brosiectau ymchwil neu gyhoeddiadau ar y cyd â'r ymgeisydd neu'r tîm goruchwylio yn benodol, neu brosiectau/gyhoeddiadau perthynol ar y cyd ag aelodau o'r Ysgol neu Grwpiau Ymchwil sy'n gysylltiedig â'r ymgeisydd neu'r tîm goruchwylio.
- Perthnasoedd Proffesiynol: Perthnasoedd proffesiynol perthnasol a/neu barhaus, cyflogaeth neu gysylltiadau ymgynghori â'r ymgeisydd neu'r tîm goruchwylio, yr Ysgol neu'r Brifysgol.
- Perthnasoedd Personol: Perthnasoedd teuluol neu bersonol agos â'r ymgeisydd neu'r tîm goruchwylio.
- Ymgysylltu Blaenorol: Wedi ymwneud yn agos â chymwysterau neu arholiadau blaenorol yr ymgeisydd (yn enwedig fel arholwr).
2.3. Enghreifftiau o Wrthdaro Buddiannau Posib (nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr):
- Mae gan arholwr berthynas broffesiynol neu bersonol berthnasol â'r ymgeisydd a/neu unrhyw aelod o'r tîm goruchwylio a/neu aelodau cysylltiedig o'r Adran/Ysgol a all effeithio ar ei allu i fod yn ddiduedd.
- Mae arholwr wedi ysgrifennu papur ar y cyd â'r ymgeisydd neu aelodau o'r tîm goruchwylio.
- Mae arholwr wedi mentora neu gynghori'r ymgeisydd neu aelodau o'r tîm goruchwylio ar adeg gynharach yn ei yrfa academaidd.
- Mae arholwr yn gweithio ar brosiect ymchwil gyda goruchwyliwr neu oruchwylwyr yr ymgeisydd ar hyn o bryd.
- Mae gan arholwr berthynas deuluol â'r ymgeisydd neu aelod o'r tîm goruchwylio.
- Trefniadau dwyochrog ar gyfer arholi allanol, gan gynnwys lle mae goruchwyliwr yr ymgeisydd wedi gweithredu o'r blaen fel Arholwr Allanol yn adran/cyfadran/ysgol yr arholwr allanol arfaethedig.
- Bu cyfathrebu/cydweithredu academaidd perthnasol â'r ymgeisydd (gan gynnwys fel cyn oruchwyliwr i'r ymgeisydd) neu â goruchwylwyr yr ymgeisydd a fyddai’n arwain at amheuaeth ynghylch ei allu i arfer barn wrthrychol, ddiduedd ac annibynnol.
- Mae wedi arholi graddau ymchwil yn fynych yn yr un adran/gyfadran/ysgol.
- Mae'n diwtor bugeiliol, yn noddwr, yn gydweithiwr, yn berthynas neu'n ffrind agos i'r ymgeisydd, naill ai yn y sefydliad hwn neu yn sefydliad blaenorol yr ymgeisydd.
- Mae wedi cael ei arholi ei hun gan y goruchwyliwr/goruchwylwyr neu gan bartner neu berthynas i'r goruchwylwyr.
- Gwaith yr arholwr ei hun yw ffocws y prosiect ymchwil.
- Mae'n dod o sefydliad sy'n rhan o gytundeb partneriaeth ffurfiol â Phrifysgol Abertawe, yn enwedig lle ceir perthynas amlwg â'r Adran/Ysgol.
- Mae'n gyn-fyfyriwr neu'n gyn-oruchwyliwr unrhyw aelod o'r tîm goruchwylio a/neu'r bwrdd arholi.
- Mae'r myfyriwr sy'n cael ei arholi'n aelod o staff Prifysgol Abertawe
2.4 Arholi Aelodau o staff Prifysgol Abertawe
Rhaid bod yn hynod ofalus wrth arholi myfyrwyr sy'n aelodau staff ym Mhrifysgol Abertawe, gan gynnwys aelodau staff er anrhydedd ac aelodau staff sy'n gweithio mewn sefydliadau partner (diwydiannol ac academaidd), er mwyn sicrhau nad oes gwrthdaro buddiannau yn y Bwrdd na rhagfarn o blaid neu yn erbyn yr ymgeisydd. Er y gall fod yn heriol nodi arbenigwr pwnc nad oes ganddo gysylltiad agos â'r ymgeisydd, dyma'r ymagwedd gyntaf a ddylai gael ei mabwysiadu, gan ddefnyddio'r arweiniad ar Wrthdaro Buddiannau uchod.
Dim ond lle na ellir nodi Arholwyr Mewnol annibynnol addas, y gellir gwneud achos dros benodi ail Arholwr Allanol.
Os yw ymgeisydd yn cael ei gyflogi gan y Brifysgol rhwng y dyddiad cyflwyno a dyddiad yr arholiad, dylid adolygu'r Bwrdd Arholi am Wrthdaro Buddiannau a dylid newid ei aelodaeth os oes angen, gan roi sylw dyladwy i sicrhau cysondeb gwneud penderfyniadau er mwyn sicrhau profiad y myfyriwr.
Fel arfer, os yw ymgeiswyr yn ymgymryd â hyd at yr uchafswm arferol o chwe awr yn ystod yr wythnos waith o gyflogaeth gyffredin sy'n ymwneud â’r pwnc yn y Brifysgol, ni chaiff hyn ei ystyried yn achos o Wrthdaro Buddiannau, oni nodir materion eraill (gweler 'Canllawiau ar Gyflogi Myfyrwyr Ymchwil').
Sicrhau Cydymffurfiaeth
- Datgeliad: Rhaid i arholwyr ddatgelu unrhyw berthnasoedd neu ryngweithiadau blaenorol â'r ymgeisydd neu'r tîm goruchwylio.
- Adolygu: Bydd staff y Gwasanaethau Proffesiynol yn nodi unrhyw wrthdaro buddiannau posibl ac yn cynghori yn eu cylch.
- Asesu: Rhaid i Bwyllgor Ymchwil Ôl-raddedig y Gyfadran asesu'r wybodaeth a ddatgelir er mwyn sicrhau nad oes posibilrwydd o ragfarn.
- Cymeradwyaeth: Dim ond os nad oes tystiolaeth am unrhyw wrthdaro buddiannau perthnasol y caiff arholwyr eu cymeradwyo ar gyfer y bwrdd arholi.
2.5 Datblygiad Proffesiynol: Hyfforddiant ac Arweiniad i Staff
Bydd yn ofynnol i aelod o staff nad yw wedi gweithredu fel arholwr mewnol o’r blaen arsylwi ar o leiaf un arholiad cyn cael ei benodi’n arholwr mewnol, a rhaid iddo ymgymryd ag unrhyw hyfforddiant perthnasol yn y Brifysgol.
Gellir arsylwi ar unrhyw arholiad llafar yn y Brifysgol gan berson annibynnol heb gael caniatâd penodol o flaen llaw am bresenoldeb yr arsylwr gan yr holl bartïon sy'n rhan o'r arholiad. Dylai'r Cadeirydd esbonio presenoldeb unrhyw arsylwyr cyn yr arholiad llafar, gan gynnwys pam y byddan nhw'n bresennol a'r rheswm dros eu presenoldeb, fel arfer at ddibenion hyfforddiant (sylwer, ar gyfer rhai myfyrwyr sydd â gofynion cymorth penodol, dylid cyfathrebu'n effeithiol â’r myfyriwr a'r Cadeirydd ynghylch yr arsylwi, ac ni ddylid caniatáu i'r arsylwr fod yn bresennol os yw'r myfyriwr neu'r Cadeirydd yn credu y byddai dan anfantais).
3. Enwebu Bwrdd Arholi
Dylai'r Deon Gweithredol neu ei enwebai gwblhau ffurflen Enwebu Bwrdd Arholi, gan nodi a yw'r myfyriwr yn aelod o’r staff ai peidio, a chan enwi'r holl unigolion sydd wedi ymwneud â goruchwylio'r myfyriwr.
3.1
Dylai'r Deon Gweithredol neu ei enwebai ddarparu manylion cyswllt llawn ar gyfer yr holl arholwyr a enwebwyd. Rhaid darparu manylion llawn am brofiad goruchwylio ac arholi a gwybodaeth berthnasol arall ar gyfer yr holl arholwyr arfaethedig. Dylai’r wybodaeth a ddarperir gynnwys:
- Cofnod o waith goruchwylio llwyddiannus ar y lefel briodol;
profiad blaenorol o arholi graddau ymchwil; - Cymwysterau academaidd a/neu broffesiynol;
- Swyddi academaidd presennol a blaenorol;
- Crynodeb byr o gyhoeddiadau diweddar a chynnyrch ymchwil.
- Unrhyw wrthdaro buddiannau posibl sy'n hysbys.
3.2
Caiff yr holl enwebiadau a gymeradwyir gan Ddeon Gweithredol y Gyfadran (neu ei enwebai) eu hadolygu gan y Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol ar gyfer Rheoliadau, Ansawdd a Safonau (neu ei enwebai). Gellir gofyn am ddarparu rhagor o wybodaeth ynghylch cymwysterau a/neu arbenigedd yr arholwyr a arfaethedig a hefyd y Cadeirydd arfaethedig ar gyfer y Bwrdd Arholi os oes unrhyw bryderon. Mae gan y Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol neu ei gynrychiolydd yr awdurdod i gymeradwyo neu wrthod penodi unrhyw aelod a enwebir i'r Bwrdd Arholi ar sail yr wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn y canllawiau hyn.
3.3
Dylai'r Gyfadran/yr Ysgol sicrhau cadarnhad anffurfiol bod yr Arholwr Allanol arfaethedig yn fodlon ymgymryd â'r rôl ac ar gael i wneud hynny, heb unrhyw warantau, cyn y cyflwynir y ffurflen Enwebu Bwrdd Arholi i gael ei hadolygu. Dylai’r arholwr allanol arfaethedig ddeall bod derbyn enwebiad fel arholwr allanol yn golygu ei fod yn ymrwymo i fod ar gael trwy gydol cyfnod y broses arholi, gan gynnwys proses ailgyflwyno lle y bo’n briodol.
3.4
Rhaid i'r ffurflen Enwebu Bwrdd Arholi gael ei harwyddo gan y Deon Gweithredol (neu ei enwebai).
3.5
Os yw’r traethawd ymchwil i’w gyflwyno a’i arholi mewn iaith heblaw am y Gymraeg neu'r Saesneg (dylid sicrhau caniatâd i wneud hynny adeg cadarnhau’r ymgeisyddiaeth, gweler y Canllawiau ar Fonitro Cynnydd Myfyrwyr Ymchwil), rhaid i'r Deon Gweithredol (neu ei enwebai) sicrhau y bydd holl aelodau’r Bwrdd Arholi’n gallu cymryd rhan lawn a gweithredol yn yr arholiad. Rhaid i'r Gyfadran/yr Ysgol gyflwyno'r holl geisiadau i gael eu harholi yn y Gymraeg i'r Gwasanaethau Addysg.
4. Cadarnhau Penodi Bwrdd Arholi
4.1 Arholwr Allanol
Bydd y Gwasanaethau Addysg yn hysbysu'r arholwr allanol i gadarnhau ei benodiad ac amodau a thelerau'r penodiad, gan anfon yr wybodaeth at y Deon Gweithredol (neu ei enwebai) priodol hefyd.
4.2 Arholwr Mewnol a Chadeirydd y Bwrdd Arholi
Bydd y Gwasanaethau Addysg yn rhoi gwybod i'r Deon Gweithredol neu ei enwebai pan fydd y Bwrdd Arholi wedi cael ei gymeradwyo.
4.3 Ffïoedd a Threuliau
Bydd Arholwyr Allanol yn derbyn ffi resymol gan y Brifysgol am eu gwasanaethau.
Oherwydd bod disgwyl i arholwyr allanol gymryd rhan yn yr arholiad ar-lein fel arfer, ni fydd y Brifysgol fel arfer yn talu treuliau. Pan fo gan fyfyrwyr anghenion dysgu penodol sy'n gofyn i'r Arholwr Allanol ymgymryd â'i ddyletswyddau wyneb yn wyneb, telir treuliau cyfyngedig ar gyfer costau teithio a llety. Rhaid i'r holl geisiadau am dreuliau fod yn unol â pholisi teithio a threuliau staff y Brifysgol.
Ni fydd y Brifysgol, mewn unrhyw amgylchiadau, yn talu unrhyw dreuliau ar gyfer unigolion heblaw am yr Arholwr Allanol cymeradwy (er enghraifft, pryd o fwyd sy'n cynnwys unigolyn/unigolion eraill).
5. Trefniadau Arholi
5.1
Cyfrifoldebau'r Gyfadran/yr Ysgol a Dosbarthu Dogfennau Arholiadau
Pan fydd y ddau arholwr wedi eu penodi, cyfrifoldeb y Gyfadran/yr Ysgol yw darparu copïau electronig o'r dogfennau canlynol i bob arholwr:
- Y rheoliadau perthnasol;
- Traethawd ymchwil yr ymgeisydd;
- Canllawiau ar Arholi Myfyrwyr Ymchwil;
- Canllawiau i Fyfyrwyr Ymchwil ar Gyflwyno Traethawd Ymchwil;
- Y Ffurflenni Adroddiadau a Chanlyniadau angenrheidiol ar gyfer cynnal yr arholiad.
Mae’r Gyfadran/yr Ysgol hefyd yn gyfrifol am ddarparu manylion cyswllt pob aelod o'r Bwrdd Arholi.
