Yng nghyd-destun tai, caiff ymddygiad gwrthgymdeithasol ei ddiffinio fel ymddwyn mewn ffordd sy'n achosi niwsans neu annifyrrwch i rywun.
Efallai y bydd hi'n anodd gwahaniaethu rhwng ymddygiad gwrthgymdeithasol ac anghydfodau rhwng cymdogion dros anghyfleustra sy'n gymharol anarwyddocaol er y gall y rhain fod yn ymddygiad gwrthgymdeithasol os yw'n gyson.
Gall ymddygiad gwrthgymdeithasol gynnwys:
- ymddygiad bygythiol gan gymdogion ac eraill drwy fygythiadau neu drais
- aflonyddu
- cam-drin drwy eiriau
- ymddygiad ymosodol â'r nod o achosi trallod neu ofn
- sŵn
- gadael sbwriel
- niwsans oherwydd anifail, gan gynnwys baw cŵn
- fandaliaeth, difrod i eiddo a graffiti
Os ydych chi am gymryd camau yn erbyn ymddygiad gwrthgymdeithasol, y peth cyntaf dylech chi ei wneud yw cadarnhau pwy sy'n gyfrifol am yr ymddygiad. Mae hefyd yn bwysig cadarnhau a yw'r ymddygiad yn fwriadol neu'n anfwriadol.
Gall unrhyw landlord gymryd camau yn erbyn ymddygiad gwrthgymdeithasol, er ei bod hi'n fwy tebygol y bydd awdurdodau lleol a chymdeithasau tai yn gwneud hynny. Gall yr Heddlu gymryd camau mewn perthynas ag ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n drosedd a gall erlyn mewn amgylchiadau penodol. Er mwyn rhoi gwybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol, gallwch ddefnyddio'r ffurflen hon neu ffonio 101, sef y llinell ar gyfer galwadau nad ydynt yn rhai brys. Wrth gwrs, os byddwch yn teimlo eich bod chi neu rywun arall mewn perygl brys, rydym ni'n eich annog i ffonio 999.