Cofrestriad i fyfyrwyr sy'n parhau â'u hastudiaethau

Myfyrwyr sy'n gweithio ar gliniaduron mewn desgiau mewn llyfrgell

Dylech gynllunio i gyrraedd a chael rhywle i fyw o fewn pellter cymudo i Abertawe mewn pryd i astudio cwrs a gyflwynir ar y campws.

Er mwyn cadw eich cofnod myfyriwr yn weithredol, mae'n bwysig cofrestru erbyn y dyddiad dechrau addysgu neu ddyddiad dechrau'r cwrs ymchwil i gael mynediad at addysgu, dysgu ar-lein, deunyddiau cwrs digidol, ac i gael tystysgrif; gweler yr amserlen gofrestru ar gyfer dyddiadau.

Os byddwch yn cofrestru neu’n cyrraedd yn hwyr, cysylltwch Hwb ar unwaith i drafod eich cynlluniau.

Ar ôl Cofrestru

Ewch i sesiynau sefydlu a digwyddiadau Croeso eich ysgol

Sefydlu myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig a addysgir

Cwrdd â staff a gwneud ffrindiau yn eich sesiynau sefydlu a digwyddiadau Croeso eraill.

Ewch i sgwrs sefydlu am eich astudiaethau, eich tiwtoriaid, amserlen eich modiwlau, iechyd a diogelwch, cyfleusterau TG.

Gwiriwch eich amserlen addysgu a mynd i ddosbarthiadau ar ddechrau'r tymor.

Erbyn dechrau'r tymor dylech fod wedi dewis eich modiwlau, fel arfer 120 credyd ar gyfer astudiaethau amser llawn neu 60 credyd os ydych chi'n astudio ar sail ran-amser. Os oes angen i chi newid eich dewis o fodiwlau, gofynnwch i'r tîm cymorth myfyrwyr yn eich ysgol am gyngor cyn cofrestru ar gyfer modiwl.

Sefydlu myfyrwyr ymchwil

Ewch i sgwrs sefydlu am y system rheoli ymchwil (ap RMS e:Vision), cyfranogiad a phresenoldeb, iechyd a diogelwch, cyfleusterau TG a'ch cynllun gwaith.

Drwy gydol eich ymgeisyddiaeth, bydd y system RMS yn anfon nodiadau atgoffa misol drwy e-bost ynglŷn â llofnodi'ch cyfranogiad, a bob 3 mis bydd angen i chi roi manylion ar RMS ar gyfer eich cyfarfodydd â'ch goruchwyliwr a'ch cyfarfodydd dilyniant. Gofynnwch i'ch goruchwyliwr lofnodi'r cyntaf o'ch digwyddiadau cyfranogiad a phresenoldeb misol yn y System Rheoli Ymchwil (RMS).

Cofiwch gofnodi eich cadarnhad o ymgeisyddiaeth yn y System Rheoli Ymchwil (RMS) a llofnodi gyda'ch goruchwyliwr yn ystod trydydd mis eich astudiaethau.

I weld manylion am gyfarfodydd â'ch goruchwyliwr, cyfranogiad a phresenoldeb yn y System Rheoli Ymchwil (RMS), mewngofnodwch i'ch cyfrif MyUni a chliciwch ar yr ap e:Vision.

Dechreuwch gymryd rhan yn eich astudiaethau