6. Uniondeb Academaidd a Chamymddygiad Academaidd
Bydd arholwr sydd o'r farn bod ymgeisydd wedi camymddwyn yn academaidd, boed yn ystod y broses arholi neu wedi hynny, yn cyflwyno adroddiad ysgrifenedig am yr amgylchiadau ar unwaith i Gadeirydd y Bwrdd Arholi dan sylw.
7. Trefniadau Arholi
Penodir Cynullydd ac Ysgrifennydd a fydd yn gyfrifol am sicrhau bod y trefniadau gweinyddol cywir ar gyfer cyflwyno ac arholi’r traethawd ymchwil yn cael eu dilyn. Bydd y Deon Gweithredol neu'r enwebai dan sylw'n gweithredu fel Cynullydd ac Ysgrifennydd neu bydd yn dirprwyo’r swyddogaethau hyn i uwch-aelod o’r staff e.e. aelod o’r staff sy’n gyfrifol am reoli myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig neu Gadeirydd y Bwrdd Ymchwil/y Bwrdd Ymchwil Ôl-raddedig.
7.1 Dyddiad yr Arholiad
Dylid trefnu dyddiad sy’n dderbyniol i bawb ar gyfer yr arholiad llafar. Dylai pob parti dderbyn o leiaf bythefnos o rybudd o ddyddiad yr arholiad llafar. Os bydd amgylchiadau eithriadol yn peri bod unrhyw barti’n methu bod ar gael, dylid gohirio’r arholiad llafar. Os na fydd myfyriwr yn bresennol yn yr arholiad llafar a heb roi rhybudd ymlaen llaw, bernir bod y myfyriwr wedi methu bodloni gofynion y dyfarniad neu'r radd lefel is a dylai’r Bwrdd Arholi roi argymhelliad o Heb ei Gymeradwyo (gweler Canlyniadau arholiadau ar gyfer pob gradd isod).
8. Amserlen Arholi
Gofynnir i'r ddau arholwr adrodd yn ôl ar y gwaith mewn da bryd. Y disgwyliad arferol yw y bydd aelodau'r bwrdd arholi yn cwblhau'r ffurflen adroddiadau a chanlyniad ac yn ei chyflwyno ar y diwrnod y cynhelir y bwrdd arholi, neu ddim hwyrach nag wythnos ar ôl dyddiad y bwrdd arholi; byddai hyn hefyd yn berthnasol ar gyfer traethawd ymchwil wedi'i ailgyflwyno. Ni chaiff ffïoedd eu prosesu tan i ffurflen adroddiadau a chanlyniad gael ei derbyn.
8.1
Rhaid i bob arholiad llafar gael ei gynnal o fewn chwe mis i ddyddiad cyflwyno’r traethawd ymchwil. Mae'r Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau yn monitro dyddiadau cyflwyno, a thybir bod myfyrwyr nad ydynt wedi cael eu harholi o fewn chwe mis ar ôl y dyddiad cyflwyno heb gydymffurfio, ac ni chânt eu cymeradwyo ar gyfer y dyfarniad neu ar gyfer gradd is.
9. Dyletswyddau'r Arholwyr
Mae’n ofynnol i arholwyr gynnal arholiad llafar i bob ymgeisydd sydd wedi cyflwyno traethawd ymchwil am radd ymchwil. Fel rheol, rhaid arholi traethawd ymchwil sy’n cael ei ailgyflwyno drwy ail arholiad. Mewn amgylchiadau eithriadol, gellir hepgor yr ail arholiad llafar yn ôl disgresiwn yr arholwyr os ydynt yn cytuno bod y traethawd ymchwil yn llwyddo pan gaiff ei ailgyflwyno. Yn yr achos hwn, bydd Cadeirydd y Bwrdd Arholi'n rhoi gwybod i'r myfyriwr bod yr angen am ail arholiad wedi cael ei hepgor.
Yn ystod y broses arholi, bydd yr arholwyr yn:
- Ystyried y traethawd ymchwil a’r crynodeb a gyflwynir gan yr ymgeisydd. Bydd unrhyw ran o’r traethawd ymchwil sydd eisoes wedi’i derbyn, neu sy’n cael ei chyflwyno ar yr un pryd, am unrhyw radd neu gymhwyster arall yn y Brifysgol, neu mewn man arall, yn cael ei heithrio o’r arholiad;
- Adrodd ar gwmpas, nodweddion ac ansawdd y gwaith a gyflwynwyd;
- Eu bodloni eu hunain bod yr ymgeisydd yn meddu ar wybodaeth gyffredinol dda yn y maes dysg arbennig y mae’r traethawd ymchwil yn ymwneud ag ef.
10. Rôl Benodol Arholwr Mewnol
Rhaid i’r arholwr mewnol benderfynu a yw gwaith ymchwil a gwybodaeth y myfyriwr yn cyflawni’r safon a fyddai fel arfer yn ddisgwyliedig gan fyfyriwr yn y Gyfadran/yr Ysgol sy’n cyflwyno am y radd honno.
11. Rôl Benodol Arholwr Allanol
Rhaid i’r arholwr allanol benderfynu a yw gwaith ymchwil a gwybodaeth y myfyriwr yn cyflawni’r safon sy’n cymharu ag ymchwil a gwybodaeth myfyrwyr sy’n cael eu harholi mewn sefydliadau eraill am yr un radd.
12. Rôl benodol Cadeirydd y Bwrdd Arholi
Cyfrifoldeb y Cadeirydd yw sicrhau bod y broses yn drwyadl, yn deg, yn ddibynadwy ac yn gyson â rheoliadau a gweithdrefnau'r Brifysgol. Os oes angen adolygu penderfyniad arholiad neu os oes apêl yn ei erbyn, mae gofyn i’r Cadeirydd ddarparu adroddiad ysgrifenedig ar y modd y cafodd yr arholiad gael ei gynnal yn ôl yr angen.
13. Cyflwyno'r Traethawd Ymchwil
Dylai aelodau’r Bwrdd Arholi gadw cynnwys y Canllawiau ar Gyflwyno Traethawd Ymchwil ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil mewn cof wrth asesu traethawd ymchwil. Bydd y Gyfadran/yr Ysgol yn darparu mynediad at y Canllawiau yn ystod yr arholiad llafar, yn ôl yr angen.
14. Ffurflenni Adroddiadau a Chanlyniad
Nod ffurflenni Adroddiadau a Chanlyniad yr Arholwyr yw gweithredu fel offer ar gyfer adroddiadau'r arholwyr a Chadeirydd y Bwrdd Arholi, ac maen nhw'n cael eu defnyddio gan y Bwrdd Arholi i wneud argymhelliad ffurfiol i Brifysgol Abertawe ar ganlyniad yr arholiad.
Cynghorir arholwyr bod gan fyfyrwyr yr hawl i ofyn am fynediad at unrhyw sylwadau a wneir amdanynt yn yr adroddiadau hyn, yn unol â thelerau Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) 2018.
15. Cynnal yr Arholiad Llafar
Mae arholiadau llafar yn rhan hanfodol o’r broses arholi ymgeiswyr am raddau ymchwil. I’r diben hwn, mae’n ofynnol yn ôl rheoliadau’r Brifysgol fod arholiad o’r fath yn cael ei gynnal, a nod y canllawiau hyn yw gosod y sylfeini ar gyfer yr arholiad llafar ei hun.
Cyn yr Arholiad Llafar
Dylai’r arholwr allanol gwblhau Adran 1.1 y Ffurflen Adroddiadau (Adroddiad yr Arholwr Allanol ar y traethawd ymchwil) gan fynd â’r ffurflen gyfan i’r arholiad llafar. Dylai'r arholwr mewnol gwblhau Adran 2 (Adroddiad yr Arholwr Mewnol).
Dylai ffurf a chynnwys adroddiadau’r arholwyr fod yn ddigon manwl i ganiatáu i’r Bwrdd Arholi asesu rhychwant ac arwyddocâd y traethawd ymchwil ac i werthfawrogi ei gryfderau a’i wendidau. Dylai adroddiadau, i’r graddau y mae hynny’n bosibl, gael eu hysgrifennu mewn geiriau y gellir eu deall gan bobl nad ydynt yn arbenigwyr ym maes penodol y traethawd ymchwil. Yn ddelfrydol, dylai’r adroddiad gynnwys, yn agos at y dechrau, datganiad o’r hyn y mae’r traethawd ymchwil yn ceisio’i wneud, a chrynodeb o’r hyn y mae’n ei drafod mewn gwirionedd. Dylai sylwadau gwerthuso fod mor llawn â phosib a dylent gynnwys awgrym o gryfderau yn ogystal â gwendidau, cyfyngiadau a bylchau.
Dylai Cadeirydd y Bwrdd Arholi sicrhau ei fod yn cwrdd ag aelodau'r Bwrdd Arholi cyn yr arholiad llafar er mwyn cymharu nodiadau ar eu hadroddiadau ar y traethawd ymchwil, a chytuno ar strategaeth yr arholiad llafar.
Hyd yn oed pan fydd adroddiadau’r ddau arholwr ar y traethawd ymchwil yn nodi bod y traethawd wedi cyrraedd y safon ofynnol, rhaid peidio â dweud wrth y myfyriwr ar ddechrau’r arholiad llafar y bydd y radd yn cael ei dyfarnu. Rhaid i’r arholwyr fodloni eu hunain drwy’r arholiad llafar mai’r myfyriwr yw awdur y traethawd ymchwil a’i fod yn deall ei gynnwys yn llwyr.
Yr Arholiad Llafar
Gall arholiad llafar fod ar ffurf hybrid neu gael ei gynnal yn gyfan gwbl ar-lein. Ym mhob achos, bydd yr Arholwr Allanol yn cyfrannu o bell oni bai bod gan y myfyriwr ofynion ac addasiadau dysgu penodol sy'n golygu y byddai dan anfantais mewn rhyw ffordd.
Bydd y dull hybrid/ar-lein a ffefrir trwy'r platfformau a gefnogir gan y Brifysgol (Zoom/Teams), ond gellir defnyddio platfformau eraill mewn cytundeb â'r holl gyfranogwyr ac yn unol â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data a chyda rhagofalon seiberddiogelwch.
Mewn achosion o'r fath lle cynhelir arholiad llafar wyneb yn wyneb ac mae angen i'r Arholwr Allanol fod yn bresennol, rhaid ystyried cyfyngiadau teithio neu gyfyngiadau UKVI sy’n ymwneud â'r Arholwr Allanol a rhaid dilyn prosesau perthnasol.
Rhaid i Gadeirydd y Bwrdd Arholi sicrhau bod yr arholiad llafar yn cael ei gynnal mewn dull agored a theg yn unol â rheoliadau’r Brifysgol. Dylai’r Cadeirydd wneud yn siŵr bod y myfyriwr yn cael ei drin yn gynhwysol, yn gwrtais ac yn deg, gan roi ystyriaeth a sylw priodol i leihau unrhyw anghysur, er mwyn galluogi’r myfyriwr i roi o'i orau. Dylai'r Cadeirydd sicrhau bod y myfyriwr yn cael cyfle teg i amddiffyn ei waith a bod yr arholwyr yn ymwybodol o unrhyw amgylchiadau esgusodol sy’n ymwneud ag achos y myfyriwr.
Dylai'r Cadeirydd gyfarfod â'r myfyriwr yn breifat cyn yr arholiad llafar i drafod â’r myfyriwr a oes unrhyw amgylchiadau esgusodol (gan gynnwys amgylchiadau personol ac iechyd), nad yw wedi rhoi gwybod amdanynt eisoes i'r goruchwyliwr, a allai effeithio ar berfformiad y myfyriwr yn yr arholiad.
Cyfrifoldeb y myfyriwr yw rhoi gwybod i'r Bwrdd Arholi am amgylchiadau esgusodol a allai gael effaith negyddol ar ei berfformiad yn yr arholiad. Ni fydd apeliadau academaidd sy’n seiliedig ar amgylchiadau esgusodol y gellid bod wedi tynnu sylw’r Bwrdd Arholi atynt cyn yr arholiad llafar yn cael eu hystyried.
Dylai'r Cadeirydd esbonio pwrpas yr arholiad llafar i'r arholwyr a'r myfyriwr. Pwrpas yr arholiad yw:
- Galluogi’r arholwyr i fodloni eu hunain mai gwaith y myfyriwr ei hun yw’r traethawd ymchwil;
- Rhoi cyfle i’r myfyriwr amddiffyn y traethawd ymchwil ac egluro unrhyw aneglurder ynddo;
- Galluogi’r arholwyr i asesu gwybodaeth gyd-destunol y myfyriwr yn ei faes dysgu ei hun.
Nid asesu’r traethawd ymchwil yn unig a wna’r arholwyr yn yr arholiad llafar, ond hefyd asesu gallu’r myfyriwr i’w amddiffyn, ac i gysylltu cynnwys y traethawd ymchwil â’r corff gwybodaeth sy’n bodoli eisoes yn y maes penodol hwnnw.
Dylai'r Cadeirydd sicrhau bod y myfyriwr a'r arholwyr yn ymwybodol o reoliadau a chanllawiau'r Brifysgol sy'n ymdrin ag arholi traethawd ymchwil. Dylai’r Cadeirydd esbonio strwythur yr arholiad llafar ac egluro rolau’r arholwyr ac unrhyw unigolion eraill sy’n bresennol i'r myfyriwr. Os oes unrhyw unigolion eraill yn bresennol, dylai’r Cadeirydd gadarnhau nad oes gan y myfyriwr, na’r arholwyr os yw'n briodol, unrhyw wrthwynebiad i bresenoldeb yr unigolion hynny. Mewn achos o’r fath, dylai’r myfyriwr lofnodi datganiad ar y ffurflen Adrodd yn nodi ei fod wedi rhoi caniatâd i’r unigolion hynny fod yn bresennol.
