Amdanom ni
Mae Prifysgol Abertawe yn Sefydliad Addysg Uwch sydd â phwerau dyfarnu graddau ac mae'n elusen gofrestredig.
Eich Cyfrifoldebau
Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod eich manylion personol yn gyfredol.
Gwybodaeth rydym yn ei chasglu amdanoch chi
Rydym yn casglu gwybodaeth amdanoch chi pan fyddwch chi'n cofrestru gyda ni. Rydym hefyd yn casglu gwybodaeth pan fyddwch chi'n cwblhau arolygon yn wirfoddol ac yn rhoi adborth. Cesglir gwybodaeth am ddefnydd o'r wefan drwy ddefnyddio cwcis.
Sut byddwn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth
Rydym yn casglu gwybodaeth amdanoch chi i gofnodi eich manylion personol, eich cynnydd academaidd, i reoli eich mynediad i gyfleusterau'r Brifysgol ac i e-bostio neu anfon negeseuon atoch am ddigwyddiadau, asesiadau academaidd a gwasanaethau yr ydym yn credu y gallent fod o ddiddordeb i chi fel y’i crybwyllir yn y Siarter Myfyrwyr.
Pwy sy'n cael eich gwybodaeth
Pan fo angen, bydd gwybodaeth bersonol yn cael ei rhannu'n fewnol ledled y Brifysgol ac yn allanol ag asiantaethau a sefydliadau yn unol â'n cyfrifoldebau statudol ac o dan y ddeddfwriaeth Diogelu Data gyfredol.
Am faint cedwir eich gwybodaeth
Bydd Prifysgol Abertawe yn cadw eich gwybodaeth bersonol yn unol â Pholisi Rheoli Cofnodion y Brifysgol.
Datganiad Preifatrwydd
I gael manylion llawn am eich hawliau mynediad, y polisi cadw gwybodaeth, diogelwch data, gyda phwy rydym yn rhannu data a sut i gysylltu â Swyddog Diogelu Data y Brifysgol os oes gennych gwestiynau am ein polisi preifatrwydd, gweler ein Hysbysiad Preifatrwydd Myfyrwyr.