Yn debyg i lawer o brifysgolion eraill, nid yw campysau Prifysgol Abertawe’n darparu lleoedd parcio i fyfyrwyr, sy'n un o'r rhesymau niferus pam rydym yn eich cynghori i adael eich car gartref pan fyddwch yn dod i'r Brifysgol. Yn ogystal â bod yn wasanaeth tacsi a gyrrwr dynodedig i'ch ffrindiau a phawb yn y tŷ, mae'n bosib na fydd cadw car yn gost-effeithiol a gall fod yn anodd parcio mewn ardaloedd myfyrwyr, hyd yn oed os oes lleoedd neilltuedig i breswylwyr. Serch hynny, rydym yn deall nad yw hyn yn bosib i bawb ac mae angen car mewn rhai sefyllfaoedd.
Os oes problem ynghylch parcio a'r hawl i gael mynediad, rydym yn awgrymu eich bod yn cysylltu â'ch cymdogion ac yn agor llinell gyfathrebu os ydych chi'n teimlo bod trefniant gwell yn bosib ar gyfer pob parti.
Oni bai bod cyfyngiadau parcio lleol yn rhoi hawl i le penodol, nid oes gan breswylwyr hawliau awtomatig i le parcio ar ffyrdd cyhoeddus, hyd yn oed y tu allan i'w tai - waeth a ydyn nhw'n rhentu neu'n berchen ar y tŷ. Fodd bynnag, mae gan yr holl breswylwyr hawl i gael mynediad i'w dreif neu eu garej. Os ydych yn rhannu dreif, mae gan bob person hawl mynediad ac ni ddylai'r naill na'r llall rwystro mynediad i'r dreif.
Mae gan yr awdurdod lleol a'r heddlu bwerau helaeth i symud cerbydau sydd wedi'u parcio'n anghyfreithlon ac sy'n rhwystro'r brif ffordd neu sydd wedi'u gadael. Ceir rhagor o wybodaeth ar y wefan am sut i roi gwybod am y problemau hyn.
Os hoffech ddefnyddio'r lleoedd parcio i breswylwyr, bydd angen i chi gyflwyno cais i'r cyngor am hawlen. Os ydych yn byw mewn tŷ amlfeddiant, bydd angen i chi gofrestru gan ddefnyddio'r ffurflen ar-lein hon cyn cyflwyno cais am hawlen. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu bodloni'r gofynion tystiolaeth a sylwch y bydd dwy hawlen yn unig ar gael i bob aelwyd.