Mewn rhai achosion, gall rhai rhaglenni penodol ofyn bod yr arholiad yn cael ei gynnal mewn fforwm cyhoeddus. Mewn achosion o’r fath nid oes rhaid cael caniatâd ar gyfer presenoldeb aelodau o’r gynulleidfa. Yn ystod yr arholiad, ni ddylai’r Cadeirydd dorri ar draws heblaw am i gynnig cyngor ar reoliadau’r Brifysgol neu lle mae tystiolaeth o unrhyw weithgaredd nad yw’n unol â’r rheoliadau.
Ar gyfer arholiad y radd Doethuriaeth Broffesiynol (neu rai Graddau Cydweithredol/ar y cyd) mae'n ofynnol i'r myfyriwr roi cyflwyniad o'i waith i gynulleidfa a all gynnwys aelod, neu aelodau, o Fwrdd Arholi’r traethawd ymchwil a chynrychiolwyr y sefydliad proffesiynol/diwydiannol cysylltiedig cyn dechrau'r arholiad ffurfiol.
Nid oes gofyn i fyfyrwyr sy'n astudio am yr EdD roi cyflwyniad.
Bydd myfyrwyr yn cael eu hasesu yn unol â'r cytundebau sydd ar waith ar gyfer graddau ymchwil a gyflwynir ar y cyd ac a ddyfernir ar y cyd. Mewn achosion o'r fath, mae'n debygol y bydd cyfansoddiad y Bwrdd Arholi yn cael ei addasu i gynnwys arholwyr o'r sefydliad partner. Yn ogystal, gallai'r gweithdrefnau asesu fod yn seiliedig ar weithdrefnau'r sefydliad partner, gan gynnwys amddiffyniad cyhoeddus o'r traethawd ymchwil o bosib. Rhaid i Dimau Goruchwylio sicrhau bod myfyrwyr yn ymwybodol o'r gofynion penodol ar gyfer eu rhaglen gradd.
Yn yr arholiad, dylai’r myfyriwr gael ei annog i ddangos ei wybodaeth a’i allu yn y modd gorau posib, a dylid cydnabod ac archwilio cryfderau yn ogystal â gwendidau’r traethawd ymchwil. Yn gynnar yn yr arholiad, dylid rhoi cyfle i’r myfyriwr esbonio’n union beth y mae’r traethawd ymchwil yn ceisio’i gyflawni a beth y mae'n ei gredu yw ei arwyddocâd fel cyfraniad tuag at wybodaeth. Os yw hi’n ymddangos bod anghysondeb mawr rhwng amcanion yr ymgeisydd a chynnwys y traethawd ymchwil ei hun, dylid ymchwilio i’r rhesymau dros hyn.
Dylid gofyn i’r myfyriwr esbonio ei ddewis o deitl os yw’n ymddangos nad yw’n cyfateb yn berffaith â chynnwys y traethawd ymchwil. Dylai’r myfyriwr gael cyfle hefyd i esbonio unrhyw fethiant amlwg i ddefnyddio deunyddiau pwysig, boed yn sylfaenol neu’n eilaidd, neu unrhyw esgeuluso o ran dulliau neu fethodolegau perthnasol.
Lle mae traethawd ymchwil yn dangos diffygion sylweddol a allai arwain at adroddiad nad yw’n gwbl ffafriol, mae’n bwysig dwyn sampl cynrychioliadol o’r rhain at sylw’r myfyriwr gan ganiatáu amser iddo esbonio ac amddiffyn y rhain yn yr arholiad llafar.
Lle mae arholwyr yn teimlo eu bod wedi disbyddu eu llwybrau holi, dylai’r Cadeirydd sicrhau nad oes gan y myfyriwr unrhyw beth pellach i’w ychwanegu neu i’w holi. Yna dylid gofyn i'r myfyriwr (a'r goruchwyliwr, os yw'n bresennol) adael yr ystafell i ganiatáu i'r arholwyr drafod yr arholiad, yr argymhellion a'r canlyniad.
16. Y broses yn Dilyn yr Arholiad Llafar
Dylai’r arholwr allanol gwblhau Adran 1.2 (Adroddiad yr Arholwr Allanol ar yr Arholiad Llafar), ac, os yw'n briodol, 1.3 (Materion Pryder a Diddordeb Cyffredinol)*
*Mae’r adran hon yn caniatáu i Arholwyr Allanol gyflwyno adroddiad am unrhyw bryderon neu arfer effeithiol yn ystod y Broses Arholi. Caiff yr wybodaeth hon ei throsglwyddo'n uniongyrchol i Gadeirydd y Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau i gymryd unrhyw gamau angenrheidiol a/neu er mwyn adrodd i'r Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau. Bydd Cadeirydd y Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau yn ysgrifennu at yr Arholwr dan sylw ynghylch canlyniad ystyried y mater sy'n destun pryder neu arfer effeithiol.
16.1
Dylai’r arholwyr drafod perfformiad y myfyriwr yn yr arholiad llafar ac ystyried pa un o’r argymhellion sydd ar gael yw’r mwyaf priodol (gweler Canlyniadau arholiadau ar gyfer pob gradd isod). Dylai’r Cadeirydd sicrhau bod yr argymhelliad a ddewisir yn cydymffurfio â rheoliadau’r Brifysgol.
16.2
Dylai’r arholwr allanol wedyn, ynghyd â’r arholwr mewnol, gwblhau Adran 3 (Adroddiad ar y Cyd gan Arholwyr Allanol a Mewnol). Dylai'r adroddiad grynhoi unrhyw wahaniaeth barn ar y traethawd ymchwil y bydd yr arholwyr wedi'i mynegi yn eu hadroddiadau unigol. Gellir mynegi barn gytunedig gryno hefyd ar brif gryfderau a gwendidau'r ymgeisydd, yr ymagwedd tuag at y pwnc a'r perfformiad yn yr arholiad llafar.
16.3
Dylai Cadeirydd y Bwrdd Arholi gwblhau Adran 4 (Adroddiad gan Gadeirydd y Bwrdd Arholi), gan gynnig sylwadau ar y ffordd y cynhaliwyd yr arholiad llafar a nodi unrhyw faterion trefniadaethol. Os bydd yr arholwyr wedi argymell y dylai’r traethawd ymchwil gael ei ailgyflwyno i’w arholi heb ail arholiad, dylid cyflwyno cyfiawnhad clir dros hyn yn adroddiad y Cadeirydd a dylai’r ddau arholwr lofnodi hyn.
16.4
Ar gyfer arholi’r Ddoethuriaeth Broffesiynol a'r PhD Cyfnod Astudio Estynedig, dylai Cadeirydd y Bwrdd Arholi neu Gyfarwyddwr Rhaglen y Radd gwblhau Adran 5 (Cadarnhad i’r Ymgeisydd Gwblhau’n Foddhaol Elfennau Hyfforddi ac Ymarferol Rhaglen y Ddoethuriaeth Broffesiynol a'r PhD Cyfnod Astudio Estynedig), i gadarnhau bod yr ymgeisydd wedi cwblhau elfennau hyfforddi ac ymarferol y radd. Dylid atodi adroddiad ar wahân yn rhoi manylion y modiwlau hyfforddi a ddilynwyd ar gyfer y radd, a’r canlyniadau a gafwyd, i’r Ffurflenni Adroddiadau a Chanlyniadau. Dylai’r arholwyr gwblhau Adran 6 (Adroddiad ar y Cyflwyniad Llafar gan yr Ymgeisydd) hefyd, yn cadarnhau bod yr ymgeisydd wedi cwblhau’r elfen cyflwyniad llafar gan fodloni’r arholwyr.
16.5
Ar gyfer arholi Gradd Meistr Ymchwil (MRes), dylai Cadeirydd y Bwrdd Arholi gwblhau Adran 5 (Cadarnhad i’r Ymgeisydd Gwblhau’n Foddhaol Elfennau a Addysgir ac Elfennau Ymarferol Rhaglen yr MRes), yn cadarnhau bod yr ymgeisydd wedi cwblhau elfennau a ddysgwyd ac elfennau ymarferol y radd. Dylid atodi adroddiad ar wahân yn rhoi manylion y modiwlau a addysgir a gafodd eu dilyn ar gyfer y radd honno, a’r canlyniadau a gafwyd, i’r Ffurflenni Adroddiadau a Chanlyniadau.
16.6
Wedyn, dylai’r arholwyr drefnu gyda Chadeirydd y Bwrdd Arholi i gwblhau a llofnodi’r ffurflen derfynol (y Ffurflen Ganlyniadau). Dylid nodi’r opsiwn priodol o blith yr argymhellion drwy dicio’r blwch perthnasol. Os oes angen gwneud cywiriadau, bydd rhaid i’r arholwr allanol fel arfer archwilio’r cywiriadau’n fanwl ar ran y Bwrdd Arholi oni nodir fel arall. Dylai’r arholwyr a Chadeirydd y Bwrdd Arholi lofnodi’r Ffurflen Ganlyniadau a dylai’r Cadeirydd sicrhau bod y dyddiad ar y ffurflen.
16.7
Dylid gwahodd y myfyriwr i ddod yn ôl i’r ystafell a dylai’r Cadeirydd hysbysu’r myfyriwr o Argymhellion y Bwrdd Arholi. Dylai’r Cadeirydd esbonio goblygiadau’r argymhelliad a nodi’n glir unrhyw ddyddiadau ar gyfer darparu cywiriadau neu ailgyflwyno’r traethawd ymchwil yn ogystal â nodi pa arholwr a fydd yn gyfrifol am gymeradwyo’r cywiriadau (os yw’n berthnasol). Rhaid gofyn i'r myfyriwr gadarnhau ei fod yn deall y canlyniad a rhaid iddo gael cyfle i ofyn am eglurhad gan y Cadeirydd ar unrhyw adborth.
17. Hysbysu'r Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau
Ar ôl cwblhau’r arholiad llafar a llofnodi pob adran o’r Ffurflenni Adroddiadau a Chanlyniad, dylai’r Cadeirydd sicrhau bod y Ffurflenni Adroddiadau a Chanlyniad gwreiddiol yn cael eu hanfon i’r Swyddfa Academaidd ar unwaith. Dylid cofnodi canlyniad yr arholiad llafar ar y System Rheoli Ymchwil hefyd. Rhaid cyflwyno argymhelliad y Bwrdd Arholi i'r Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau i'w gadarnhau cyn y gellir paratoi llythyr yn nodi'r canlyniad. Unwaith y ceir cadarnhad bod yr holl amodau wedi eu bodloni, bydd y Gwasanaethau Addysg yn hysbysu’r myfyriwr o ganlyniad ffurfiol yr arholiad.
18. Anghydfodau rhwng Arholwyr ynghylch yr Argymhelliad
Pan fydd argymhelliad Arholwr Allanol yn arwain at anghydfod rhwng yr Arholwr Allanol a'r Arholwr Mewnol (neu rhwng Arholwyr Allanol), mae gan Gadeirydd y Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau y grym, ar gais Cadeirydd y Bwrdd Arholi, i droi at arholwr allanol arall a fyddai’n cael cais i gymrodeddu. Gall Cadeirydd y Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau ystyried unrhyw adroddiadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan aelodau'r Bwrdd Arholi. Wrth ddewis trydydd parti, gall Cadeirydd y Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau hefyd ystyried enwebiad (os oes un) y Bwrdd Arholi ar gyfer ail Arholwr Allanol (lle na ellir nodi trydydd parti mewnol priodol) ond nid oes rhwymedigaeth arno i ystyried hyn. Byddai penderfyniad ynghylch a ddylid ailgynnull y Bwrdd Arholi ai peidio'n unol â disgresiwn y trydydd parti hwn, y mae ei benderfyniad ar bob mater yn derfynol.
Pan fo anghydfod rhwng arholwyr, ni ddylid llofnodi’r ffurflen Adroddiadau a Chanlyniad nes i’r anghydfod gael ei ddatrys.
19. Cyfathrebu â'r Myfyriwr ar ôl yr Arholiad Llafar
Rhaid hysbysu'r myfyriwr o'r canlyniad a rhaid egluro goblygiadau'r argymhellion yn glir ar ddiwedd yr arholiad. Rhaid gofyn i'r myfyriwr gadarnhau ei fod yn deall y canlyniad a rhaid iddo gael cyfle i geisio eglurhad gan y Cadeirydd ynghylch unrhyw adborth.
20. Canlyniadau Arholiadau ar Gyfer Pob Gradd
20.1 Canlyniadau ar gyfer Gradd Doethur mewn Athroniaeth (PhD)
1. Pasio - dim cywiriadau
1 mis i gyflwyno fersiwn derfynol y traethawd ymchwil.
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon PhD o ran sylwedd a strwythur.
2. Mân gywiriadau i'w cyflwyno o fewn tri mis; Pasio
Fel arfer i'w cymeradwyo gan arholwr mewnol.
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon PhD o ran sylwedd a strwythur; mae'r cywiriadau'n ymwneud â manylion. Nid oes angen cwblhau gwaith ymchwil pellach na gwaith sylweddol arall. Mae enghreifftiau nodweddiadol o fân gywiriadau'n cynnwys gwallau teipio, pwyntiau egluro, aralleirio, golygu, ychwanegu paragraffau a chywiro cyfeiriadau.
3. Cywiriadau sylweddol a/neu newidiadau i'w cyflwyno o fewn 6 mis; Pasio
Nid yw hwn yn opsiwn ar gyfer traethodau ymchwil a ailgyflwynwyd.
