Mae gan fyfyrwyr rôl allweddol wrth gyd-greu'r cwricwlwm ochr yn ochr â staff a rhanddeiliaid allanol. Mae'r ymagwedd gydweithredol hon yn gwerthfawrogi mewnwelediadau gan fyfyrwyr er mwyn sicrhau bod rhaglenni'n gynhwysol, yn canolbwyntio ar y dyfodol ac yn cyd-fynd â disgwyliadau yn y byd go iawn. Mae myfyrwyr yn cyd-greu drwy gymryd rhan mewn gweithdai a sesiynau ymgysylltu â myfyrwyr, arolygon, grwpiau ffocws a llwyfannau megis MyUniVoice. Mae myfyrwyr hefyd yn cael eu cynrychioli ar Fyrddau Astudiaethau ac mae ganddynt rôl i'w chwarae wrth adolygu arferion addysgu, asesu ac adborth. Mae'r cyfleoedd hyn yn helpu i ddylanwadu ar newid ystyrlon, meithrin ymdeimlad o berthyn a sicrhau bod y cwricwlwm yn adlewyrchu anghenion a blaenoriaethau amrywiol cymuned ein myfyrwyr.
Os hoffech chi gymryd rhan, cysylltwch â’ch tiwtor personol neu gyfarwyddwr y rhaglen i gael gwybodaeth am y cyfleoedd sydd ar gael.