Fel arfer i'w cymeradwyo gan yr arholwr mewnol a'r arholwr allanol, neu yn ôl doethineb y Bwrdd Arholi gan yr arholwr mewnol yn unig;
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon PhD o ran sylwedd, ond er mwyn pasio, mae angen newidiadau sy'n sylweddol ond yn benodol ac yn fesuradwy o ran a) cyflwyno'r ymchwil e.e. ynghylch y cyflwyniad/casgliad; neu b) strwythur e.e. ynghylch aildrefnu'r data/adrannau/ penawdau; neu c) ychwanegu deunydd newydd nad yw’n hwy nag un bennod, pan fo'r Bwrdd Arholi o'r farn bod modd gwneud newidiadau o'r fath o fewn cyfnod o 6 mis.
4. Penderfyniad wedi'i ohirio hyd nes y caiff y traethawd ymchwil ei ailgyflwyno o fewn 12 mis
Nid yw hwn yn opsiwn ar gyfer traethodau ymchwil a ailgyflwynwyd.
Fel arfer caiff y rhain eu hailarholi gan yr un tîm o arholwyr mewnol ac allanol. Fel rheol, bydd ail arholiad llafar. Fodd bynnag, ar ôl darllen y traethawd ymchwil a ailgyflwynwyd, gall arholwyr ddefnyddio eu disgresiwn i hepgor yr ail arholiad llafar.
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil o safon PhD yn ei ffurf bresennol; fodd bynnag, o ran sylwedd, mae gwir botensial ar sail yr hyn sydd wedi'i gyflwyno eisoes, y gallai'r ymgeisydd, o fewn cyfnod o 12 mis, gyflwyno traethawd ymchwil o safon briodol; gallai fod angen newidiadau/addasiadau/ychwanegiadau yn ymwneud â sylwedd a chyflwyniad.
5. Heb ei gymeradwyo ar gyfer PhD ond yn briodol ar gyfer pasio fel MPhil (yn ei ffurf bresennol)
1 mis i gyflwyno fersiwn derfynol y traethawd ymchwil.
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon MPhil o ran sylwedd a strwythur. Mae hawl gwneud newidiadau i deitl y traethawd ymchwil ac mae unrhyw gyfeiriadau at PhD yn gorfod newid i MPhil.
6. Heb ei gymeradwyo ar gyfer PhD. Mân gywiriadau i'w cyflwyno o fewn tri mis; Pasio fel MPhil
Fel arfer i'w cymeradwyo gan arholwr mewnol.
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil, fel y mae wedi'i gyflwyno a'i amddiffyn, o safon PhD mewn gwirionedd ac nid oes ganddo'r potensial i fod o’r safon honno; fodd bynnag, bernir bod y traethawd ymchwil o safon MPhil o ran sylwedd a strwythur. Nid oes angen cwblhau gwaith ymchwil pellach na gwaith sylweddol arall. Mae enghreifftiau nodweddiadol o fân gywiriadau'n cynnwys gwallau teipio, pwyntiau egluro, aralleirio, golygu, ychwanegu paragraffau a chywiro cyfeiriadau.
7. Heb ei gymeradwyo ar gyfer PhD. Penderfyniad wedi'i ohirio hyd nes y caiff y traethawd ymchwil ei ailgyflwyno fel MPhil o fewn 12 mis ac yna ei ailarholi.
Nid yw hwn yn opsiwn ar gyfer traethodau ymchwil a ailgyflwynwyd.
Fel arfer i'w ailarholi gan yr un tîm o arholwyr mewnol ac allanol; fel rheol, bydd ail arholiad llafar. Fodd bynnag, ar ôl darllen y traethawd ymchwil a ailgyflwynwyd, gall arholwyr ddefnyddio eu disgresiwn i hepgor yr ail arholiad llafar;
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil, fel y mae wedi'i gyflwyno a'i amddiffyn, o safon PhD mewn gwirionedd ac nid oes ganddo'r potensial i fod o’r safon honno, nac o safon MPhil yn ei ffurf bresennol; fodd bynnag, o ran sylwedd, mae gwir botensial ar sail yr hyn sydd wedi'i gyflwyno eisoes, y gallai'r ymgeisydd, o fewn cyfnod o 12 mis, gyflwyno traethawd ymchwil o safon MPhil; fel arfer, bydd y newidiadau/ addasiadau/ychwanegiadau angenrheidiol yn ymwneud â sylwedd a chyflwyniad.
8. Methu; heb ei gymeradwyo ar gyfer y dyfarniad nac ar gyfer gradd ymchwil is
Fel opsiwn ar unwaith ac opsiwn wedi ailgyflwyno.
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil, fel y mae wedi'i gyflwyno a'i amddiffyn, o safon PhD nac MPhil mewn gwirionedd ac nid oes ganddo'r potensial i fod o safon PhD nac MPhil.
20.2 Canlyniadau ar gyfer Gradd Doethur mewn Athroniaeth (PhD) (Cyfnod Astudio Estynedig)
1. Pasio - dim cywiriadau
1 mis i gyflwyno fersiwn derfynol y traethawd ymchwil.
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon PhD (Cyfnod o Astudio Estynedig) o ran sylwedd a strwythur.
2. Mân gywiriadau i'w cyflwyno o fewn 3 mis; Pasio
Fel arfer i'w cymeradwyo gan arholwr mewnol.
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon PhD (Cyfnod Astudio Estynedig) o ran sylwedd a strwythur; mae'r cywiriadau'n ymwneud â manylion. Nid oes angen cwblhau gwaith ymchwil pellach na gwaith sylweddol arall. Mae enghreifftiau nodweddiadol o fân gywiriadau'n cynnwys gwallau teipio, pwyntiau egluro, aralleirio, golygu, ychwanegu paragraffau a chywiro cyfeiriadau.
3. Cywiriadau sylweddol a/neu newidiadau i'w cyflwyno o fewn 6 mis; Pasio
Nid yw hwn yn opsiwn ar gyfer traethodau ymchwil a ailgyflwynwyd.
Fel arfer i'w cymeradwyo gan yr arholwr mewnol a'r arholwr allanol, neu yn ôl doethineb y Bwrdd Arholi gan yr arholwr mewnol yn unig.
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon PhD (Cyfnod Astudio Estynedig) o ran sylwedd, ond er mwyn pasio, mae angen newidiadau sy'n sylweddol ond gellir eu nodi a’u mesur yn amlwg o ran a) cyflwyno'r ymchwil e.e. ynghylch y cyflwyniad/casgliad; neu b) strwythur e.e. ynghylch aildrefnu'r data/adrannau/penawdau; neu c) ychwanegu deunydd newydd nad yw’n hwy nag un bennod, pan fo'r Bwrdd Arholi o'r farn bod modd gwneud newidiadau o'r fath o fewn cyfnod o 6 mis.
4. Penderfyniad wedi'i ohirio hyd nes y caiff y traethawd ymchwil ei ailgyflwyno o fewn 12 mis
Nid yw hwn yn opsiwn ar gyfer traethodau ymchwil a ailgyflwynwyd.
Fel arfer i'w ailarholi gan yr un tîm o arholwyr mewnol ac allanol. Fel rheol, bydd ail arholiad llafar. Fodd bynnag, ar ôl darllen y traethawd ymchwil a ailgyflwynwyd, gall arholwyr ddefnyddio eu disgresiwn i hepgor yr ail arholiad llafar;
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil o safon PhD (Cyfnod Astudio Estynedig) yn ei ffurf bresennol; fodd bynnag, o ran sylwedd, mae gwir botensial ar sail yr hyn sydd wedi'i gyflwyno eisoes, y gallai'r ymgeisydd, o fewn cyfnod o 12 mis, gyflwyno traethawd ymchwil o safon briodol; gallai fod angen newidiadau/addasiadau/ychwanegiadau yn ymwneud â sylwedd a chyflwyniad.
5. Heb ei gymeradwyo ar gyfer PhD (Cyfnod Astudio Estynedig) ond yn briodol ar gyfer pasio fel MPhil (yn ei ffurf bresennol)
1 mis i gyflwyno fersiwn derfynol y traethawd ymchwil.
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon MPhil o ran sylwedd a strwythur. Mae hawl gwneud newidiadau i deitl y traethawd ymchwil ac mae unrhyw gyfeiriadau at PhD yn gorfod newid i MPhil.
6. Heb ei gymeradwyo ar gyfer PhD (Cyfnod Astudio Estynedig). Mân gywiriadau i'w cyflwyno o fewn tri mis; Pasio fel MPhil
Fel arfer i'w cymeradwyo gan arholwr mewnol.
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil, fel y mae wedi'i gyflwyno a'i amddiffyn, o safon PhD (Cyfnod Astudio Estynedig) mewn gwirionedd ac nid oes ganddo'r potensial i fod o’r safon honno; fodd bynnag, bernir bod y traethawd ymchwil o safon MPhil o ran sylwedd a strwythur. Nid oes angen cwblhau gwaith ymchwil pellach na gwaith sylweddol arall. Mae enghreifftiau nodweddiadol o fân gywiriadau'n cynnwys gwallau teipio, pwyntiau egluro, aralleirio, golygu, ychwanegu paragraffau a chywiro cyfeiriadau.
7. Heb ei gymeradwyo ar gyfer PhD (Cyfnod Astudio Estynedig). Penderfyniad wedi'i ohirio hyd nes y caiff y traethawd ymchwil ei ailgyflwyno fel MPhil o fewn 12 mis ac yna ei ailarholi.
Nid yw hwn yn opsiwn ar gyfer traethodau ymchwil a ailgyflwynwyd.
Fel arfer i'w ailarholi gan yr un tîm o arholwyr mewnol ac allanol. Fel rheol, bydd ail arholiad llafar. Fodd bynnag, ar ôl darllen y traethawd ymchwil a ailgyflwynwyd, gall arholwyr ddefnyddio eu disgresiwn i hepgor yr ail arholiad llafar.
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil, fel y mae wedi'i gyflwyno a'i amddiffyn, o safon PhD (Cyfnod Astudio Estynedig) mewn gwirionedd ac nid oes ganddo'r potensial i fod o’r safon honno, nac o safon MPhil yn ei ffurf bresennol; fodd bynnag, o ran sylwedd, mae gwir botensial ar sail yr hyn sydd wedi'i gyflwyno eisoes, y gallai'r ymgeisydd, o fewn cyfnod o 12 mis, gyflwyno traethawd ymchwil o safon MPhil; fel arfer, bydd y newidiadau/addasiadau/ychwanegiadau angenrheidiol yn ymwneud â sylwedd a chyflwyniad.
8. Methu; heb ei gymeradwyo ar gyfer y dyfarniad nac ar gyfer gradd ymchwil is
Fel opsiwn ar unwaith ac opsiwn wedi ailgyflwyno.
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil, fel y mae wedi'i gyflwyno a'i amddiffyn, o safon PhD (Cyfnod Astudio Estynedig) nac o safon MPhil mewn gwirionedd ac nid oes ganddo'r potensial i fod o safon PhD nac o safon MPhil.
20.3 Canlyniadau ar gyfer Gradd Doethuriaeth Broffesiynol
1. Pasio – dim cywiriadau
1 mis i gyflwyno fersiwn derfynol y traethawd ymchwil.
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon Doethuriaeth Broffesiynol (EngD/DNursSci/EdD) o ran sylwedd a strwythur.
2. Mân gywiriadau i'w cyflwyno o fewn 3 mis; Pasio
Fel arfer i'w cymeradwyo gan arholwr mewnol.
Bernir bod y traethawd ymchwil o safon Doethuriaeth Broffesiynol (EngD/DNursSci/EdD) o ran sylwedd a strwythur; mae'r cywiriadau'n ymwneud â manylion. Nid oes angen cwblhau gwaith ymchwil pellach na gwaith sylweddol arall. Mae enghreifftiau nodweddiadol o fân gywiriadau'n cynnwys gwallau teipio, pwyntiau egluro, aralleirio, golygu, ychwanegu paragraffau a chywiro cyfeiriadau.
3. Cywiriadau sylweddol a/neu newidiadau i'w cyflwyno o fewn 6 mis; Pasio
Nid yw hwn yn opsiwn ar gyfer traethodau ymchwil a ailgyflwynwyd.
Fel arfer i'w cymeradwyo gan yr arholwr mewnol a'r arholwr allanol, neu yn ôl doethineb y Bwrdd Arholi gan yr arholwr mewnol yn unig;
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon Doethuriaeth Broffesiynol (EngD/DNursSci/EdD) o ran sylwedd, ond er mwyn pasio, mae angen newidiadau sy'n sylweddol - ond gellir eu nodi a’u mesur yn amlwg - o ran a) cyflwyno'r ymchwil e.e. ynghylch y cyflwyniad/casgliad; neu b) strwythur e.e. ynghylch aildrefnu'r data/adrannau/ penawdau; neu c) ychwanegu deunydd newydd nad yw’n hwy nag un bennod, pan fo'r Bwrdd Arholi o'r farn bod modd gwneud newidiadau o'r fath o fewn cyfnod o 6 mis.
4. Penderfyniad wedi'i ohirio hyd nes y caiff y traethawd ymchwil ei ailgyflwyno o fewn 12 mis.
Nid yw hwn yn opsiwn ar gyfer traethodau ymchwil a ailgyflwynwyd.
Fel arfer i'w ailarholi gan yr un tîm o arholwyr mewnol ac allanol. Fel rheol, bydd ail arholiad llafar. Fodd bynnag, ar ôl darllen y traethawd ymchwil a ailgyflwynwyd, gall arholwyr ddefnyddio eu disgresiwn i hepgor yr ail arholiad llafar.
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil o safon Doethuriaeth Broffesiynol (EngD/DNursSci/EdD) yn ei ffurf bresennol; fodd bynnag, o ran sylwedd, mae gwir botensial ar sail yr hyn sydd wedi'i gyflwyno eisoes, y gallai'r ymgeisydd, o fewn cyfnod o 12 mis, gyflwyno traethawd ymchwil o safon briodol; gallai fod angen newidiadau/addasiadau/ychwanegiadau yn ymwneud â sylwedd a chyflwyniad.
5. Heb ei gymeradwyo ar gyfer Doethuriaeth Broffesiynol (EngD/DNursSci/EdD) ond yn briodol ar gyfer pasio fel MPhil (yn ei ffurf bresennol)
1 mis i gyflwyno fersiwn derfynol y traethawd ymchwil.
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon MPhil o ran sylwedd a strwythur. Mae hawl gwneud newidiadau i deitl y traethawd ymchwil ac mae’n rhaid i unrhyw gyfeiriadau at EngD/DNursSci/EdD gael eu newid i MPhil.
6. Heb ei gymeradwyo ar gyfer Doethuriaeth Broffesiynol (EngD/DNursSci/EdD). Mân gywiriadau i'w cyflwyno o fewn tri mis; Pasio fel MPhil
Fel arfer i'w cymeradwyo gan arholwr mewnol.
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil, fel y mae wedi'i gyflwyno a'i amddiffyn, o safon Doethuriaeth Broffesiynol (EngD/DNursSci/EdD) mewn gwirionedd ac nid oes ganddo'r potensial i fod o’r safon honno; fodd bynnag, bernir bod y traethawd ymchwil o safon MPhil o ran sylwedd a strwythur. Nid oes angen cwblhau gwaith ymchwil pellach na gwaith sylweddol arall. Mae enghreifftiau nodweddiadol o fân gywiriadau'n cynnwys gwallau teipio, pwyntiau egluro, aralleirio, golygu, ychwanegu paragraffau a chywiro cyfeiriadau.
7. Heb ei gymeradwyo ar gyfer Doethuriaeth Broffesiynol (EngD/DNursSci/EdD). Penderfyniad wedi'i ohirio hyd nes y caiff y traethawd ymchwil ei ailgyflwyno fel MPhil o fewn 12 mis ac yna ei ailarholi.
Nid yw hwn yn opsiwn ar gyfer traethodau ymchwil a ailgyflwynwyd.
Fel arfer i'w ailarholi gan yr un tîm o arholwyr mewnol ac allanol. Fel rheol, bydd ail arholiad llafar; fodd bynnag, ar ôl darllen y traethawd ymchwil a ailgyflwynwyd, gall arholwyr ddefnyddio eu disgresiwn i hepgor yr ail arholiad llafar.
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil, fel y mae wedi'i gyflwyno a'i amddiffyn, o safon Doethuriaeth Broffesiynol (EngD/DNursSci/EdD) mewn gwirionedd ac nid oes ganddo'r potensial i fod o’r safon honno, nac o safon MPhil yn ei ffurf bresennol; fodd bynnag, yn nhermau sylwedd, mae gwir botensial ar sail yr hyn sydd wedi'i gyflwyno eisoes, y gallai'r ymgeisydd, o fewn cyfnod o 12 mis, gyflwyno traethawd ymchwil o safon MPhil; fel arfer, bydd y newidiadau/addasiadau/ychwanegiadau angenrheidiol yn ymwneud â sylwedd a chyflwyniad.
8. Heb ei gymeradwyo ar gyfer Doethuriaeth Broffesiynol (EngD/DNursSci), ond yn briodol i'w basio fel MRes/MSc (yn ei ffurf bresennol)
1 mis i gyflwyno fersiwn derfynol y traethawd ymchwil.
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon MRes/MSc yn nhermau sylwedd a strwythur. Caniateir newid teitl y traethawd ymchwil ac mae'n rhaid i unrhyw gyfeiriadau at EngD/DNursSci gael eu newid i MRes/MSc.
9. Heb ei gymeradwyo ar gyfer Doethuriaeth Broffesiynol (EngD/DNursSci). Mân gywiriadau i'w cyflwyno o fewn tri mis; Pasio fel MRes/MSc (fel arfer i'w cymeradwyo gan arholwr mewnol)
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil, fel y mae wedi'i gyflwyno a'i amddiffyn, o safon Doethuriaeth Broffesiynol (EngD/DNursSci) mewn gwirionedd ac nid oes ganddo'r potensial i fod o’r safon honno; fodd bynnag, bernir bod y traethawd ymchwil o safon MRes/MSc yn nhermau sylwedd a strwythur. Nid oes angen cwblhau gwaith ymchwil pellach na gwaith sylweddol arall. Mae enghreifftiau nodweddiadol o fân gywiriadau'n cynnwys gwallau teipio, pwyntiau egluro, aralleirio, golygu, ychwanegu paragraffau a chywiro cyfeiriadau.
10. Heb ei gymeradwyo ar gyfer Doethuriaeth Broffesiynol (EngD/DNursSci). Penderfyniad wedi'i ohirio hyd nes y caiff ei ailgyflwyno fel MRes/MSc o fewn 12 mis ac yna ei ailarholi.
Nid yw hwn yn opsiwn ar gyfer traethodau ymchwil a ailgyflwynwyd.
Fel arfer i'w ailarholi gan yr un tîm o arholwyr mewnol ac allanol. Fel rheol, bydd ail arholiad llafar. Fodd bynnag, ar ôl darllen y traethawd ymchwil a ailgyflwynwyd, gall arholwyr ddefnyddio eu disgresiwn i hepgor yr ail arholiad llafar.
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil, fel y mae wedi'i gyflwyno a'i amddiffyn, o safon Doethuriaeth Broffesiynol (EngD/DNursSci) mewn gwirionedd ac nid oes ganddo'r potensial i fod o’r safon honno, nac o safon MRes/MSc yn ei ffurf bresennol; fodd bynnag, yn nhermau sylwedd, mae gwir botensial ar sail yr hyn sydd wedi'i gyflwyno eisoes, y gallai'r ymgeisydd, o fewn cyfnod o 12 mis, gyflwyno traethawd ymchwil o safon MRes/MSc; fel arfer, bydd y newidiadau/ addasiadau/ychwanegiadau angenrheidiol yn ymwneud â sylwedd a chyflwyniad.
11. Heb ei gymeradwyo ar gyfer Doethuriaeth Broffesiynol (EdD), ond yn briodol ar gyfer Pasio fel MA mewn Addysg/MA drwy Ymchwil (yn ei ffurf bresennol)
1 mis i gyflwyno copïau caled wedi'u rhwymo.
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon MA mewn Addysg/MA drwy Ymchwil o ran sylwedd a strwythur. Caniateir newid teitl y traethawd ymchwil a rhaid newid unrhyw gyfeiriad at EdD i MA mewn Addysg/MA drwy Ymchwil.
12. Heb ei gymeradwyo ar gyfer Doethuriaeth Broffesiynol (EdD). Mân gywiriadau i'w cyflwyno o fewn tri mis; Pasio fel MA mewn Addysg/MA drwy Ymchwil (i’w gymeradwyo fel arfer gan arholwr mewnol)
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil, fel y mae wedi'i gyflwyno a'i amddiffyn, o safon Doethuriaeth Broffesiynol (EdD) mewn gwirionedd ac nid oes ganddo'r potensial i fod o’r safon honno; fodd bynnag, bernir bod y traethawd ymchwil o safon MA mewn Addysg/MA drwy Ymchwil o ran sylwedd a strwythur. Nid oes angen cwblhau gwaith ymchwil pellach na gwaith sylweddol arall. Mae enghreifftiau nodweddiadol o fân gywiriadau'n cynnwys gwallau teipio, pwyntiau egluro, aralleirio, golygu, ychwanegu paragraffau a chywiro cyfeiriadau.
13. Heb ei gymeradwyo ar gyfer Doethuriaeth Broffesiynol (EdD). Penderfyniad wedi'i ohirio hyd nes y caiff y traethawd ymchwil ei ailgyflwyno fel MA mewn Addysg/MA drwy Ymchwil o fewn 12 mis ac yna ei ailarholi.
Nid yw hwn yn opsiwn ar gyfer traethodau ymchwil a ailgyflwynwyd.
Fel arfer i'w ailarholi gan yr un tîm o arholwyr mewnol ac allanol. Fel rheol, bydd ail arholiad llafar. Fodd bynnag, ar ôl darllen y traethawd ymchwil a ailgyflwynwyd, gall arholwyr ddefnyddio eu disgresiwn i hepgor yr ail arholiad llafar.
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil, fel y mae wedi'i gyflwyno a'i amddiffyn, o safon Doethuriaeth Broffesiynol (EdD) mewn gwirionedd ac nid oes ganddo'r potensial i fod o’r safon honno, nac o safon MA mewn Addysg/MA drwy Ymchwil yn ei ffurf bresennol; fodd bynnag, o ran cynnwys, mae gwir botensial ar sail yr hyn sydd wedi'i gyflwyno eisoes, y gallai'r ymgeisydd, o fewn cyfnod o 12 mis, gyflwyno traethawd ymchwil o fel arfer, bydd y newidiadau/addasiadau/ychwanegiadau angenrheidiol yn ymwneud â sylwedd a chyflwyniad.
14. Methu; heb ei gymeradwyo ar gyfer y dyfarniad nac ar gyfer gradd ymchwil is
Fel opsiwn ar unwaith ac opsiwn wedi ailgyflwyno.
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil, fel y mae wedi'i gyflwyno a'i amddiffyn, o safon Doethuriaeth Broffesiynol (EngD/DNursSci/EdD) mewn gwirionedd ac nid oes ganddo'r potensial i fod o'r safon honno, nac o safon MPhil neu MRes/MSc (ar gyfer EngD/DNursSci) MA mewn Addysg/MA drwy Ymchwil (ar gyfer EdD)
15. Methu; EdD
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil, fel y mae wedi'i gyflwyno a'i amddiffyn, o safon EdD.
20.4 Canlyniadau ar gyfer Gradd Doethur mewn Meddygaeth (MD)
1. Pasio – dim cywiriadau
1 mis i gyflwyno fersiwn derfynol y traethawd ymchwil.
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon Doethur mewn Meddygaeth (MD) o ran sylwedd a strwythur.
2. Mân gywiriadau i'w cyflwyno o fewn tri mis; Llwyddo
Fel arfer i'w cymeradwyo gan arholwr mewnol.
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon MD o ran sylwedd a strwythur; mae'r cywiriadau'n ymwneud â manylion. Nid oes angen cwblhau gwaith ymchwil pellach na gwaith sylweddol arall. Mae enghreifftiau nodweddiadol o fân gywiriadau'n cynnwys gwallau teipio, pwyntiau egluro, aralleirio, golygu, ychwanegu paragraffau a chywiro cyfeiriadau.
3. Cywiriadau sylweddol a/neu newidiadau i'w cyflwyno o fewn 6 mis; Llwyddo
Nid yw hwn yn opsiwn ar gyfer traethodau ymchwil a ailgyflwynwyd.
Fel arfer i'w cymeradwyo gan yr arholwr mewnol a'r arholwr allanol, neu yn ôl doethineb y Bwrdd Arholi gan yr arholwr mewnol yn unig;
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon MD yn nhermau sylwedd, ond er mwyn pasio, mae angen newidiadau sy'n sylweddol - ond gellir eu nodi a’u mesur yn amlwg - o ran a) cyflwyno'r ymchwil e.e. ynghylch y cyflwyniad/casgliad; neu b) strwythur e.e. ynghylch aildrefnu'r data/adrannau/penawdau; neu c) ychwanegu deunydd newydd nad yw’n hwy nag un bennod, lle mae'r Bwrdd Arholi o'r farn bod modd gwneud newidiadau o'r fath o fewn cyfnod o 6 mis.
4. Penderfyniad wedi'i ohirio hyd nes y caiff y traethawd ymchwil ei ailgyflwyno o fewn 12 mis
Nid yw hwn yn opsiwn ar gyfer traethodau ymchwil a ailgyflwynwyd.
Fel arfer i'w ailarholi gan yr un tîm o arholwyr mewnol ac allanol. Fel rheol, bydd ail arholiad llafar. Fodd bynnag, ar ôl darllen y traethawd ymchwil a ailgyflwynwyd, gall arholwyr ddefnyddio eu disgresiwn i hepgor yr ail arholiad llafar.
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil o safon MD yn ei ffurf bresennol; fodd bynnag, yn nhermau sylwedd, mae gwir botensial ar sail yr hyn sydd wedi'i gyflwyno eisoes, y gallai'r ymgeisydd, o fewn cyfnod o 12 mis, gyflwyno traethawd ymchwil o safon briodol; gallai fod angen newidiadau/addasiadau/ychwanegiadau yn ymwneud â sylwedd a chyflwyniad.
5. Heb ei gymeradwyo ar gyfer Doethur Meddygaeth (MD), ond yn addas ar gyfer MSc drwy Ymchwil (yn ei ffurf bresennol)
1 mis i gyflwyno fersiwn derfynol y traethawd ymchwil.
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon MA/MSc drwy Ymchwil yn nhermau sylwedd a strwythur. Caniateir newid teitl y traethawd ymchwil a rhaid newid unrhyw gyfeiriadau at MD i MSc drwy Ymchwil.
6. Heb ei gymeradwyo ar gyfer Doethur mewn Meddygaeth (MD). Mân gywiriadau i'w cyflwyno o fewn tri mis; Pasio (fel arfer i'w cymeradwyo gan arholwr mewnol)
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil, fel y mae wedi'i gyflwyno a'i amddiffyn, o safon Doethur mewn Meddygaeth (MD) mewn gwirionedd ac nid oes ganddo'r potensial i fod o’r safon honno; fodd bynnag, bernir bod y traethawd ymchwil o safon MSc drwy Ymchwil yn nhermau sylwedd a strwythur; mae'r cywiriadau gofynnol yn ymwneud â manylion. Nid oes angen cwblhau gwaith ymchwil pellach na gwaith sylweddol arall. Mae enghreifftiau nodweddiadol o fân gywiriadau'n cynnwys gwallau teipio, pwyntiau egluro, aralleirio, golygu, ychwanegu paragraffau a chywiro cyfeiriadau.
7. Heb ei gymeradwyo ar gyfer Doethur mewn Meddygaeth (MD). Penderfyniad wedi'i ohirio hyd nes y caiff y traethawd ymchwil ei ailgyflwyno fel MSc drwy Ymchwil o fewn 12 mis ac yna ei ailarholi.
Nid yw hwn yn opsiwn ar gyfer traethodau ymchwil a ailgyflwynwyd.
Fel arfer i'w ailarholi gan yr un tîm o arholwyr mewnol ac allanol. Fel rheol, bydd ail arholiad llafar. Fodd bynnag, ar ôl darllen y traethawd ymchwil a ailgyflwynwyd, gall arholwyr ddefnyddio eu disgresiwn i hepgor yr ail arholiad llafar.
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil, fel y mae wedi'i gyflwyno a'i amddiffyn, o safon Doethuriaeth mewn Meddygaeth (MD) mewn gwirionedd ac nid oes ganddo'r potensial i fod o’r safon honno, nac o safon MA/MSc drwy Ymchwil yn ei ffurf bresennol; fodd bynnag, yn nhermau sylwedd, mae gwir botensial ar sail yr hyn sydd wedi'i gyflwyno eisoes, y gallai'r ymgeisydd, o fewn cyfnod o 12 mis, gyflwyno traethawd ymchwil MA/MSc drwy Ymchwil; fel arfer, bydd y newidiadau/ addasiadau/ychwanegiadau angenrheidiol yn ymwneud â sylwedd a chyflwyniad.
8. Methu; heb ei gymeradwyo ar gyfer y dyfarniad nac ar gyfer gradd ymchwil is
Fel opsiwn uniongyrchol ac opsiwn wedi ailgyflwyno
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil, fel y mae wedi'i gyflwyno a'i amddiffyn, o safon MD mewn gwirionedd ac nid oes ganddo'r potensial i fod o’r safon honno.
20.5 Canlyniadau ar gyfer gradd Doethur mewn Athroniaeth drwy Waith a Gyhoeddwyd
1. Pasio - dim cywiriadau
1 mis i gyflwyno fersiwn derfynol y traethawd ymchwil.
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon PhD drwy Waith a Gyhoeddwyd o ran sylwedd a strwythur.
2. Mân gywiriadau i'r adolygiad beirniadol i’w cyflwyno o fewn 3 mis; Pasio
Fel arfer i'w cymeradwyo gan arholwr mewnol.
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon PhD drwy Waith a Gyhoeddwyd o ran sylwedd a strwythur; mae'r cywiriadau'n ymwneud â manylion. Nid oes angen cwblhau gwaith ymchwil pellach na gwaith sylweddol arall. Mae enghreifftiau nodweddiadol o fân gywiriadau'n cynnwys gwallau teipio, pwyntiau egluro, aralleirio, golygu, ychwanegu paragraffau a chywiro cyfeiriadau.
3. Cyflwyno cywiriadau sylweddol a/neu newidiadau i'r adolygiad beirniadol o fewn 6 mis; Pasio
Nid yw hwn yn opsiwn ar gyfer traethodau ymchwil a ailgyflwynwyd.
Fel arfer i'w cymeradwyo gan yr arholwr mewnol a'r arholwr allanol neu, yn ôl doethineb y Bwrdd Arholi, gan yr arholwr mewnol yn unig.
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon PhD drwy Waith a Gyhoeddwyd yn nhermau sylwedd, ond er mwyn pasio, mae angen newidiadau sy'n sylweddol - ond gellir eu nodi a’u mesur yn amlwg - o ran a) cyflwyno'r ymchwil e.e. ynghylch y cyflwyniad/casgliad; neu b) strwythur e.e. ynghylch aildrefnu'r data/adrannau/penawdau; neu c) ychwanegu deunydd newydd nad yw’n hwy nag un bennod, lle mae'r Bwrdd Arholi o'r farn bod modd gwneud newidiadau o'r fath o fewn cyfnod o 6 mis.
4. Penderfyniad wedi'i ohirio hyd nes y caiff y traethawd ymchwil ei ailgyflwyno o fewn 6 mis (addasu'r adolygiad beirniadol a'i ailgyflwyno wedi'i ategu gan yr un cyhoeddiadau ac yna ei ailarholi.
Nid yw hwn yn opsiwn ar gyfer traethodau ymchwil a ailgyflwynwyd.
Fel arfer i'w ailarholi gan yr un tîm o arholwyr mewnol ac allanol. Fel rheol, bydd ail arholiad llafar. Fodd bynnag, ar ôl darllen y traethawd ymchwil a ailgyflwynwyd, gall arholwyr ddefnyddio eu disgresiwn i hepgor yr ail arholiad llafar.
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil o safon PhD drwy Waith a Gyhoeddwyd yn ei ffurf bresennol; fodd bynnag, o ran sylwedd, mae gwir botensial ar sail yr hyn sydd wedi'i gyflwyno eisoes, y gallai'r ymgeisydd, o fewn cyfnod o 6 mis, gyflwyno traethawd ymchwil o safon briodol; gallai fod angen newidiadau/addasiadau/ychwanegiadau yn ymwneud â sylwedd a chyflwyniad.
5. Penderfyniad wedi'i ohirio tan y caiff y traethawd ymchwil ei ailgyflwyno o fewn 3 blynedd fan bellaf – amserlen i'w phennu gan y Bwrdd Arholi (addasu'r adolygiad beirniadol a'i ailgyflwyno gyda chyhoeddiadau gwahanol neu gyhoeddiadau ychwanegol) ac yna ei ailarholi
Nid yw hwn yn opsiwn ar gyfer traethodau ymchwil a ailgyflwynwyd.
Fel arfer i'w ailarholi gan yr un tîm o arholwyr mewnol ac allanol. Fel rheol, bydd ail arholiad llafar. Fodd bynnag, ar ôl darllen y traethawd ymchwil a ailgyflwynwyd, gall arholwyr ddefnyddio eu disgresiwn i hepgor yr ail arholiad llafar.
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil o safon PhD drwy Waith a Gyhoeddwyd yn ei ffurf bresennol; fodd bynnag, o ran sylwedd, mae gwir botensial ar sail yr hyn sydd wedi'i gyflwyno eisoes, y gallai'r ymgeisydd, o fewn cyfnod hwyaf posibl o 3 blynedd (amserlen i'w phennu gan y Bwrdd Arholi), gyflwyno traethawd ymchwil o safon briodol; gallai fod angen newidiadau/addasiadau/ychwanegiadau yn ymwneud â sylwedd a chyflwyniad.
6. Methu, heb ei gymeradwyo ar gyfer y dyfarniad nac ar gyfer gradd ymchwil is
Fel opsiwn ar unwaith ac opsiwn wedi ailgyflwyno.
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil, fel y mae wedi'i gyflwyno a'i amddiffyn, o safon PhD drwy Waith a Gyhoeddwyd mewn gwirionedd ac nid oes ganddo'r potensial i fod o’r safon honno.
20.6 Canlyniadau ar gyfer Gradd Meistr mewn Athroniaeth (MPhil)
1. Pasio - dim cywiriadau
1 mis i gyflwyno fersiwn derfynol y traethawd ymchwil.
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon Meistr mewn Athroniaeth (MPhil) o ran sylwedd a strwythur.
2. Mân gywiriadau i'w cyflwyno o fewn 3 mis; Pasio
Fel arfer i'w cymeradwyo gan arholwr mewnol.
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon MPhil o ran sylwedd a strwythur; mae'r cywiriadau'n ymwneud â manylion. Nid oes angen cwblhau gwaith ymchwil pellach na gwaith sylweddol arall. Mae enghreifftiau nodweddiadol o fân gywiriadau'n cynnwys gwallau teipio, pwyntiau egluro, aralleirio, golygu, ychwanegu paragraffau a chywiro cyfeiriadau.
3. Cywiriadau sylweddol a/neu newidiadau i'w cyflwyno o fewn 6 mis; Pasio
Nid yw hwn yn opsiwn ar gyfer traethodau ymchwil a ailgyflwynwyd.
Fel arfer i'w cymeradwyo gan yr arholwr mewnol a'r arholwr allanol, neu yn ôl doethineb y Bwrdd Arholi gan yr arholwr mewnol yn unig;
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon MPhil o ran sylwedd, ond er mwyn pasio, mae angen newidiadau sy'n sylweddol - ond gellir eu nodi a’u mesur yn amlwg - o ran a) cyflwyno'r ymchwil e.e. ynghylch y cyflwyniad/casgliad; neu b) strwythur, e.e. ynghylch aildrefnu'r data/adrannau/penodau; neu c) ychwanegu deunydd newydd nad yw’n hwy nag un bennod, lle mae'r Bwrdd Arholi o'r farn bod modd gwneud newidiadau o'r fath o fewn cyfnod o 6 mis.
4. Penderfyniad wedi'i ohirio hyd nes y caiff y traethawd hir ei ailgyflwyno o fewn 12 mis
Nid yw hwn yn opsiwn ar gyfer traethodau ymchwil a ailgyflwynwyd.
Fel arfer i'w ailarholi gan yr un tîm o arholwyr mewnol ac allanol; fel rheol, bydd ail arholiad llafar; fodd bynnag, ar ôl darllen y traethawd ymchwil a ailgyflwynwyd, gall arholwyr ddefnyddio eu disgresiwn i hepgor yr ail arholiad llafar;
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil o safon MPhil yn ei ffurf bresennol; fodd bynnag, o ran sylwedd, mae gwir botensial ar sail yr hyn sydd wedi'i gyflwyno eisoes, y gallai'r ymgeisydd, o fewn cyfnod o 12 mis, gyflwyno traethawd ymchwil o safon briodol; gallai fod angen newidiadau/addasiadau/ychwanegiadau yn ymwneud â sylwedd a chyflwyniad.
5. Heb ei gymeradwyo ar gyfer MPhil, ond yn addas ar gyfer MA/MSc drwy Ymchwil (yn ei ffurf bresennol)
1 mis i gyflwyno fersiwn derfynol y traethawd ymchwil.
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon MA/MSc drwy Ymchwil o ran sylwedd a strwythur. Caniateir newid teitl y traethawd ymchwil a rhaid newid unrhyw gyfeiriadau at MPhil i MA/MSc drwy Ymchwil.
6. Heb ei gymeradwyo ar gyfer MPhil. Mân gywiriadau i'w cyflwyno o fewn tri mis; Pasio fel MA/MSc drwy Ymchwil (i’w gymeradwyo gan arholwr mewnol fel arfer)
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil, fel y mae wedi'i gyflwyno a'i amddiffyn, o safon MPhil mewn gwirionedd ac nid oes ganddo'r potensial i fod o’r safon honno; fodd bynnag, bernir bod y traethawd ymchwil o safon MA/MSc drwy Ymchwil o ran sylwedd a strwythur. Nid oes angen cwblhau gwaith ymchwil pellach na gwaith sylweddol arall. Mae enghreifftiau nodweddiadol o fân gywiriadau'n cynnwys gwallau teipio, pwyntiau egluro, aralleirio, golygu, ychwanegu paragraffau a chywiro cyfeiriadau.
7. Heb ei gymeradwyo ar gyfer MPhil. Penderfyniad wedi'i ohirio hyd nes y caiff y traethawd ymchwil ei ailgyflwyno fel MA/ MSc drwy Ymchwil o fewn 12 mis ac yna’i ailarholi.
Nid yw hwn yn opsiwn ar gyfer traethodau ymchwil a ailgyflwynwyd.
Fel arfer i'w ailarholi gan yr un tîm o arholwyr mewnol ac allanol. Fel rheol, bydd ail arholiad llafar. Fodd bynnag, ar ôl darllen y traethawd ymchwil a ailgyflwynwyd, gall arholwyr ddefnyddio eu disgresiwn i hepgor yr ail arholiad llafar.
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil, fel y mae wedi'i gyflwyno a'i amddiffyn, o safon MPhil mewn gwirionedd ac nid oes ganddo'r potensial i fod o’r safon honno, nac o safon MA/MSc drwy Ymchwil yn ei ffurf bresennol; fodd bynnag, o ran sylwedd, mae gwir botensial ar sail yr hyn sydd wedi'i gyflwyno eisoes, y gallai'r ymgeisydd, o fewn cyfnod o 6 mis, gyflwyno traethawd ymchwil MA/MSc drwy Ymchwil; fel arfer, bydd y newidiadau/ addasiadau/ychwanegiadau angenrheidiol yn ymwneud â sylwedd a chyflwyniad.
8. Methu; heb ei gymeradwyo ar gyfer y dyfarniad nac ar gyfer gradd ymchwil is
Fel opsiwn ar unwaith ac opsiwn wedi ailgyflwyno.
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil, fel y mae wedi'i gyflwyno a'i amddiffyn, o safon MPhil mewn gwirionedd ac nid oes ganddo'r potensial i fod o’r safon honno.
20.7 Canlyniadau ar gyfer y Radd Meistr yn y Celfyddydau drwy Ymchwil (MA drwy Ymchwil) a Meistr mewn Gwyddoniaeth drwy Ymchwil (MSc drwy Ymchwil)
1. Pasio - dim cywiriadau
1 mis i gyflwyno fersiwn derfynol y traethawd ymchwil
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon Meistr yn y Celfyddydau drwy Ymchwil (MA drwy Ymchwil) a Meistr mewn Gwyddoniaeth drwy Ymchwil (MSc drwy Ymchwil) o ran sylwedd a strwythur.
2. Mân gywiriadau i'w cyflwyno o fewn 1 mis; Pasio
Fel arfer i'w cymeradwyo gan arholwr mewnol.
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon MA drwy Ymchwil/MSc drwy Ymchwil o ran sylwedd a strwythur; mae'r cywiriadau'n ymwneud â manylion. Nid oes angen cwblhau gwaith ymchwil pellach na gwaith sylweddol arall. Mae enghreifftiau nodweddiadol o fân gywiriadau'n cynnwys gwallau teipio, pwyntiau egluro, aralleirio, golygu, ychwanegu paragraffau a chywiro cyfeiriadau.
3. Cywiriadau sylweddol a/neu newidiadau i'w cyflwyno o fewn 3 mis; Pasio
Nid yw hwn yn opsiwn ar gyfer traethodau ymchwil a ailgyflwynwyd.
Fel arfer i'w cymeradwyo gan yr arholwr mewnol a'r arholwr allanol, neu yn ôl doethineb y Bwrdd Arholi gan yr arholwr mewnol yn unig;
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon MA drwy Ymchwil/MSc drwy Ymchwil o ran sylwedd, ond er mwyn pasio, mae angen newidiadau sy'n sylweddol - ond gellir eu nodi a’u mesur yn amlwg - o ran a) cyflwyno'r ymchwil e.e. ynghylch y cyflwyniad/casgliad; neu b) strwythur, e.e. ynghylch aildrefnu'r data/adrannau/penodau; neu c) ychwanegu deunydd newydd nad yw’n hwy nag un bennod, pan fo’r Bwrdd Arholi o'r farn bod modd gwneud newidiadau o'r fath o fewn cyfnod o 3 mis.
4. Penderfyniad wedi'i ohirio hyd nes y caiff y traethawd ymchwil ei ailgyflwyno o fewn 6 mis
Nid yw hwn yn opsiwn ar gyfer traethodau ymchwil a ailgyflwynwyd.
Fel arfer i'w ailarholi gan yr un tîm o arholwyr mewnol ac allanol. Fel rheol, bydd ail arholiad llafar. Fodd bynnag, ar ôl darllen y traethawd ymchwil a ailgyflwynwyd, gall arholwyr ddefnyddio eu disgresiwn i hepgor yr ail arholiad llafar.
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil o safon MA drwy Ymchwil/MSc drwy Ymchwil yn ei ffurf bresennol; fodd bynnag, o ran sylwedd, mae gwir botensial ar sail yr hyn sydd wedi'i gyflwyno eisoes, y gallai'r ymgeisydd, o fewn cyfnod o 6 mis, gyflwyno traethawd ymchwil o safon briodol; gallai fod angen newidiadau/addasiadau/ychwanegiadau yn ymwneud â sylwedd a chyflwyniad.
5. Methu; heb ei gymeradwyo ar gyfer y dyfarniad nac ar gyfer gradd ymchwil is
Fel opsiwn ar unwaith ac opsiwn wedi ailgyflwyno.
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil, fel y mae wedi'i gyflwyno a'i amddiffyn, o safon MA drwy Ymchwil/MSc drwy Ymchwil mewn gwirionedd ac nid oes ganddo'r potensial i fod o’r safon honno.
20.8 Canlyniadau ar gyfer Gradd Meistr mewn Ymchwil (MRes)
1. Pasio - dim cywiriadau
1 mis i gyflwyno fersiwn derfynol y traethawd ymchwil.
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon Meistr mewn Ymchwil (MRes) o ran sylwedd a strwythur.
2. Mân gywiriadau i'w cyflwyno o fewn 1 mis; Pasio
Fel arfer i'w cymeradwyo gan arholwr mewnol.
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon MRes o ran sylwedd a strwythur; mae'r cywiriadau'n ymwneud â manylion. Nid oes angen cwblhau gwaith ymchwil pellach na gwaith sylweddol arall. Mae enghreifftiau nodweddiadol o fân gywiriadau'n cynnwys gwallau teipio, pwyntiau egluro, aralleirio, golygu, ychwanegu paragraffau a chywiro cyfeiriadau.
3. Cywiriadau sylweddol a/neu newidiadau i'w cyflwyno o fewn 3 mis; Pasio
Nid yw hwn yn opsiwn ar gyfer traethodau ymchwil a ailgyflwynwyd.
Fel arfer i'w cymeradwyo gan yr arholwr mewnol a'r arholwr allanol, neu yn ôl doethineb y Bwrdd Arholi gan yr arholwr mewnol yn unig;
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon MRes o ran sylwedd, ond er mwyn pasio, mae angen newidiadau sy’n sylweddol – ond y gellir eu nodi a’u mesur yn amlwg - o ran a) cyflwyno'r ymchwil e.e. ynghylch y cyflwyniad/casgliad; neu b) strwythur, e.e. ynghylch aildrefnu'r data/adrannau/penodau; neu c) ychwanegu deunydd newydd nad yw’n hwy nag un bennod, lle mae'r Bwrdd Arholi o'r farn bod modd gwneud newidiadau o'r fath o fewn cyfnod o 3 mis.
4. Penderfyniad wedi'i ohirio hyd nes y caiff y traethawd ymchwil ei ailgyflwyno o fewn 6 mis
Nid yw hwn yn opsiwn ar gyfer traethodau ymchwil a ailgyflwynwyd.
Fel arfer i'w ailarholi gan yr un tîm o arholwyr mewnol ac allanol; fel rheol, bydd ail arholiad llafar; fodd bynnag, ar ôl darllen y traethawd ymchwil a ailgyflwynwyd, gall arholwyr ddefnyddio eu disgresiwn i hepgor yr ail arholiad llafar.
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil o safon MRes yn ei ffurf bresennol; fodd bynnag, o ran sylwedd, mae gwir botensial ar sail yr hyn sydd wedi'i gyflwyno eisoes, y gallai'r ymgeisydd, o fewn cyfnod o 6 mis, gyflwyno traethawd ymchwil o safon briodol; gallai fod angen newidiadau/addasiadau/ychwanegiadau yn ymwneud â sylwedd a chyflwyniad.
5. Methu; heb ei gymeradwyo ar gyfer y dyfarniad nac ar gyfer gradd ymchwil is
Fel opsiwn ar unwaith ac opsiwn wedi ailgyflwyno.
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil, fel y mae wedi'i gyflwyno a'i amddiffyn, o safon MRes mewn gwirionedd ac nid oes ganddo'r potensial i fod o’r safon honno.
20.9 Canlyniadau ar gyfer y radd Doethur mewn Gweinyddu Busnes
1. Pasio – dim cywiriadau
1 mis i gyflwyno fersiwn derfynol y traethawd ymchwil.
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon Doethur mewn Gweinyddu Busnes o ran sylwedd a strwythur.
2. Mân gywiriadau i'w cyflwyno o fewn 3 mis; Pasio
Fel arfer i'w cymeradwyo gan arholwr mewnol
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon Gradd Doethur mewn Gweinyddu Busnes Proffesiynol o ran strwythur a chynnwys; mae'r cywiriadau'n ymwneud â manylion. Nid oes angen cwblhau gwaith ymchwil pellach na gwaith sylweddol arall. Mae enghreifftiau nodweddiadol o fân gywiriadau'n cynnwys gwallau teipio, pwyntiau egluro, aralleirio, golygu, ychwanegu paragraffau a chywiro cyfeiriadau.
3. Cywiriadau sylweddol a/neu newidiadau i'w cyflwyno o fewn 6 mis; Pasio
Nid yw hwn yn opsiwn ar gyfer traethodau ymchwil a ailgyflwynwyd.
Fel arfer i'w cymeradwyo gan yr arholwr mewnol a'r arholwr allanol, neu yn ôl doethineb y Bwrdd Arholi gan yr arholwr mewnol yn unig;
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon gradd Doethur mewn Gweinyddu Busnes o ran sylwedd, ond er mwyn pasio, mae angen newidiadau sy'n sylweddol - ond gellir eu nodi a’u mesur yn amlwg - o ran a) cyflwyno'r ymchwil e.e. ynghylch y cyflwyniad/casgliad; neu b) strwythur e.e. ynghylch aildrefnu'r data/ adrannau/penawdau; neu c) ychwanegu deunydd newydd nad yw’n hwy nag un bennod, lle mae'r Bwrdd Arholi o'r farn bod modd gwneud newidiadau o'r fath o fewn cyfnod o 6 mis.
4. Penderfyniad wedi'i ohirio hyd nes y caiff y traethawd hir ei ailgyflwyno o fewn 12 mis
Nid yw hwn yn opsiwn ar gyfer traethodau ymchwil a ailgyflwynwyd.
Fel arfer i'w ailarholi gan yr un tîm o arholwyr mewnol ac allanol. Fel rheol, bydd ail arholiad llafar. Fodd bynnag, ar ôl darllen y traethawd ymchwil a ailgyflwynwyd, gall arholwyr ddefnyddio eu disgresiwn i hepgor yr ail arholiad llafar.
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil o safon Doethur mewn Gweinyddu Busnes yn ei ffurf bresennol. Fodd bynnag, o ran sylwedd, mae gwir botensial ar sail yr hyn sydd wedi'i gyflwyno eisoes, a gallai'r ymgeisydd, o fewn cyfnod o 12 mis, gyflwyno traethawd ymchwil o safon briodol; gallai fod angen newidiadau/addasiadau/ychwanegiadau yn ymwneud â chynnwys a chyflwyniad.
5. Heb ei Gymeradwyo ar gyfer Gradd Doethur mewn Gweinyddu Busnes ond yn briodol i'w basio fel Gradd Meistr (MSc) drwy Ymchwil (yn ei ffurf bresennol)
1 mis i gyflwyno fersiwn derfynol y traethawd ymchwil.
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon Gradd Meistr (MSc) drwy Ymchwil o ran sylwedd a strwythur. Caniateir newidiadau i deitl y traethawd ymchwil a rhaid newid unrhyw gyfeiriad at Radd Doethur mewn Gweinyddu Busnes i Radd Meistr (MSc) drwy Ymchwil.
6. Heb ei Gymeradwyo ar gyfer Doethuriaeth mewn Gweinyddu Busnes. Mân gywiriadau i'w cyflwyno o fewn tri mis; Pasio fel Gradd Meistr (MSc) drwy Ymchwil (fel arfer i'w gymeradwyo gan arholwr mewnol)
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil, fel y mae wedi'i gyflwyno a'i amddiffyn, o safon Gradd Doethur mewn Gweinyddu Busnes mewn gwirionedd ac nid oes ganddo'r potensial i fod o’r safon honno. Fodd bynnag, bernir bod y traethawd ymchwil o safon Gradd Meistr (MSc) drwy Ymchwil o ran cynnwys a strwythur. Nid oes angen cwblhau gwaith ymchwil pellach na gwaith sylweddol arall. Mae enghreifftiau nodweddiadol o fân gywiriadau'n cynnwys gwallau teipio, pwyntiau egluro, aralleirio, golygu, ychwanegu paragraffau a chywiro cyfeiriadau.
7. Heb ei Gymeradwyo ar gyfer Doethuriaeth mewn Gweinyddu Busnes. Penderfyniad wedi'i ohirio hyd nes y caiff y traethawd ymchwil ei ailgyflwyno fel gradd Meistr (MSc) drwy Ymchwil o fewn 12 mis ac yna’i ailarholi.
Nid yw hwn yn opsiwn ar gyfer traethodau ymchwil a ailgyflwynwyd
Fel arfer i'w ailarholi gan yr un tîm o arholwyr mewnol ac allanol. Fel rheol, bydd ail arholiad llafar. Fodd bynnag, ar ôl darllen y traethawd ymchwil a ailgyflwynwyd, gall arholwyr ddefnyddio eu disgresiwn i hepgor yr ail arholiad llafar.
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil, fel y mae wedi'i gyflwyno a'i amddiffyn, o safon Doethuriaeth mewn Gweinyddu Busnes mewn gwirionedd ac nid oes ganddo'r potensial i fod o’r safon honno, nac o safon Gradd Meistr (MSc) drwy Ymchwil yn ei ffurf bresennol. Fodd bynnag, o ran sylwedd, mae gwir botensial ar sail yr hyn sydd wedi'i gyflwyno eisoes, y gallai'r ymgeisydd, o fewn cyfnod o 12 mis, gyflwyno traethawd ymchwil o safon Gradd Meistr (MSc) drwy Ymchwil; fel arfer, bydd y newidiadau/addasiadau/ychwanegiadau angenrheidiol yn ymwneud â sylwedd a chyflwyniad.
8. Methu; heb ei gymeradwyo ar gyfer y dyfarniad nac ar gyfer gradd ymchwil is
Fel opsiwn ar unwaith ac opsiwn wedi ailgyflwyno
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil fel y mae wedi'i gyflwyno a'i amddiffyn o safon naill ai Gradd Doethur mewn Gweinyddu Busnes na Gradd Meistr (MSc) drwy Ymchwil, mewn gwirionedd ac nid oes ganddo’r potensial i fod o'r safon honno.
20.10 Canlyniadau ar gyfer Gradd ar y Cyd Doethur mewn Athroniaeth (PhD)
1. Pasio (dim cywiriadau)
1 mis i gyflwyno fersiwn derfynol y traethawd ymchwil.
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon PhD o ran sylwedd a strwythur.
2. Pasio (yn amodol ar gywiriadau) - rhaid cyflwyno'r cywiriadau o fewn 3 mis;
Nid yw hwn yn opsiwn ar gyfer traethodau ymchwil a ailgyflwynwyd.
Fel arfer i'w cymeradwyo gan yr arholwr mewnol a'r arholwr allanol, neu yn ôl doethineb y bwrdd arholi gan yr arholwr mewnol yn unig.
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon PhD o ran sylwedd a strwythur, ond er mwyn pasio, mae angen newidiadau sylweddol y gellir eu nodi’n glir a’u mesur yn amlwg o ran a) cyflwyniad yr ymchwil e.e. ynghylch y cyflwyniad/casgliad; neu b) y strwythur, e.e. ynghylch aildrefnu'r data/adrannau/penodau; neu c) ychwanegu deunydd newydd nad yw’n hwy nag un bennod, pan fo’r Bwrdd Arholi o'r farn bod modd gwneud newidiadau o'r fath o fewn cyfnod o 3 mis.
3. Ailgyflwyno (penderfyniad wedi'i ohirio nes bod y traethawd ymchwil wedi'i ailgyflwyno i'w ailarholi o fewn 12 mis);
Nid yw hwn yn opsiwn ar gyfer traethodau ymchwil a ailgyflwynwyd.
Fel arfer i'w ailarholi gan yr un tîm o arholwyr mewnol ac allanol. Fel rheol, bydd ail arholiad llafar. Fodd bynnag, ar ôl darllen y traethawd ymchwil a ailgyflwynwyd, gall arholwyr ddefnyddio eu disgresiwn i hepgor yr ail arholiad llafar.
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil o safon PhD yn ei ffurf bresennol; fodd bynnag, o ran sylwedd, mae gwir botensial ar sail yr hyn sydd wedi'i gyflwyno eisoes, y gallai'r ymgeisydd, o fewn cyfnod o 12 mis, gyflwyno traethawd ymchwil o safon briodol; gallai fod angen newidiadau/addasiadau/ychwanegiadau yn ymwneud â sylwedd a chyflwyniad.
4. Heb ei gymeradwyo ar gyfer PhD ond yn briodol ar gyfer pasio fel MPhil Prifysgol Abertawe (yn ei ffurf bresennol);
1 mis i gyflwyno fersiwn derfynol y traethawd ymchwil.
Diffiniad: Bernir bod y traethawd ymchwil o safon Meistr mewn Athroniaeth (MPhil) Prifysgol Abertawe o ran sylwedd a strwythur. Caniateir newidiadau i deitl y traethawd ymchwil a rhaid i bob cyfeiriad at PhD gael ei newid i MPhil Prifysgol Abertawe (dyfarniad gan Brifysgol Abertawe yw hwn nid dyfarniad ar y cyd). Sylwer, efallai na fydd y canlyniad hwn yn bosib i rai rhaglenni ar y cyd.
5. Heb ei gymeradwyo ar gyfer PhD. Mân gywiriadau i'w cyflwyno o fewn tri mis; Pasio fel MPhil Prifysgol Abertawe
Fel arfer i'w cymeradwyo gan arholwr mewnol.
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil, fel y mae wedi'i gyflwyno a'i amddiffyn, o safon PhD mewn gwirionedd ac nid oes ganddo'r potensial i fod o’r safon honno; fodd bynnag, bernir bod y traethawd ymchwil o safon MPhil Prifysgol Abertawe o ran sylwedd a strwythur. Nid oes angen cwblhau gwaith ymchwil pellach na gwaith sylweddol arall. Mae enghreifftiau nodweddiadol o fân gywiriadau'n cynnwys gwallau teipio, pwyntiau egluro, aralleirio, golygu, ychwanegu paragraffau a chywiro cyfeiriadau. Nid yw MPhil Prifysgol Abertawe'n cael ei ddyfarnu fel dyfarniad ar y cyd. Sylwer, efallai na fydd y canlyniad hwn yn bosib i rai rhaglenni ar y cyd.
6. Heb ei gymeradwyo ar gyfer PhD. Penderfyniad wedi'i ohirio hyd nes y caiff y traethawd ymchwil ei ailgyflwyno fel MPhil Prifysgol Abertawe o fewn 12 mis ac yna’i ailarholi
Nid yw hwn yn opsiwn ar gyfer traethawd ymchwil wedi'i ailgyflwyno.
Fel arfer i'w ailarholi gan yr un tîm o arholwyr mewnol ac allanol; fel rheol, bydd ail arholiad llafar. Fodd bynnag, ar ôl ystyried y traethawd ymchwil a ailgyflwynwyd, gall yr arholwyr ddefnyddio eu disgresiwn i hepgor yr ail arholiad llafar).
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil, fel y mae wedi'i gyflwyno a'i amddiffyn, o safon PhD mewn gwirionedd ac nid oes ganddo'r potensial i fod o’r safon honno, nac o safon MPhil Prifysgol Abertawe yn ei ffurf bresennol; fodd bynnag, o ran sylwedd, mae gwir botensial, ar sail yr hyn sydd wedi'i gyflwyno eisoes, y gallai'r ymgeisydd, o fewn cyfnod o 12 mis, gyflwyno traethawd ymchwil o safon MPhil Prifysgol Abertawe; fel arfer, bydd y newidiadau/addasiadau/ychwanegiadau angenrheidiol yn ymwneud â sylwedd a chyflwyniad. Nid yw MPhil Prifysgol Abertawe'n cael ei ddyfarnu fel dyfarniad ar y cyd. Sylwer, efallai na fydd y canlyniad hwn yn bosib i rai rhaglenni ar y cyd.
7. Methu; heb ei gymeradwyo ar gyfer dyfarnu gradd ymchwil is
Fel opsiwn ar unwaith ac opsiwn wedi ailgyflwyno.
Diffiniad: Ni fernir bod y traethawd ymchwil, fel y mae wedi'i gyflwyno a'i amddiffyn, o safon PhD nac MPhil Prifysgol Abertawe mewn gwirionedd ac nid oes ganddo'r potensial i fod o safon PhD nac MPhil.
21. Gwybodaeth i Gyd-fynd â Chanlyniadau'r Arholiad ar gyfer y Graddau Uchod
Os nad yw’r cywiriadau, y newidiadau neu'r ail-gyflwyniad y gofynnwyd amdanynt wedi'u cwblhau er boddhad yr arholwyr neu eu cyflwyno i graffu arnynt o fewn y cyfnod amser a roddwyd, ni fydd yr ymgeisydd yn cael ei gymeradwyo ar gyfer y dyfarniad neu radd is. Nid oes modd dyfarnu gradd is i bob doethuriaeth ac felly mae'r trefniant dyfarniad ymadael yn berthnasol.
- Pan ofynnir i’r ymgeisydd ailgyflwyno, rhaid i ymgeiswyr dalu'r ffi ailgyflwyno berthnasol.
- Gellir rhoi un cyfle i ymgeiswyr i ailgyflwyno gwaith.
22. Sefyllfa: Wedi’i Gymeradwyo gyda Chywiriadau/Newidiadau (hefyd yn berthnasol i Heb ei Gymeradwyo, ond Wedi’i Gymeradwyo am Ddyfarniad Is gyda Chywiriadau/Newidiadau)
22.1
Bydd y myfyriwr yn derbyn rhestr o gywiriadau/newidiadau gan yr arholwyr a bydd yn cael ei hysbysu y dylid cwblhau’r cywiriadau/newidiadau o fewn y cyfnod penodol a nodwyd ar ôl derbyn y rhestr o gywiriadau/newidiadau. Gall y rhestr o gywiriadau/newidiadau fod ar ffurf copi anodedig o’r traethawd ymchwil gan un o’r arholwyr neu’r ddau ohonynt a/neu ddogfen fer yn rhoi manylion y cywiriadau wedi’i pharatoi gan un o'r arholwyr neu’r ddau ohonynt. Adeg yr arholiad llafar bydd un o’r arholwyr neu’r ddau ohonynt wedi cael y cyfrifoldeb o graffu ar y cywiriadau/newidiadau.
22.2
Dylai’r myfyriwr gyflwyno ei gywiriadau/newidiadau i’r arholwr(wyr) enwebedig i’w cymeradwyo. Gellir cyflwyno cywiriadau/newidiadau mewn fformat electronig drwy gytundeb ymlaen llawn gan bob parti a dylid cyflwyno hefyd ddogfen yn amlinellu’r cywiriadau/newidiadau a gafodd eu hawgrymu a’r camau a gafodd eu cymryd gan y myfyriwr i weithredu’r cywiriadau/newidiadau hynny. Dylai’r arholwr enwebedig nodi yn ysgrifenedig bod cywiriadau/newidiadau wedi eu derbyn ac a yw’r cywiriadau/newidiadau yn dderbyniol ai peidio.
22.3
Os yw'r cywiriadau/newidiadau'n dderbyniol, dylid rhoi gwybod i'r Gwasanaethau Addysg bod y cywiriadau/newidiadau wedi cael eu gwirio. Dylid gofyn i’r myfyriwr gyflwyno copïau terfynol o’r traethawd ymchwil (gweler Canllawiau ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil ar Gyflwyno Traethawd Ymchwil am fanylion) cyn gynted â phosibl. Unwaith y bydd copïau terfynol o'r traethawd ymchwil wedi dod i law, bydd y Gwasanaethau Academaidd yn rhoi gwybod i'r myfyriwr y bydd yn cael ei dderbyn i'r radd yn ei absenoldeb.
22.4
Os bernir nad yw’r cywiriadau/newidiadau’n dderbyniol, neu os na chânt eu darparu o fewn yr amserlen y cytunwyd arni, yna bernir nad yw’r myfyriwr wedi bodloni’r amodau a osodwyd gan y Bwrdd Arholi a bydd canlyniad o Heb ei Gymeradwyo yn cael ei gofnodi.
22.5
Nid oes modd dyfarnu gradd is i bob doethuriaeth ac felly mae'r trefniant dyfarniad ymadael yn berthnasol.
23. Sefyllfa: Heb ei Gymeradwyo, ond Caniatâd i Ailgyflwyno (hefyd yn berthnasol i Heb ei Gymeradwyo, ond Caniatâd i Ailgyflwyno am Radd Is)
23.1
Bydd yr arholwyr yn rhoi gwybod i’r myfyriwr pa feysydd yn y traethawd ymchwil y mae angen eu diwygio’n sylweddol a bydd yn cael ei hysbysu y caiff gyfnod o un flwyddyn (chwe mis neu gyfnod a nodir gan y Bwrdd Arholi ar gyfer PhD drwy Waith a Gyhoeddwyd) i ailgyflwyno’r traethawd ymchwil. Fel rheol, rhaid sefyll ail arholiad llafar ar ôl ailgyflwyno traethawd ymchwil. Mewn achosion eithriadol iawn, efallai bydd modd hepgor y gofyniad am ail arholiad llafar yn ôl disgresiwn yr arholwyr os byddant yn cytuno ar basio ar ôl i draethawd ymchwil gael ei ailgyflwyno. Yn y senario hwn, bydd Cadeirydd y Bwrdd Arholi yn rhoi gwybod i'r myfyriwr bod y gofyniad am ail arholiad llafar wedi'i hepgor.
23.2
Bydd y Gwasanaethau Addysg yn rhoi gwybod i’r myfyriwr bod ganddo’r cyfle i ailgyflwyno’r traethawd ymchwil rhwng chwe mis ac un flwyddyn ar ôl dyddiad yr hysbysiad. Bydd y myfyriwr yn cael mynediad i’r Llyfrgell ac at gyfleusterau cyfrifiadurol a dylai gadw mewn cysylltiad rheolaidd â’i oruchwylwyr yn ystod y cyfnod ailgyflwyno.
23.3
Dylai’r myfyriwr ddilyn y gweithdrefnau ar gyfer cyflwyno traethawd ymchwil (gweler y Canllawiau ar Gyflwyno Traethawd Ymchwil ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil am fanylion) cyn diwedd y cyfnod ailgyflwyno.
23.4
Os na fydd y myfyriwr yn ailgyflwyno’r traethawd ymchwil o fewn yr amserlen y cytunwyd arni, yna bernir nad yw’r myfyriwr wedi bodloni’r amodau a osodwyd gan y Bwrdd Arholi a bydd canlyniad o Heb ei Gymeradwyo yn cael ei gofnodi.
23.5
Nid oes modd dyfarnu gradd is i bob doethuriaeth ac felly mae'r trefniant dyfarniad ymadael yn berthnasol.
24. Sefyllfa: Heb ei Gymeradwyo
Ar ôl i'r Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau gymeradwyo'r argymhelliad, bydd y Gwasanaethau Addysg yn rhoi gwybod i'r myfyriwr nad yw wedi cael ei gymeradwyo ar gyfer y dyfarniad na gradd is. Os bydd y myfyriwr yn gymwys am ddyfarniad ymadael, bydd yn rhaid iddo gyflwyno cais am y dyfarniad i'r Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau. Nid yw pob doethuriaeth yn cynnig y posibilrwydd o gael gradd is ac felly bydd trefniant dyfarniad ymadael yn berthnasol.